Datganiad gan Llenyddiaeth Cymru
Mae rôl y Bardd Cenedlaethol yn un llysgenhadol yn ei hanfod, wrth iddynt ddefnyddio barddoniaeth i ysbrydoli sgyrsiau, myfyrdod a newid er gwell.
Mae Hanan Issa wedi bod yn egwyddorol a pharchus wrth rannu’r gwir â’r rhai mewn grym erioed, ac roedd y rhinweddau hynny yn allweddol yn y penderfyniad i’w phenodi yn Fardd Cenedlaethol yn 2022. Mae hyn yn amlwg yn ei gwaith, er enghraifft wrth iddi eirioli dros well amodau a thâl i weithwyr iechyd ar y rhes flaen yn ‘Y Di-glod’ – cerdd i nodi 75 mlynedd ers sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch fod gennym Fardd Cenedlaethol nad yw’n osgoi taflu goleuni ar faterion sy’n wynebu pobl Cymru, yn ogystal â phryderon am ddigwyddiadau tu hwnt i ffiniau’r wlad.
Rydym yn parchu hawl y Bardd Cenedlaethol i gyfathrebu negeseuon yn eu dull nhw eu hunain, ac i arfer eu hunaniaeth creadigol. Nid yw pob comisiwn barddoniaeth yn syml, ac rydym yn gwerthfawrogi fod Hanan eisiau i’w chyfraniad creadigol i agoriad y seithfed Senedd fynegi pryderon dilys am sefyllfa bresennol Cymru. Roedd ganddi berffaith hawl, hefyd, i wrthod ffi y comisiwn a rhyddhau’r gerdd yn annibynnol.
Rydym hefyd yn cydnabod hawl Comisiwn y Senedd, fel y rhai a gomisiynodd y gwaith, i benderfynu peidio cynnwys y gerdd yn eu dathliad gan eu bod o’r farn nad oedd yn addas ar gyfer yr achlysur.
Rydym yn siomedig nad oes elfen lenyddol i’r dathliad ffurfiol hwn o ddemocratiaeth Cymru, ond rydym yn derbyn penderfyniad Comisiwn y Senedd. Serch hynny, mae’n galonogol fod gwerth a grym geiriau yn cael ei drafod yn y wasg a’r cyfryngau. Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen sy’n bodoli i gefnogi awduron ac ysgrifennu o Gymru, a byddwn yn parhau i gefnogi gwaith sy’n defnyddio grym geiriau i ddwyn y rheiny mewn grym i gyfrif, ac sy’n ychwanegu at stori ein cenedl – ein gwlad beirdd a chantorion.