Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi bardd preswyl newydd i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Cyhoeddwyd Iau 22 Ebr 2021 - Gan Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Cyhoeddi bardd preswyl newydd i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Taylor Edmonds (Hawlfraint: Andy Hurst)

Wrth i’r byd nodi Diwrnod y Ddaear 2021, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe, ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, wedi cyhoeddi heddiw mai Taylor Edmonds fydd eu bardd preswyl newydd.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i weithredu a fydd nid yn unig o fudd i bobl heddiw, ond i genedlaethau’r dyfodol.

Mae’n ei gwneud yn ofynnol i lunwyr polisi feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd. 

Gwnaeth y ddeddfwriaeth Gymru’r wlad gyntaf yn y byd i gynnwys diwylliant yn ei ddiffiniad o ddatblygu cynaliadwy – gan roi gwerth ar bŵer celf i wella llesiant person a chymuned. 

Taylor, o Benarth, yw ail fardd preswyl y comisiynydd, mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, ar ôl i Rufus Mufasa gwblhau ei rôl yn 2019. 

Cafodd y bardd 26 oed a’r hwylusydd creadigol ei geni a’i magu yn y Barri, ac mae ei gwaith yn archwilio themâu gan gynnwys benywdod, bod yn cwiar, grymuso, cysylltiad, straeon hud a gwerin, a natur. Recordiodd lythyr caru i’w thref enedigol glan môr mewn fideo BBC Sesh o’r enw Home Survives Hate. 

Bydd ei chydweithrediad blwyddyn gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn gweld y bardd ifanc yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gyfleu nodau’r Ddeddf, un ohonynt yw Cymru sydd â diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus. Thema eleni yw ‘Cymru i’r Byd’ – sydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a rôl Cymru yn y byd. 

Dywedodd Taylor ei bod am greu cerddi a oedd yn ‘obeithiol a throchol, gyda ffocws ar lawenydd a grymuso cymunedau Cymru’. 

“Rwy’n edrych ymlaen at archwilio sut y gall barddoniaeth helpu i greu byd gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – ar adeg pan rydyn ni wedi cael ein gorfodi i feddwl am y dyfodol mewn ffordd nad ydyn ni erioed wedi gorfod o’r blaen,” 

Yn aelod o Where I’m Coming From, platfform ar gyfer awduron sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru, astudiodd Taylor ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerloyw a Phrifysgol Caerdydd a derbyniodd Wobr Rising Stars 2020 Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press 2020. 

Dywedodd iddi gael ei hysbrydoli i ddod yn fardd ar ôl darganfod yr awdur Somalïaidd-Prydeinig, Warsan Shire, ac mae’n dyfynnu ffefrynnau eraill fel y bardd a’r nofelydd Fietnamaidd-Americanaidd Ocean Vuong, a’r awdur ac actifydd hawliau sifil Audre Lorde. 

“Fi oedd y plentyn wedi cyrlio i fyny’n y gornel yn darllen mewn aduniadau teuluol, ac yn rhannu cerddi cynnar ar Tumblr,

Mae ysgrifennu wedi fy helpu i lywio amseroedd heriol mewn bywyd ac wedi rhoi’r hyder i mi fod yn ddiogel yn fy llais a hunaniaeth. Gall barddoniaeth fod yn ffynhonnell wych o gysur a chysylltiad – mae’n ein hatgoffa nad ydym ar ein pennau ein hunain. 

Mae ysgrifennu’n bwerus – ar gyfer hunanfynegiant a llesiant ac fel ffordd o gyfathrebu profiadau a chodi ymwybyddiaeth am faterion pwysig.” 

Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnig cyfle enfawr am newid cadarnhaol, hirhoedlog i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru ac un o’r ffyrdd hynny yw trwy ddefnyddio diwylliant i ysgogi newid.

“Mae gan farddoniaeth bŵer i wneud i bobl wrando ac rydyn ni’n credu bod Taylor yn lais perffaith i gyfathrebu ag empathi a brys, rhai o’r materion sy’n wynebu pobl yng Nghymru.” 

Ar hyn o bryd mae Taylor yn cynnal cyfres Instagram o weithdai misol, rhad ac am ddim, ‘Writing for Joy’. 

Adfer ein Daear yw thema Diwrnod y Ddaear eleni, diwrnod rhyngwladol o weithredu amgylcheddol, ac fe’i cynhelir ddydd Iau, Ebrill 22. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiynydd.