Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi enwau beirdd carfan Pencerdd 2026

Cyhoeddwyd Mer 25 Maw 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi enwau beirdd carfan Pencerdd 2026
O'r chwith i'r dde: Morgan Elwy, Llywela Siriol, Paige Morgan, Sioned Camlin, Celt John
Mae pum bardd ar fin dechrau taith blwyddyn o hyd i ddatblygu eu sgiliau cynganeddu. Mae’r pump wedi eu dethol ar gyfer rhaglen Pencerdd, a braint aruthrol yw cyhoeddi eu henwau heddiw.

Llongyfarchiadau mawr i Sioned Camlin, Morgan Elwy, Celt John, Paige Morgan a Llywela Siriol!

Nod cynllun Pencerdd yw meithrin lleisiau a safbwyntiau newydd yng nghrefft y gynghanedd yng Nghymru. Mae’n rhoi hwb i feirdd lled-newydd y Gerdd Dafod trwy roi cyfle unigryw iddynt ganolbwyntio ar y grefft o ddifri. Dyma’r trydydd tro i Llenyddiaeth Cymru redeg y cynllun, mewn partneriaeth agos â Barddas. Mae’r naw bardd sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen eisoes wedi derbyn peth llwyddiant a chlod yn ddiweddar, ac yn brysur ennill eu plwyf ym myd y gynghanedd.

Mae Pencerdd yn rhaglen rhad ac am ddim sy’n flwyddyn o hyd. Cynhigir y cyfle i bum bardd sy’n gynganeddwyr lled-newydd bob blwyddyn yn dilyn galwad agored. Byddant yn mynychu cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn mis Mawrth 2026 dan arweiniad Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones, cyn cael eu paru gydag athro barddol am flwyddyn i dderbyn sesiynau mentora un-i-un. Bydd y garfan hefyd yn derbyn cyfres o weithdai digidol, yn ogystal â gofodau sgwennu i gwrdd â beirdd a rhannu eu taith i gynganeddu a chreu rhwydwaith gefnogol.

Meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru: “Mae dathlu diwylliant a threftadaeth llenyddol Cymru yn hollbwysig inni draw yn Llenyddiaeth Cymru, a’r gynghanedd ydi un o’r trysorau pwysicaf a mwyaf unigryw un o fewn y diwylliant hwnnw. Mae’n wych cael cydweithio â Barddas eto ar raglen i hybu a datblygu’r gynghanedd, ac i ddod o hyd i leisiau newydd ac amrywiol i’w meithrin yn y grefft. Mae’r taith hir a difyr o flaen y criw i feistroli crefft y gynghanedd a dymunwn yn dda i Llywela, Paige, Morgan, Celt a Sioned ar yr antur sydd o’u blaenau.”

Awydd dysgu’r gynghanedd? Beth am gofrestru i ddod ar ein Cwrs Cynganeddu preswyl blynyddol yn Nhŷ Newydd rhwng 30 Mawrth – 3 Ebrill eleni? Addas ar gyfer pob gallu: cynganeddwyr newydd sbon neu brofiadol.

Neu beth am ddysgu ar eich liwt eich hun drwy ddilyn cyfres cyflwyniad i’r gynghanedd Aneirin Karadog ar ein sianel YouTube?

Mae dosbarthiadau ac ysgolion y gynghanedd hefyd ar gael ar hyd a lled Cymru, dyma restr ar wefan Barddas – ond cysylltwch os y gwyddoch chi am ragor!

Mae Llenyddiaeth Cymru yn ddiolchgar i’r Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru ac i Gronfa Elw Park Jones am y nawdd hael tuag at gynnal rhaglen Pencerdd yn 2026-27.