Dewislen
English
Cysylltwch

Bardd Plant Cymru yn Eisteddfod yr Urdd!

Cyhoeddwyd Llu 20 Mai 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Bardd Plant Cymru yn Eisteddfod yr Urdd!
Gweithdai a pherfformiadau gan Nia Morais, Bardd Plant Cymru, yn Eisteddfod yr Urdd Sir Maldwyn 2024!
Lle alla i weld Bardd Plant Cymru yn yr Eisteddfod?

Mae’r Eisteddfod eleni yn cael ei chynnal ym Meifod, Powys, ac ar ddydd Llun 27 Mai bydd Nia ar stondin Llywodraeth Cymru rhwng 1.00 pm-2.00 pm, Yna ddydd Mercher 29 Mai bydd Nia ar y maes trwy’r diwrnod yn cynnal llu o weithgareddau i blant o bob oed.

Rhwng 9.30am-12.30pm bydd Nia ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol, cyn mynd ymlaen i babell Cwiar na Nog am 2.00pm i gynnal gweithdy ysgrifennu creadigol. Bydd croeso cynnes i bawb yn y ddwy sesiwn.

Os ydych chi am glywed Nia yn adrodd ei gwaith, fe fydd Nia yn rhoi perfformiad byr am 3.30pm ar lwyfan newydd sbon yr Eisteddfod, Neb fel Ti.

Manylion prisiau tocynnau Eisteddfod yr Urdd.

Gŵyl y Gelli

Os nad ydych chi’n gallu mynychu’r Eisteddfod eleni, cofiwch hefyd am weithdy Nia Morais yng Ngŵyl y Gelli. Am 1.00 ar ddydd Iau 30 Mai bydd gweithdy adrodd straeon arswyd yn cael ei chynnal gan Nia, wedi ei anelu at blant 12+ oed . Dewch â phapur a phensel, a bachwch eich tocyn nawr! 

Bardd Plant Cymru