Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: Cyhoeddi trydedd rownd ein rhaglen flaenllaw i ddatblygu awduron 

Cyhoeddwyd Iau 14 Gor 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynrychioli Cymru: Cyhoeddi trydedd rownd ein rhaglen flaenllaw i ddatblygu awduron 

Ceisiadau yn agor ym mis Awst 2022 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd trydedd rownd ein cynllun datblygu awduron, Cynrychioli Cymru, yn cael ei lansio ym mis Awst 2022. 

Yn ei thrydedd flwyddyn, bydd y rhaglen yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n dod o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc. 

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen ddatblygu, sydd â’r nod o helpu i drawsnewid diwylliant llenyddol Cymru yn un sy’n wirioneddol adlewyrchu ei lleisiau amrywiol, a sefydlu llif o ddoniau Cymreig a fydd yn cael eu cydnabod yng Nghymru, ar draws y DU a thu hwnt. 

Byddwn yn cefnogi carfan o 13 o awduron o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol drwy gynnig y canlynol: 

  • gwobr ariannol hyd at £3,500 i helpu awduron gymryd seibiant i ysgrifennu, mynychu sesiynau hyfforddi a digwyddiadau llenyddol ac i gynorthwyo gyda chostau teithio  
  • mentora un-i-un 
  • gweithdai a sgyrsiau misol 
  • cyfleoedd i rwydweithio, creu cysylltiadau newydd ac adeiladu perthnasau gydag awduron eraill  
  • cyfleoedd i gyfarfod arbenigwyr yn y diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt 
  • encilion ysgrifennu am ddim yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd  

Bydd y rhaglen yn dechrau ym mis Mawrth 2023 ac yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2024. 

Eleni, byddwn yn canolbwyntio ar ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth a geir mewn awduron a chymeriadau llyfrau plant.  

Mae’r llyfrau y mae plant yn eu darllen yn siapio eu barn nhw am y byd ac amdanynt eu hunain. Dylai plant a phobl ifanc Cymru allu uniaethu â’r llyfrau y maent yn eu darllen a dod o hyd i fodelau rôl yn eu hoff awduron. 

Mae ymchwil yn adroddiadau ‘Reflecting Realities’ y CLPE a ‘Book Trust Represents’ yn amlygu’r diffyg cynrychiolaeth ethnig rhwng y cloriau ac ymysg awduron llyfrau plant. Nod rownd nesaf Cynrychioli Cymru yw i ddatblygu awduron o amrywiaeth o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd hwn. Fel rhan o’r broses ymgeisio, byddwn yn gofyn i awduron unai gyflwyno pennod o’u llyfr ffuglen neu ffeithiol greadigol, neu ddetholiad o’u barddoniaeth. Ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin i ddysgu mwy am y categoriau sydd yn gymwys. 

Er mwyn helpu awduron cymwys i baratoi eu cais, byddwn yn cynnal cyfres o sesiynau ysgrifennu creadigol ar-lein yn rhad ac am ddim yng nghwmni awduron plant sefydledig ym mis Awst 2022. Bydd hefyd sesiynau galw heibio gydag aelodau o dîm Llenyddiaeth Cymru fydd yn rhoi cyfle i’r awduron ddysgu mwy am y rhaglen ac i holi cwestiynau. 

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis o hyd gyda’r nod o wella’r cynrychiolaeth o fewn y diwydiant llenyddol yng Nghymru. Ariennir y rhaglen gan Y Loteri Genedlaethol, trwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Roedd rownd cyntaf rhaglen Cynrychioli Cymru, a lansiwyd yn 2020, yn canolbwyntio ar awduron o liw ac roedd yr ail raglen yn canolbwyntio ar awduron o gefndiroedd incwm isel. Cliciwch yma i ddarganfod mwy.  

Mae Cynrychioli Cymru wedi’i gynllunio mewn ymgynghoriad â chymunedau, awduron, ac ymgynghorwyr o rwydweithiau helaeth Llenyddiaeth Cymru i fynd i’r afael â’r rhwystrau presennol o fewn y sector. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu a llwyfannu pobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sydd wedi profi anghydraddoldebau hanesyddol a strwythurol, hiliaeth, galluogrwydd a gwahaniaethu.