Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025

Cyhoeddwyd Sul 11 Mai 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025
Wedi misoedd o ddarllen, trin a thrafod, mae ffrwyth llafur panel beirniaid Cymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025 wedi ei gyhoeddi wrth i’r 12 llyfr sydd wedi cyrraedd y Rhestr Fer eleni gael eu henwi.

Yn wobr flynyddol, mae Llyfr y Flwyddyn yn dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr a hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn. Noddir y Brif Wobr Gymraeg eleni gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, a’r Brif Wobr Saesneg gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.

Heddiw, dydd Sul 11 Mai, ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru, datgelwyd y Rhestr Fer Gymraeg, yng nghwmni’r panel o feirniaid a Chyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, Leusa Llewelyn. Cyhoeddwyd hefyd y Rhestr Fer Saesneg ar raglen Lynn Bowles, BBC Radio Wales toc wedi 3.00pm.

 

Y Rhestr Fer

Mae Llenyddiaeth Cymru’n hynod o falch o gyhoeddi’r 12 cyfrol fydd yn ymgiprys am wobr Llyfr y Flwyddyn 2025:

Ffuglen
Nelan a Bo, Angharad Price (Y Lolfa)
Madws, Sioned Wyn Roberts (Gwasg y Bwthyn)
V + Fo, Gwenno Gwilym (Gwasg y Bwthyn) 

Barddoniaeth
Rhuo ei distawrwydd hi, Meleri Davies (Cyhoeddiadau’r Stamp)
Pethau sy’n Digwydd , Siôn Tomos Owen (Barddas)
O’r Rhuddin, Sioned Erin Hughes (Y Lolfa) 

Ffeithiol Greadigol
Oedolyn (ish!), Melanie Owen (Y Lolfa)
Camu, Iola Ynyr (Y Lolfa)
Casglu Llwch, Georgia Ruth (Y Lolfa) 

Plant a Phobl Ifanc
Cymry. Balch. Ifanc., Golygwyd gan Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter (Rily Publications LTD)
Arwana Swtan a’r Sgodyn Od, Angie Roberts a Dyfan Roberts (Gwasg y Bwthyn)
Rhedyn, Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)

I ddarganfod rhagor am y cyfrolau a’r awduron ar y Rhestr Fer, cliciwch y ddolen hon.

Y Panel Beirniadu 

Bob blwyddyn, mae Llenyddiaeth Cymru yn penodi panel o feirniaid talentog a phrofiadol i ddarllen, dewis a dethol y Rhestrau Byrion ac yna dewis eu henillwyr categori. Ar y panel Cymraeg eleni mae: y bardd a’r dramodydd arobryn  Menna Elfyn; yr awdur ac enillydd gwobr Barn y Bobl 2023 Gwenllian Ellis; y llenor a’r dramodydd Dr Miriam Elin Jones, sy’n ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe; a’r awdur a’r cyfieithydd Hammad Rind.

Ar ran y panel Cymraeg, dyma’r hyn oedd gan Gwenllian Ellis i’w ddweud:

“Dwi’n ddarllenydd brwd erioed, felly roedd y gwahoddiad i feirniadu’r wobr flwyddyn yma yn bleser ac anrhydedd. Mae hi’n fraint llwyr cael bod ar y panel hefo Menna, Miriam a Hammad, yn enwedig a minnau yn edmygu gwaith y tri a safon y cyfrolau dros y flwyddyn ddiwethafmor anhygoel. Mae hi wir yn gyffrous cael dathlu’r lleisiau amrywiol yn ein llenyddiaeth, rhai newydd sbon a rhai rydym eisoes yn gyfarwydd â nhw. Fel cyn-enillydd Gwobr Barn y Bobl, gwn yn union faint mae’r wobr hon yn ei olygu—nid yn unig fel cydnabyddiaeth, ond fel cyfle i ddathlu awduron a’u gwaith.”

Meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru: “Dyma un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i mi – derbyn rhestrau darllen o’r llyfrau gorau un sydd wedi eu cyhoeddi yn y flwyddyn flaenorol gan banel arbenigol. Diolch o galon i’r beirniaid am eu gwaith darllen diwyd. Llongyfarchiadau mawr i awduron y rhestrau byrion – gobeithio y bydd y cyhoeddiad hwn yn ysgogiad pellach i ddarllenwyr heidio i’w siop lyfrau neu eu llyfrgell leol. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i weld pwy fydd yn fuddugol yn ein Seremoni fawreddog yng Nghaerdydd fis Gorffennaf.”

Beth nesaf

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo a gaiff ei chynnal yn Theatr y Sherman, Caerdydd ar nos Iau 17 Gorffennaf. Eto eleni, bydd 12 gwobr a chyfanswm o £14,000 yn cael ei rannu ymysg yr awduron llwyddiannus, £1,000 yr un i’r enillwyr categori a £3,000 yn ychwanegol i enillwyr y brif wobr yn y ddwy iaith. Bydd yr enillwyr yn derbyn tlysau eiconig Llyfr y Flwyddyn wedi eu dylunio yn arbennig gan yr artist a’r gof talentog, Angharad Pearce Jones. 

Yn ystod y seremoni, byddwn hefyd yn cyhoeddi pa deitlau sydd wedi mynd â bryd y cyhoedd, a chyrraedd brig pleidleisiau Barn y Bobl a’r People’s Choice. Noddir Gwobr Barn y Bobl gan Golwg360 a’r People’s Choice Award gan Nation Cymru. Ewch draw i’ch siop lyfrau neu llyfrgell leol er mwyn pori drwy’r cyfrolau ar y Rhestr Fer cyn mynd ati i bleidleisio dros eich ffefryn ar wefannau Golwg360 a Nation.Cymru.

Bydd tocynnau i’r seremoni ar gael i’w prynu ar wefan Llenyddiaeth Cymru o 11 Mai.

Bydd sawl cyfle i drin a thrafod y cyfrolau ar y Rhestr Fer dros yr wythnosau nesaf, gyda rhai digwyddiadau wedi eu trefnu eisoes. Dyma ambell ddyddiad i’r dyddiadur!

13 Gorffennaf – Digwyddiad ‘Sgwrs Llyfr y Flwyddyn’ Gŵyl Arall.
Mae Llenyddiaeth Cymru’n falch o gael cyd-weithio gyda Gŵyl Arall eto eleni, i gynnal sgwrs rhwng rhai o’r awduron sydd wedi cyrraedd y Rhestr Fer Gymraeg.

17 Gorffennaf – Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2025.

20 Gorffennaf – Sgwrs Enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2025
Yn dilyn y Seremoni Wobrwyo a’r dathliadau, mi fydd sgwrs ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru ar brynhawn dydd Sul 20 Gorffennaf, ble bydd ambell un o’r awduron llwyddiannus yn ymuno i drafod eu cyfrolau a’u llwyddiant.

2 Awst – Digwyddiad Dathlu Llyfr y Flwyddyn, Y Babell Lên, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Sgwrs rhwng rhai o enillwyr gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn y Babell Lên rhwng 2:45-3:15pm

Noddwyr 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn hynod ddiolchgar i’r holl noddwyr a’r partneriaid sy’n gwneud Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn bosib. Noddir y wobr eleni gan lu o sefydliadau hael a chefnogol yn ogystal â’r prif noddwyr, Ysgol y Gymraeg ac Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’r noddwyr categori eleni yn cynnwys HSJ Accountants, sy’n noddi’r Wobr Ffuglen Gymraeg, Cronfa Elw Park-Jones sy’n noddi Gwobr Plant a Phobl Ifanc Cymraeg, Ymddiriedolaeth Rhys Davies, noddwyr Gwobr Ffuglen Saesneg, a Hadio, noddwyr Gwobr Ffeithiol Greadigol Saesneg. Mae Distyllfa Penderyn yn noddi’r Seremoni Wobrwyo.

I ddarllen rhagor am y noddwyr a’r partneriaid, ewch draw i Noddwyr Llyfr y Flwyddyn – Llenyddiaeth Cymru.

Dilynwch ni ar instagram: @llyfr_y_flwyddyn_wboty i fod y cyntaf i glywed cyhoeddiadau a diweddariadau ar brosiect Llyfr y Flwyddyn.