Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi blodeugerdd gan fenywod Cymru wedi ei golygu gan Fardd Plant Cymru

Cyhoeddwyd Iau 6 Maw 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi blodeugerdd gan fenywod Cymru wedi ei golygu gan Fardd Plant Cymru
Llun Nia Morais a chlawr y gyfrol 'O Ffrwyth y Gangen Hon'
Mae Bardd Plant Cymru, Nia Morais, wedi golygu cyfrol o gerddi gan fenywod Cymru. Caiff ‘O Ffrwyth y Gangen Hon’ ei chyhoeddi gan wasg Cyhoeddiadau Barddas.

Cerddi am orfoledd oedd yr alwad agored i feirdd benywaidd o bob cefndir, a dyma’r flodeugerdd wedi dwyn ffrwyth. O gerddi tyner i rai swnllyd a doniol, cewch flasu amrywiaeth o farddoniaeth yn y gyfrol hon – wedi eu cyfuno â gwaith celf dychmygus Myths n Tits, mae’n dathlu benyweidd-dra yn ei gyfanrwydd.

Meddai’r golygydd, Nia Morais, “Ro’n i eisiau dathlu ffrwythau ein creadigrwydd a’n gwreiddioldeb, a chreu gofod cynhwysol er mwyn dathlu pob menyw. Ac os ydyn ni’n cofio fod straeon menywod yn straeon sy’n berthnasol i bawb, mae ’na siawns y byddwn ni’n cofio fod straeon pobl Ddu, pobl anabl, a phob grŵp ymylol arall yn berthnasol i bawb hefyd.”

Awdur, bardd a dramodydd o Gaerdydd yw Nia Morais. Fel Awdur Preswyl Theatr y Sherman, ysgrifennodd Crafangau/Claws, addasiad o A Midsummer Night’s Dream (ar y cyd â Mari Izzard), ac Imrie (ar y cyd â Frân Wen). Hefyd, ysgrifennodd Betty Campbell – Darganfod Trebiwt (i gwmni Mewn Cymeriad gyda chefnogaeth gan Theatr Genedlaethol Cymru), a’r llyfr i blant, Enwogion o Fri: Betty – Bywyd Penderfynol Betty Campbell (Llyfrau Broga). Nia yw Bardd Plant Cymru 2023–2025, ac mae hi hefyd yn gweithio fel cyfieithydd. Mae’n ysgrifennu’n ddwyieithog i blant ac oedolion.

“Chwaeroliaeth sydd wrth wraidd y flodeugerdd hon. Yn gyforiog o egni a bywiogrwydd, dyma gyfrol sy’n gwneud i’r darllenydd guro mewn llawenydd, neu golli anadl, gyda disgleirdeb y dweud.

Am ganrifoedd bu merched Cymru yn moli’r brodyr barddol. O’r diwedd, dyma roi iddynt seddau i eistedd a gwrando ar leisiau merched heddiw – sy’n hawlio’u canu mewn gorfoledd.

Dyma enwi o’r newydd beth yw bod yn ferch yn y cyfnod hwn, gan ddangos bod yna o leiaf dau a deugain o ffyrdd i fynegi benyweidd-dra.” – Menna Elfyn.

Lansiad        

Bydd lansiad O Ffrwyth y Gangen Hon yn cael ei gynnal yn y Queer Emporium, Caerdydd am 7.00pm, nos Wener 20 Mawrth. Bydd Casi Wyn (Bardd Plant Cymru 2021-2023) yn holi Nia Morais am y broses o gywain gwaith menywod Cymru ar gyfer y flodeugerdd. Bydd Paned o Gê yn gwerthu’r gyfrol ar y noson a cheir lluniaeth ysgafn.

 

Bardd Plant Cymru