Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Beirdd ac Artistiaid Dawns Annibynnol Plethu/Weave; Prosiect ar y cyd rhwng CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru

Cyhoeddwyd Gwe 24 Gor 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Beirdd ac Artistiaid Dawns Annibynnol Plethu/Weave; Prosiect ar y cyd rhwng CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) a Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi enwau’r beirdd a’r artistiaid dawns annibynnol sydd yn ymuno â dawnswyr CDCCymru fel rhan o Plethu/Weave, cywaith newydd sy’n creu 8 ffilm traws-gelfyddyd fer. Caiff y ddwy ffilm gyntaf eu harddangos am y tro cyntaf fel rhan o Ŵyl AmGen yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddechrau mis Awst.

Prosiect ffilm digidol newydd yw Plethu/Weave, sy’n paru dawnswyr o CDCCymru a’r sector annibynnol gyda beirdd a gomisiynwyd gan Llenyddiaeth Cymru er mwyn creu perfformiadau unigol byw yn ystod y cyfnod clo.

Yn dilyn galwad agored ym mis Mehefin, mae CDCCymru wedi penodi pedwar artist dawns annibynnol: Shakeera Ahmun, Jodi Ann Nicholson, Joe Powell-Main a Jo Shapland, i weithio ochr yn ochr â dawnswyr CDCCymru a’r wyth bardd.

Caiff yr wyth dawnsiwr eu paru gyda rai o feirdd mwyaf blaengar Cymru: Connor Allen, Hanan Issa, Aneirin Karadog, Elan Grug Muse, clare e. potter a Marvin Thompson, ynghyd ag Ifor ap Glyn a Mererid Hopwood sydd eisoes wedi gweithio ar y ddwy ffilm traws-gelfyddyd cyntaf gyda dawnswyr CDCCymru, a’r fideos hynny sydd yn cael eu dangos am y tro cyntaf fel rhan o Ŵyl AmGen yr Eisteddfod Genedlaethol.

Meddai Lee Johnson, Cyfarwyddwr Cyswllt CDCCymru, “Roedd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wrth ein boddau gyda’r ystod o ddawnswyr annibynnol ar hyd a lled Cymru a ymgeisiodd i fod yn rhan o’r prosiect arbennig hwn. Bydd y pedwar artist sy’n ymuno â Plethu/Weave yn cyfoethogi ystod eang y cyfraniad artistig yma trwy ymarferion amrywiol sy’n cynnwys arddull hip hop, Butoh, ballet a dawnsfa. Bydd y partneriaethau hyn hefyd yn cymhwyso beth yn union y gall goreograffi fod, gan gynnwys gwrthrychau, tecstilau a brodwaith. Edrychaf ymlaen yn fawr at weld sut y bydd y dawnswyr a’r beirdd yn plethu’r ddwy ffurf hyn gyda’i gilydd er mwyn creu darnau pwerus llawn symudiad a mewnwelediad.”

Bydd Hirddydd gan Mererid Hopwood a Tim Volleman yn cael ei ddangos am y tro cyntaf am 1pm ar ddydd Llun 3 Awst; tra bydd Ust gan Ifor ap Glyn a Faye Tan yn cael ei ddangos am y tro cyntaf am 1.30pm ar ddydd Gwener 7 Awst ar dudalen Facebook, gwefan, YouTube a sianel AM yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd y ddwy fideo ar gael y diwrnod canlynol ar dudalen Facebook, YouTube a sianel AM CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru, 4 ac 8 Awst 2020 ymlaen.

Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, “Ry’n ni’n falch iawn o’r cyfle i weithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru unwaith eto eleni.  Mae dawns yn rhan greiddiol o’r Eisteddfod, ac ry’n ni’n falch o gynnig platfform ar gyfer y premier hwn fel rhan o Eisteddfod AmGen eleni. Wrth gwrs, mae Mererid ac Ifor, ill dau, yn brif enillwyr yn yr Eisteddfod, ac ry’n ni wedi gweithio’n agos gyda Llenyddiaeth Cymru ar gwmpas eang o brosiectau dros y blynyddoedd.  Rwy’n gobeithio y gallwn ddatblygu’r berthynas gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ymhellach yn y dyfodol.”

