Dewislen
English
Cysylltwch

Dathlu trydedd blynedd encil ysgrifennu LHDTC+ yn Nhŷ Newydd

Cyhoeddwyd Iau 7 Tach 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Dathlu trydedd blynedd encil ysgrifennu LHDTC+ yn Nhŷ Newydd
Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi enwau’r unarddeg awdur sydd wedi ennill lle ar encil ysgrifennu LHDTC+ Tŷ Newydd ar gyfer 2024.

Bydd Elisabeth Parsons, Menna Siân Rogers, Lois Gwenllian, Hedd Llwyd Edwards, Steffan Wilson-Jones, Lowri Hedd Vaughan, Sara Huws, Mair Jones, Iwan Kellet, Lowri Morgan a Kallum Keefe Weyman yn ymuno â’r tiwtoriaid a’r ysgogwyr creadigol Mike Parker, Melda Lois a Gareth Evans-Jones am benwythnos o ysgrifennu. Gallwch ddarllen mwy am yr awduron a’r ysgogwyr ar y dudalen brosiect.

“Fe ymgeisiais am le ar yr encil i ddysgu mwy am y byd cyhoeddi, a sut i fynd ati yn ymarferol â’r gorchwyl o ddatblygu syniad hyd at gael y llyfr yn eich llaw. Rwy’n gobeithio cael budd o adeiladu rhwydwaith gefnogol er mwyn bod yn llai ynysig fel sgwenwraig. Bydd cyfle i ddatblygu perthynas greadigol a phroffesiynol gyda phobl LHDT+ yn y maes yn hynod o werthfawr.” – Sara Huws

Dyma’r drydedd blwyddyn i Llenyddiaeth Cymru gydweithio â Llyfrau Lliwgar i gynnal yr encil hon – y cyntaf o’i math i gynnig preswyliad rhad-ac-am-ddim i griw o awduron LHDTC+ sy’n ysgrifennu’n greadigol drwy gyfrwng y Gymraeg. Cymdeithas yw Llyfrau Lliwgar a gychwynnodd fel clwb llyfrau LHDTC+ ym Mangor, ond sydd bellach yn cynnig gweithdai ysgrifennu creadigol, nosweithiau cymdeithasol, ac yn gymuned sy’n cefnogi digwyddiadau Balchder ledled Cymru.

 

“Mae’r sîn ysgrifennu LHDTC+ yn y Gymraeg wedi ei drawsnewid yn ddiweddar. Mae digwyddiadau dan faner Mas ar y Maes yn yr Eisteddfod yn feiddgar ac yn gyffrous, mae llyfrau da yn cael eu cyhoeddi ar y themâu yma, ac mae gweithdai llawr gwlad newydd Llythrennau Lliwgar yn magu’r don nesaf o awduron cwiyr Cymraeg. Mae llawer o’r diolch am y datblygiadau yn perthyn i gymuned fywiog Llyfrau Lliwgar dan arweiniad yr awdur Gareth Evans-Jones, ac mae’n wir fraint cael cydweithio â nhw eto eleni i groesawu criw o awduron i Dŷ Newydd.”

Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru

Yn dilyn yr encil gyntaf yn 2022, cyflwynodd sawl un a fynychodd yr encil eu gwaith i’w cynnwys yn y flodeugerdd LHDTC+ gyntaf yn y Gymraeg a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas, Curiadau (2023). Ac yn dilyn encil 2023, daeth cyfle i’r mynychwyr gyfrannu gwaith ar gyfer zine newydd sbon o’r enw rhych newydd, a ariannwyd gan grant cymunedol Cyngor Gwynedd, a sydd ar gael i’w lwytho oddi ar ein gwefan.