Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi enwau Mentoriaid Cynrychioli Cymru 2023-2024

Cyhoeddwyd Iau 21 Medi 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r 14 awdur blaenllaw a fydd yn mentora awduron rhaglen gyfredol Cynrychioli Cymru.

Mae Cynrychioli Cymru yn un o brif raglenni Llenyddiaeth Cymru, ac fe’i hariennir gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Wedi’i datblygu i wella cynrychiolaeth o fewn y sector, nod y rhaglen yw helpu trawsnewid diwylliant llenyddol y wlad yn un sy’n wirioneddol adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru a sefydlu llif o ddoniau Cymreig amrywiol a gydnabyddir ledled y DU a thu hwnt.

Mae gan y rhaglen gyfredol, a ddechreuodd ym mis Ebrill 2023, bwyslais benodol ar ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc.

Caiff pob awdur ar raglen Cynrychioli Cymru eu paru gyda Mentor o’u dewis mewn ymgynghoriad â Llenyddiaeth Cymru. Yn ystod y flwyddyn, bydd y mentoriaid yn cynnig gefnogaeth olygyddol yn ogystal â chyngor arbenigol ar eu gyrfa fel awdur, wrth iddynt weithio tuag at gyflawni eu nodau unigol. Bydd y Mentoriaid wrth law er mwyn eu cynorthwyo i fireinio eu prosiectau creadigol i safon cyhoeddi, a byddant yn cynnig arweiniad ar ymgyfarwyddo â’r diwydiant, yn eu cyfeirio at gyfleoedd proffesiynol a chynorthwyo mynediad at rwydweithiau ehangach.

 

Y Mentoriaid

Mae rhai o awduron mwyaf cyffrous a llwyddiannus diwylliant llenyddol Cymru a thu hwnt yn mentora eleni. Y mentoriaid yw Sophie Anderson, Melvin Burgess, Jonathan Edwards, Kat Ellis, Catherine Fisher, Mererid Hopwood, Danielle Jawando, Patrice Lawrence, Kim Moore, James Nicol, Manon Steffan Ros, Joshua Seigal, Emma Smith-Barton a Casia Wiliam.

Maent yn arbenigo ar ystod eang o genres, ac yn meddu ar arbenigedd proffesiynol. Maent wedi eu lleoli yng Nghymru a thu hwnt. Mae rhai awduron yn canolbwyntio ar ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc, tra bod eraill yn ysgrifennu’n bennaf ar gyfer oedolion.

At ei gilydd, mae eu gwaith wedi eu gyhoeddi’n fyd-eang, ac wedi eu cynnwys mewn gwobrau gan gynnwys: y Jhalak Prize for Children and Young People, Gwobr Branford Boase; Gwobr Llyfr Smarties; Gwobr Andersen ; Gwobr Llyfrau Plant Waterstone’s; Medal Yoto Carnegie (Medal CILIP Carnegie gynt); Gwobr Llyfr y Flwyddyn; Gwobr Tir na n-Og, Gwobr YA y Bookseller; Gwobr Llyfr Blue Peter; a gwobr Ffuglen Plant The Guardian.

 

Yn y fideo hwn, mae awduron rhaglen 2022-2023 yn rhannu eu profiadau o gael eu mentora fel rhan o rhaglen Cynrychioli Cymru:

Gallwch ymweld â thudalen Cynrychioli Cymru i ddarganfod rhagor am yr awduron sy’n rhan o’r rhaglen eleni, darllen rhagor am yr holl fentoriaid, a darganfod mwy am y rhaglen ei hunan, sydd ar agor ar gyfer ceisiadau ar gyfer rhaglen 2024-2025 ar hyn o bryd.