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, “Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect hyfryd hwn gyda Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae’r ddau gywaith cyntaf rhwng Ifor, Fay, Mererid a Tim, yn asiad perffaith, ac ry’n ni’n edrych ymlaen at rannu’r arlwy hyn gyda chynulleidfa’r Ŵyl AmGen eleni. Mae dathlu diwylliant Cymru yn un o brif nodau Llenyddiaeth Cymru a pa ffordd well o wneud hynny na thrwy greu a rhannu’r cyweithiau creadigol hyn rhwng artistiaid talentog cyfoes Cymru, a fydd yn siŵr o brocio, diddanu a chyffwrdd cynulleidfaoedd newydd a phresennol llenyddiaeth a dawns.”

Yn dilyn y dangosiad ar-lein fel rhan o’r Eisteddfod, caiff y chwe ffilm fer sy’n weddill o brosiect Plethu/Weave eu darlledu pob pythefnos fel rhan o KiN:Ar-lein, rhaglen ddigidol CDCCymru. Mae CDCCymru wedi bod yn arddangos llawer o’i gynyrchiadau ar-lein am y tro cyntaf, er mwyn i gynulleidfaoedd wylio yn rhad ac am ddim fel rhan o’i raglen ar-lein KiN:Ar-lein, gan gynnwys Dream (Christopher Bruce CBE), Rygbi: Annwyl i mi/ Dear To Me (Fearghus Ó Conchúir) yn ogystal â fersiwn ffrydio byw Zoom o Cpalling gan Ed Myhill.

Mae manylion llawn KiN:Ar-lein ar gael ar ndcwales.co.uk ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnos nesaf @NDCWales

/

Artistiaid Dawns

Shakera Ahmun
Mae Shakeera Ahmun yn artist dawns llawrydd o Gaerdydd. Caiff ei hysbrydoli gan gerddoriaeth a’r arliw rhythmic hwnnw sy’n ei gyrru’n gorfforol ac yn parhau I liwio ac ysbrydoli iaith ei symudiadau. Bu hefyd yn gweithio gyda theatr corfforol yn ddiweddar, a gafodd effaith gadarnhaol sylwedddol ar ei chrefft.

Jodi Ann Nicholson
Dawnswraig o dde Cymru ydi Jodi Ann Nicholson. Ers iddi hyfforddi yn Laban ac astudio Celf Gain yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd mae ei gwaith creadigol yn plethu gwneuthuriad yr hunan a hunaniaeth. Fel rhywun sydd wedi ei mabwysiadu, mae Jodi yn archwilio’r syniadau hyn drwy naratif hunangofiannol. Mae symudiad, brodwaith a thecstilau yn rhoi strwythur i’w chwestiwn parhaus: beth sy’n creu hunaniaeth?

Mae ei gwaith diweddar wedi agor drysau i waith archwilio dyfnach rhwng testun/iaith a dawns, gan gysylltu’r gwaith hwn i’w chyfleon artistig parhaus. Mae Jodi yn gwirioni ar strwythurau rhythmic y ddau ddisgyblaeth, ac yn arhcwilio’r berthynas rhwng y ddau.

Joe Powell-Main
Mae Joe Powell-Main yn ddau-ddeg-dau mlwydd oed ac yn hanu o’r canolbarth. Roedd Joe yn un o gysylltion ifanc y Royal Ballet School am dair blynedd ac yn mynychu dosbarthiadau wythnosol bob dydd Sadwrn ym Mirmingham. Yn ystod y rhaglen Cysylltion Ifanc, perfformiodd Joe gyda’r Birmingham Royal Bellt yn The Nutcracker ac yn Sylvia (taith DU). Bu Joe hefyd yn gweithio gyda’r Elmhurst Ballet School am flwyddyn, trwy raglen cyn-alwedigaeol. Cafodd ei dderbyn i’r Lower School y Royal Ballet School yn White Lodge, Richmond; ble bu’n astudio ac yn hyfforddi am bedair blynedd.

