Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Rhestr Fer Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2021

Cyhoeddwyd Gwe 2 Gor 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Rhestr Fer Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2021

Heno fe gyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru Restr Fer Saesneg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021. Datgelwyd enwau’r 12 llyfr Saesneg a fydd yn ymgiprys am y Wobr eleni ar BBC Radio Wales ar nos Wener 2 Gorffennaf yn ystod rhaglen The Arts Show. Cyhoeddwyd y Rhestr Fer Gymraeg ar raglen Stiwtio ar BBC Radio Cymru yn gynharach yn yr wythnos.

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc.


Rhestr Fer Saesneg 2021

Poetry Award

Tiger Girl, Pascale Petit (Bloodaxe Books)

Come Down, Fiona Sampson (Corsair Poetry)

Road Trip, Marvin Thompson (Peepal Tree Press)

 

The Rhys Davies Trust Fiction Award

The Memory, Judith Barrow (Honno Press)

Salt, Catrin Kean (Gwasg Gomer)

Wild Spinning Girls, Carol Lovekin (Honno Press)


Creative Non-Fiction Award 

The Amazingly Astonishing Story, Lucy Gannon (Seren Books)

Slatehead: The ascent of Britain’s Slate climbing scene, Peter Goulding (New Welsh Review)

Lady Charlotte Guest: The Exceptional Life of a Female Industrialist, Victoria Owens (Pen & Sword)

 

Children & Young People Award        

The Infinite, Patience Agbabi (Canongate Books)

Blood Moon, Lucy Cuthew (Walker Books)

Wilde, Eloise Williams (Firefly Press)

 

Rhestr Fer Gymraeg 2021

Gwobr Farddoniaeth

Dal i Fod, Elin ap Hywel (Cyhoeddiadau Barddas)

rhwng dwy lein drên, Llŷr Gwyn Lewis (Hunan Gyhoeddedig)

Mynd, Marged Tudur (Gwasg Carreg Gwalch)

 

Gwobr Ffuglen

Wal, Mari Emlyn (Y Lolfa)

Tu ôl i’r awyr, Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

Twll Bach yn y Niwl, Llio Elain Maddocks (Y Lolfa)

 

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Ymbapuroli, Angharad Price (Gwasg Carreg Gwalch)

Darllen y Dychymyg: Creu Ystyron Newydd i Blant a Phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Siwan M. Rosser (Gwasg Prifysgol Cymru)

O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards, Hazel Walford Davies (Gwasg Gomer)

 

Gwobr Plant a Phobl Ifanc

Ble Mae Boc? Ar goll yn y chwedlau, Huw Aaron (Y Lolfa)

#Helynt, Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)

Y Castell Siwgr, Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch)

Beirniaid y gwobrau Saesneg eleni yw’r bardd, awdur a dawnsiwr Tishani Doshi; yr athro cynradd, adolygwr a’r dylanwadwr Scott Evans; y Paralympiwr, yr aelod o Dŷ’r Arglwyddi, siaradwr cymhelliant a’r darlledwr Tanni Grey-Thompson; a’r academydd, awdur ac actifydd, a chyn enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn (2003), Charlotte Williams.

Beirniaid y gwobrau Cymraeg eleni yw’r bardd a’r awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn; yr awdur, academydd a’r darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwr a’r awdur, Esyllt Sears.

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd enillwyr y gwobrau Saesneg yn cael eu cyhoeddi ar raglen The Arts Show BBC Radio Wales ar nos Wener 31 Gorffennaf rhwng 6.00 – 7.00 pm. Caiff enillwyr y gwobrau Cymraeg eu cyhoeddi mewn cyfres o ddarllediadau ar raglen Stiwdio BBC Radio Cymru rhwng dydd Llun 2 a dydd Mercher 4 Awst.

Yn ogystal â sgyrsiau byw gyda’r enillwyr, bydd y cyhoeddiadau yn cynnwys cyfraniadau gan gynrychiolwyr o’r panel beirniadu, Llenyddiaeth Cymru ac ambell feirniad answyddogol.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae’r rhestr fer hon yn adlewyrchu ystod o leisiau aruthrol awduron Cymru, yn ystod cyfnod eithriadol o anodd. Mae nifer ohonom wedi dianc rhwng cloriau llyfr da yn ystod y deunaw mis diwethaf, ac mae cynnyrch y rhestr fer hon yn sicr wedi cynnig cysur a chwmniaeth i sawl darllenydd.

Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn longyfarch yr holl awduron sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer 2021, a diolch i chi am ysbrydoli ein darllenwyr yn ystod blwyddyn ble mae grym llenyddiaeth wedi bod yn bwysicach nag erioed. Argymhellaf yn fawr ymweliad i’ch siop lyfrau neu lyfrgell lleol, er mwyn darllen y llyfrau gwych yma gan ein hawduron telentog o Gymru.”

Bydd cyfanswm o £14,000 yn cael ei rannu ymysg yr enillwyr. Bydd enillydd pob categori’n derbyn gwobr o £1,000 ac fe fydd prif enillwyr y wobr yn derbyn £3,000 yn ychwanegol. Yn ogystal â hyn bydd pob enillydd hefyd yn derbyn tlws eiconig Llyfr y Flwyddyn sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a gof Angharad Pearce Jones.

Bydd cyfle i ddarllenwyr ddweud eu dweud wrth i’r teitlau ar y Rhestr Fer gystadlu am Wobr Barn y Bobl a gynhelir yn annibynnol gan ein partneriaid Wales Arts Review a Golwg360.

Am ragor o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org/llyfr-y-flwyddyn