Dewislen
English
Cysylltwch

Claire Fayers a’i nofel Storm Hound yn cipio gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020

Cyhoeddwyd Gwe 3 Gor 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Claire Fayers a’i nofel Storm Hound yn cipio gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020
Yn ddiweddarach heno, ar y BBC Wales Arts Show, cyhoeddwyd mai Claire Fayers â’i nofel Storm Hound yw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020.

Roedd Storm Hound ymhlith pedwar o lyfrau Saesneg ac iddynt gefndir Cymreig dilys ar restr fer y gwobrau llenyddiaeth plant a phobl ifanc, sy’n cael eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Cyflwynwyd siec o £1,000 yn wobr i Claire Fayers, ynghyd â cherdd gan y Children’s Laureate Wales Eloise Williams a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

Mae Storm Hound yn adrodd hanes Storm of Odin, aelod ieuengaf cŵn drycin yr Helfa Wyllt sy’n hedfan drwy stormydd llawn mellt. Bu’n dyheu am yr amser pan gâi ymuno â’i frodyr a’i chwiorydd ond ar ei helfa gyntaf un, mae’n darganfod na all hedfan yn ddigon cyflym i aros gyda’r lleill ac mae’n syrthio i’r ddaear, gan lanio ar yr A40 ger y Fenni.

Daw Jessica Price, sy’n 12 oed, ar draws ci bach del mewn canolfan achub anifeiliaid ac mae’n ei fabwysiadu. Mewn antur llawn cyffro, buan iawn mae’n dechrau sylweddoli nad ci cyffredin mo’i chi bach annwyl hi.

Cafodd Claire Fayers ei magu yng Nghasnewydd,  ond erbyn hyn mae hi wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Yn 2019, derbyniodd ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru i’w chynorthwyo i ddatblygu’r nofel hon. Ym Mai 2020, cyhoeddwyd fod Claire yn un o’r 10 awdur a gafodd eu comisiynu yn y rownd gyntaf o Waith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru sydd wedi ei ddatblygu i alluogi awduron llawrydd i barhau i dderbyn gwaith â thâl yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd. Mae prosiect Claire, Write Where You Are, yn gyfres o fideos gyda gweithgareddau a heriau ysgrifennu wedi eu hanelu at blant ysgol gynradd.

Wrth siarad am ei buddugoliaeth, dywedodd Claire Fayers:

“Dwi wrth fy modd fy mod wedi ennill gwobr Saesneg Tir na n-Og eleni. Dwi wedi bod yn darllen llyfrau o restrau byr Tir na n-Og cyhyd ag y gallaf gofio. Maen nhw’n cynrychioli’r gorau o lenyddiaeth o Gymru i blant a phobl ifanc, felly mae ennill yn anrhydedd aruthrol.”

Dywedodd cadeirydd panel beirniaid llyfrau Saesneg Tir na n-Og 2020, Eleri Twynog Davies:

“Llongyfarchiadau mawr i Storm Hound – stori hudolus ac iddi themâu cryf yn ymwneud â chyfeillgarwch a pherthyn. Roedd y cymeriadau wedi’u datblygu’n ardderchog, gan roi i ni eiliadau o hiwmor ac ing.

Roedd straeon pob un o’r pedwar llyfr ar y rhestr fer wedi’u gosod ar gefndir Cymreig ac roedd yr ymdeimlad yma o le yn cyfrannu at eu hapêl gyffredinol. Mae hyn yn faen prawf canolog ar gyfer y wobr hon, ac roeddem ni fel beirniaid yn gweld ei eisiau mewn llawer o’r cyfrolau eraill. Mae mor bwysig bod plant ar hyd a lled Cymru yn gallu gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu rhwng dau glawr a bod gan blant y tu hwnt i Gymru ffenest ar ddiwylliant arall.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru:

“Mae ennyn cariad at ddarllen ymhlith ein plant a’n pobl ifanc yn hynod o bwysig. Mae’n eu helpu nid yn unig i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau llythrennedd, mae hefyd yn fuddiol o ran eu hiechyd meddwl a’u lles. Mae Gwobrau Tir na n-Og yn dathlu ysgrifennu gwych ar gyfer y genhedlaeth iau ac yn sicrhau bod straeon ac iddynt leoliad Cymreig unigryw yn cael eu cynrychioli yn y gorau o lenyddiaeth ein gwlad. Estynnwn ein diolch a’n llongyfarchiadau diffuant i bawb sy’n ymwneud â’r gwobrau, ac yn arbennig heddiw i Claire Fayers.”

Y tri theitl arall ar restr fer gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020 oedd The Secret Dragon gan Ed Clarke (Puffin), Max Kowalski Didn’t Mean It gan Susie Day (Puffin) a Where Magic Hides gan Cat Weatherill (Gomer)

Caiff enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2020 eu cyhoeddi ar y rhaglen Heno ar S4C am 6.30yh nos Wener, 10 Gorffennaf. Ar y Rhestr Fer Gynradd y mae Y Ddinas Uchel– Huw Aaron (Atebol 2019), Genod Gwych a Merched Medrus– Medi Jones-Jackson (Y Lolfa 2019) a Pobol Drws Nesaf – Manon Steffan Ros a Jac Jones (Y Lolfa 2019), ac ar y Rhestr Fer Uwchradd y mae Byw yn fy Nghroen – Gol. Sioned Erin Hughes (Y Lolfa 2019), Tom – Cynan Llwyd (Y Lolfa 2019) a Madi – Dewi Wyn Williams (Atebol 2019).