Yn dilyn damwain car difrifol, fu’n gyfrifol am ei anabledd sy’n effeithio ei goes a’I droed chwith, daeth perthynas Joe â dawns i ben am y tro. Fodd bynnag, tair mlynedd yn ddiweddarach, aildaniwyd y berthynas honno wedi iddo ddechrau dawnsio ballroom a latin ar gyfer cadair olwyn. Ef yw Pencampwr Para-ddawns Cenedlaethol y DU ar hyn o bryd. Yn ddiweddar, graddiodd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Dawns a Pherfformio drwy Arden School of Theatre ym Manceinion. Cychwynodd brentisiaeth gyda Ballet Cymru ym mis Medi 2019, drwy eu Rhaglen Cyn-Broffesiynol. Roedd Joe yn serenu ar hysbyseb Nadolig S4C gyda cyd-ddawnsiwyr o Ballet Cymru. Eleni, ymunodd Joe â thim Ballet Cymru fel un o’u dawnswyr, ac mae’n edrych ymlaen at weithio gyda’r cwmni ar gynhyrchiad newydd o Giselle yn 2021.

Jo Shapland
Dawns ydi gwaith Jo Shapland; boed drwy lif newid mewn deunyddiau a gwrthrychau, mewn lluniau ffilm neu symudedd y corff drwy wagle. Ei phrif flaenoriaeth ydi ymberthnasu ac ymateb i natur ac i’r awydd o arbrofi gyda’r corff. Mae ei phrosiectau safle-benodol yn amrywio o adfeilion amaethyddol i theatrau proffesiynol, ac o diroedd gwyllt i waith pensaernïol dinesig. Yn wreiddiol, hyfforddodd fel Dawnswraig Gyfoes, ond mae hi bellach yn ymarfer Martial Arts Asiaidd ac ymarferion ymwybyddiaeth; syrcas awyr a byrfyfyrio; ac yn parhau i archwilio dawns fewnol a’i effaith ar bresenoldeb a chreadigrwydd. Ym mis Ionawr 2020, perfformiodd Told by the Wind (wedi ei greu ar y cyd gyda Grŵp Llanarth) yn ITFOK, India. Uchafbwyntiau eraill ei gyrfa ydi ennill Prif Wobr Creative Wales gyda Being in Place, a dathlu estyniad Mostyn, Llandudno gydag [in]space.

Dawnswyr CDCCymru

Ed Myhill
Yn wreiddiol o Lundain, cafodd ei fagu yn Leeds a hyfforddodd yn Ysgol Uwchradd Hammond yng Nghaer, ac yna treuliodd dair blynedd yn y Rambert School of Ballet and Contemporary Dance. Ymunodd â CDCCymru fel prentis yn ystod Hydref 2015 ac mae nawr yn ddawnsiwr llawn amser gyda’r Cwmni. Bu’n teithio’n helaeth ar draws y DU a thramor gan gynnwys gwaith gan Alexander Ekman, Roy Assaf a Marcos Morau.

Aisha Naamani
Cyn hyfforddi yn Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain, cafodd ei magu yn Ne Cymru ac roedd yn aelod cyswllt Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru o 2012-2015. Ers symud i Lundain, bu’n perfformio gweithiau gan Richard Alston, Wayne Parsons (Rafael Bonachela), James Cousins a Hofesh Shechter ymysg eraill. Cafodd peth o’i gwaith coreograffig ei ddangos yn The Place Theatre ac roedd yn ysgolor Cronfa Ysgoloriaeth Peggy Hawkins. Ymunodd â CDCCymru fel prentis dawnsiwr yn haf 2018, gan berfformio gweithiau gan Matteo Marfoglia, Mario Bermudez-Gil a Caroline Finn cyn dod yn ddawnsiwr cwmni’r flwyddyn ganlynol.

Faye Tan
Cafodd ei geni yn Singapôr, a bu’n hyfforddi yn Academi Bale Singapôr ac Ysgol y Celfyddydau cyn graddio o Ysgol Rambert yn Llundain. Yna, ymunodd â Verve, cwmni ôl-radd Ysgol Dawns Gyfoes y Gogledd yn Leeds, gan berfformio gweithiau gan Anton Lachky, Athina Vahla ac Efrosini Protopapa. Ymunodd â Frontier Danceland (Singapôr) yn 2016, yn gweithio gyda choreograffwyr megis Shahar Binyamini, Thomas Lebrun, Edouard Hue, I-Fen Tung, Annie Vigier a Franck Apertet, ymysg nifer amrywiol o wneuthurwyr eraill. Roedd y gwaith a wnaeth yn Singapore hefyd yn cynnwys rhaglenni allgymorth, cydlynu rhaglen hyfforddi dawns ieuenctid Frontier Danceland, dysgu, coreograffu, marchnata digidol, fideograffeg a ffotograffiaeth. Ym mis Mai 2019 gweithiodd gyda Richard Chappell Dance (UK) ar y cynhyrchiad Silence Between Waves, gan berfformio a gweithio gyda thrigolion lleol o wahanol oedrannau a galluoedd yn Nyfnaint, cyn ymuno â CDCCymru i weithio ar y cynhyrchiad Rygbi: Annwyl i mi / Dear to Me ac wedyn fel dawnsiwr cwmni ym mis Rhagfyr 2019.Tim Volleman

