Cyhoeddi 6 mentor ar gyfer Carfan Sgwennu’n Well | Writing Well 2025-2026

Mae Sgwennu’n Well | Writing Well yn rhaglen ddatblygu 15 mis ar gyfer ymarferwyr llenyddol yng Nghymru. Nod Llenyddiaeth Cymru wrth redeg y rhaglen yw cynnig y cyfle i awduron ddatblygu a ehangu’r sgiliau ar wybodaeth sydd eu hangen arnynt i hwyluso gweithgareddau llenyddol yn y gymuned, yn benodol ym maes Iechyd a Llesiant.
Mae sesiynau mentora yn ran allweddol o’r rhaglen. Bydd y Mentoriaid ac aelodau’r garfan yn trafod, datblygu ac archwilio dulliau o hwyluso llenyddol yn benodol o fewn maes Iechyd a Llesiant, yn ogystal â rhannu profiadau a theithiau personol. Bydd pob pâr yn cyfarfod sawl gwaith yn ystod y flwyddyn, gyda sesiynau’n cwmpasu ystod o bynciau a themâu, o gynllunio gweithdai i fyfyrio a gwerthuso. Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio i fod mor bwrpasol â phosibl, gyda phob partneriaeth yn gweithio tuag at gyflawni amcanion unigol yr hwylusydd llenyddol.
Dywedodd Iola Ynyr, un o fentoriaid rhaglen 2023-2024: “Roedd hi’n bleser cael trafod syniadau yn ddyfn a chael fy ysbrydoli hefyd. Mae mentora wedi bod yn gyfle euraidd i feddwl yn eang a gosod uchelgais mewn awyrgylch diogel gyda artist ifanc a thalentog.”
Mae mentoriaid eleni yn cynnwys: Sanah Ahsan, Eloise Williams, Alex Wharton, Helen McSherry, Sian Melangell-Dafydd a clare e.potter. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalen y prosiect.