Cyfle i Ymuno ag Encil o Awduron Rhyngwladol fel Llysgennad Llenyddol dros Gymru

Am bythefnos ym mis Mai 2025, bydd Tŷ Newydd yn dod yn gartref i 14 awdur Ewropeaidd, fydd yn cydweithio yn greadigol ar brosiectau o gylch y themâu o ecoleg, yr argyfwng hinsawdd, cymdeithas a phobl. Bydd pob un o’r 14 awdur yn gweithio mewn iaith leiafrifol, ac yn cydweithio i archwilio ieithoedd, tirweddau a chymunedau.
Bydd naw awdur yn cael eu dewis o blith gwledydd yn Ewrop, a phum awdur yn cael eu dewis o Gymru. Bydd yr awduron o Gymru yn ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg neu mewn iaith leiafrifol arall.
Yn ystod yr encil, bydd rhaglen greadigol o sgyrsiau, gweithdai a thrafodaethau grŵp, a thripiau yn cael ei drefnu ar gyfer yr awduron. Bydd yr awduron hefyd yn cael eu gwahodd i arwain gweithgaredd i’r grŵp. Bydd yr encil yn dod i ben gyda dathliad i rannu gwaith ac i rwydweithio yng Ngŵyl y Gelli 2025.
Cyn ymgeisio, gofynnwn yn garedig i chi ddarllen y pecyn gwybodaeth manwl isod. Neu os yr hoffech chi unrhyw wybodaeth bellach am y cyfle hwn, neu sgwrs ag aelod o staff cyn ymgeisio, cysylltwch â post@llenyddiaethcymru.org gyda EUNIC ym mlwch testun yr ebost.
Mae’r dyddiad cau i ymgeisio am le bellach wedi pasio.
Sut i ymgeisio
Ar ôl darllen y pecyn gwybodaeth, llenwch y ffurflen gais hon ar Survey Monkey, neu mae fersiwn hygyrch ar gael i’w lawrlwytho isod.
Caiff yr encil ei gefnogi a’i ariannu gan EUNIC.