Cafodd ei eni yn yr Iseldiroedd, lle y dechreuodd ddawnsio yn dair oed. Yn ddeg oed dechreuodd ei  gyn-addysg yn Fontys (Tilburg) a pharhau hyd ei raglen gradd Baglor yn Codarts, Academi Dawns Rotterdam. Fel dawnsiwr proffesiynol, gweithiodd gyda chwmnïau megis Cathy Sharp Dance Ensemble, Internationaal Dans Theater, Nederlands Dans Theater II a de Stilte cyn ymuno â CDCCymru ym mis Rhagfyr 2017. Mae ei yrfa lawrydd yn cynnwys gweithio gyda’r artistiaid annibynnol Jagoda Bobrowska, Heidi Vierthaler a Juanjo Arques.

 

Y Beirdd

Connor Allen
Ers graddio o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant fel actor, mae Connor Allen wedi gweithio gyda chwmnïau megis Theatr Torch, Theatr y Sherman, Theatr Tin Shed a National Theatre Wales. Mae’n aelod o Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain ac fe enillodd rownd Caerdydd o’r Triforces MonologueSlam, gan gynrychioli Cymru yn Llundain ar gyfer y rownd derfynol. Fel awdur, mae wedi ysgrifennu ar gyfer Dirty Protest, Y Sherman, a BBC Cymru. Derbyniodd nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ei ddrama gyntaf, a chomisiwn gan Llenyddiaeth Cymru. Mae hefyd yn rhan o’r BBC Wales Welsh Voices 19/20 a Grŵp Awduron Cymreig y Royal Court.

Ifor ap Glyn
Ganed a magwyd Bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn yn Llundain i rieni o Gymru. Mae’n fardd, cyflwynydd, cyfarwyddwr a chynhyrchydd sydd wedi ennill sawl gwobr. Yn awdur toreithiog, mae Ifor wedi ennill y Goron ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fel cyfarwyddwr teledu a chyflwynydd, mae wedi ennill sawl gwobr BAFTA Cymru am ei waith gan gynnwys cyfresi Lleisiau’r Rhyfel Mawr a Popeth yn Gymraeg. Mae Ifor wedi cynrychioli barddoniaeth Gymraeg ledled y byd yn yr iaith Gymraeg a Saesneg, yn fwyaf diweddar yn Camerŵn, Lithwania, China, Gwlad Belg, yr Almaen ac Iwerddon. Mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn lysgennad diwylliannol ac yn rôl sy’n anrhydeddu rhai o’n hawduron mwyaf arloesol ac uchel eu parch. Dechreuwyd y cynllun yn 2005 ac fe’i rheolir gan Llenyddiaeth Cymru.

Mererid Hopwood
Enillodd Mererid Hopwood Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n fardd Plant Cymru ac enillodd wobr Tir na n-Og am ei nofel i blant, Miss Prydderch a’r Carped Hud (Gwasg Gomer) yn 2018. Enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw (Gwasg Gomer, 2015), wobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016. Bu’n cydweithio â cherddorion yn cynnwys Karl Jenkins, Eric Jones, Gareth Glyn, Christopher Tin a Robat Arwyn ac yn cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig, yn gadeirydd Cymdeithas y Cymod ac yn llywydd anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams. Mae’n Athro yn yr Athrofa, Y Drindod Dewi Sant.

