Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Carfan Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad 2024

Cyhoeddwyd Mer 6 Tach 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Carfan Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad 2024
Llun o garfan Ailddyfeisio'r Prif Gymeriad 2024-2025
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r 10 awdur sy’n cymryd rhan yn ein rhaglen Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad eleni.  

Mae Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad yn rhaglen datblygu awduron ar gyfer ysgrifenwyr Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol. Mae’r cyfle hwn yn cael ei drefnu a’i redeg gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru. Cyflwynir y rhaglen fel cyfres o 5 gweithdy grŵp digidol a sesiynau un-i-un, dan arweiniad y dramodydd a’r awdur rhyngwladol, Kaite O’Reilly. 

Cynhaliwyd y rhaglen am y tro cyntaf yn 2023. Mae rhai o’r awduron fu’n cymryd rhan bryd hynny wedi mynd ymlaen i gael llwyddiant mawr gyda’u hysgrifennu – mae drafftiau cyntaf nofelau wedi eu cwblhau, dramâu proffesiynol wedi eu datblygu, a llyfrau wedi eu cyhoeddi!  

Yr awduron sydd wedi ennill eu lle ar y cwrs eleni yw: Amy Grandvoinet, Cathy Piquemal, Fiona Maher, Grace O’Brien, Jane Campbell, Kaja Brown, Leigh Manley, Regina Beach, Steph Roberts a Tafsila Kahn 

Dywedodd Regina Beach 

“Bydd bod mewn carfan gydag artistiaid Byddar ac Anabl eraill sydd wir yn deall yr heriau o geisio hawlio’ch lle fel person creadigol pan nad oes llawer o gynrychiolaeth neu gefnogaeth ar gael, yn brofiad amhrisiadwy. Hoffwn fod yn sensitif i brofiad eraill wrth fyfyrio ar fy anabledd fy hun a sut rwy’n llywio’r byd fel mewnfudwr benywaidd anabl a sut mae’r hunaniaethau hynny’n cydfodoli. Hoffwn ddeall yn well sut i greu cymeriadau anabl tri dimensiwn sy’n gwneud mwy nag ennyn trueni neu’n gweithredu fel memento mori i’r darllenydd.” 

Dywedodd y tiwtor, Kaite O’Reilly:  

“Fe wnes i lunio’r cwrs hwn i herio cynrychioliadau problemus o wahaniaeth mewn llenyddiaeth a’r cyfryngau, i hyrwyddo a dathlu gwaith rhagorol gan awduron Byddar, Anabl a Niwroamrywiol, ac – gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru – meithrin a dathlu’r genhedlaeth nesaf. Mae cymaint o dalent yng Nghymru gan bobl sydd – yn hanesyddol – wedi eu ynysu a’u hanwybyddu. Mae annog ac arddangos y dalent honno gyda’r garfan gyffrous hon o awduron yn bleser ac yn fraint.” 

Gallwch ymweld â thudalen gwefan Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad i ddarganfod mwy am y garfan hon o awduron.  

I ddarganfod mwy am y ffyrdd y mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig cyfleoedd datblygu i awduron, ewch i’r dudalen Rwy’n Awdur.