Hanan Issa
Bardd ac awdur Cymreig-Iracaidd yw Hanan Issa. Hi yw cyd-sylfaenydd cyfres meic agored BAME gyntaf Cymru ‘Where I’m Coming From’. Roedd hi’n un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2018-2019. Cyhoeddwyd ei phamffled barddoniaeth cyntaf My Body Can House Two Hearts gan BurningEye Books ym mis Hydref 2019. Mae hi wedi cael sylw ar ITV Cymru a BBC Radio Wales ac wedi gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Artes Mundi, Prifysgol Warwick, Fringe Abertawe, Gŵyl StAnza, Wales Arts International a Seren Books. Cyhoeddwyd ei gwaith yn Banat Collective, Hedgehog Press, Wales Arts Review, Sukoon mag, 4 Journal, Poetry Wales, Parthian, Y Stamp, cylchgrawn sister-hood a MuslimGirl.com. Cafodd ei monolog buddugol sylw yn Bush Theatre’s Hijabi Monologues.

Aneirin Karadog
Enillodd Aneirin Karadog Gadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn 2016 gyda dilyniant o gerddi ar y thema ‘Ffiniau’. Mae’n aelod o dîm Y Deheubarth yn Ymryson blynyddol y beirdd ac mae wedi ennill sawl gwobr am ei gerddi caeth: Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004, Cadair yr Urdd yng Nghaerdydd 2005 a chategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn ddwywaith gyda’i gyfrol gyntaf O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas, 2012) ac yna eto gyda’i ail gyfrol Bylchau (Cyhoeddiadau Barddas, 2016). Mae’n cyd-gyflwyno a chyd-gynhyrchu podlediad Barddol Cymraeg gydag Eurig Salisbury o’r enw Clera, gyda phenodau newydd yn fisol ers Hydref 2016. Yn 2019 cyhoeddodd gyfrol arall o gerddi, Llafargan (Cyhoeddiadau Barddas). Aneirin oedd Bardd Plant Cymru 2013-15.

Elan Grug Muse
Mae Grug Muse yn fardd, golygydd ac ymchwilydd. Mae’n un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn Y Stamp ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf, Ar Ddisberod, gyda Barddas yn 2017. Mae hi’n un o breswylwyr Ulysses Shelter 2020, ac yn ddeilydd Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru 2020. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi mewn cyhoeddiadau yn cynnwys O’r Pedwar Gwynt, Barddas, Poetry Wales, Panorama: the journal of intelligent travel ac eraill. Roedd yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2018-19, ac fe enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2013, a chadair yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 2019. Mae’n gweithio ar hyn o bryd ar brosiect doethurol ym Mhrifysgol Abertawe, dan nawdd y Ganolfan yr AHRC ar gyfer Ymchwil Doethurol mewn Astudiaethau Celtaidd.

clare e. potter
Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi MA mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Brifysgol Mississippi. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd a chafodd gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ymateb i ddinistr Corwynt Katrina gyda phumawd jazz. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac mae’n cydweithio ag artistiaid i greu gosodiadau barddoniaeth mewn gofodau cyhoeddus. Enillodd Wobr John Trip am Berfformio Barddoniaeth yn 2005 a bu gyda’i thad ar y Listening Project ar BBC Radio 4, yn archwilio tarddiad emosiwn mewn barddoniaeth. Yn 2018, clare oedd bardd preswyl Gŵyl Velvet Coalmine – lle bu yn Sefydliad y Glowyr yn casglu straeon pobl am yr adeilad diwylliannol a gwleidyddol pwysig hwnnw. www.clareawenydd.com

Marvin Thompson
Ganwyd Marvin Thompson yn Llundain i rieni o Jamaica. Mae ganddo MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Middlesex, ac ar hyn o bryd mae’n dysgu Saesneg i blant ysgol uwchradd yng nghymoedd y De. Roedd yn un o dri bardd a ddewiswyd gan The Poetry School a Nine Arches Press ar gyfer ‘Primers Volume 2: Mentoring Scheme’. Mae adolygwyr wedi disgrifio gwaith Marvin fel cynnyrch ‘dramatig’, ‘egnïol’ a ‘meistrolgar’. Mae hefyd wedi cyhoeddi yn The Poetry Review, Poetry Wales a Red (Peepal Tree Press).

Yn 2017, cafodd Marvin Thompson y drydedd wobr yng nghystadleuaeth barddoniaeth ryngwladol Ambit Magazine. Yn 2019, cafodd ‘The Many Reincarnations of Gerald, Oswald Archibald Thompson’, sef cerdd ryfel mewn arddull realaeth fodern, ei chyflwyno gan y Long Poem Magazine am Wobr Forward am y Gerdd Orau. Road Trip yw casgliad cyntaf Marvin, wedi ei gyhoeddi gan Peepal Tree Press