Dewislen
English
Cysylltwch

Digwyddiad: Adeiladu Cymunedau Llenyddol yng Nghymru

Cyhoeddwyd Iau 1 Gor 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Digwyddiad: Adeiladu Cymunedau Llenyddol yng Nghymru
Marvin Thompson, Sadia Pineda Hameed, Connor Allen a Durre Shahwar

Adeiladu Cymunedau Llenyddol yng Nghymru
Nos Fawrth 20 Gorffennaf, 7.00 pm – 8.00 pm
Siaradwyr: Marvin Thompson (Cadeirydd), Connor Allen, Durre Shahwar, Sadia Pineda Hameed
Digwyddiad rhithiol ar Webinar Zoom – cofrestrwch am ddim yma. Bydd is-deitlau byw ar gael.

Mae mwy o bwyslais nag erioed ar amrywiaeth a chydraddoldeb o fewn y sector lenyddiaeth a chyhoeddi. Ond pwy sydd yn arwain ar y newid hwn? Bydd y digwyddiad hwn, a gynhelir dan faner rhaglen Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw Llenyddiaeth Cymru, yn rhoi sylw i’r gwaith anhygoel y mae unigolion a chymunedau llawr gwlad yn ei gyflawni wrth adeiladu cymunedau llenyddol yng Nghymru. O ddigwyddiadau byw yn y gymuned i rai digidol, i raglenni datblygu proffesiynol a chyhoeddiadau annibynnol sy’n cyhoeddi lleisiau amrywiol – byddwn yn clywed am brosiectau arloesol sydd yn trawsnewid diwylliant llenyddol Cymru.

Wedi ei drefnu mewn partneriaeth â chylchgrawn Poetry Wales a rhaglen y Ledbury Poetry Critics, byddwn yn archwilio’r hyn sydd yn gwneud cymuned lenyddol Cymru yn un unigryw – a sut fedrwn ni gydweithio i sicrhau newid i adlewyrchu amrywiaeth cyfoethog lleisiau ein gwlad.

Y Siaradwyr

Mae Marvin Thompson yn byw yng Nghwmbrân. Mae ganddo MA mewn ysgrifennu creadigol, ac mae’n awdur, yn athro ac yn wneuthurwr ffilmiau. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr Farddoniaeth Manceinion 2019 ac mae ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Road Trip (Peepal Tree Press, 2020), yn un o argymhellion y Poetry Book Society. Dewiswyd y casgliad hwn hefyd gan y Poetry Society yn un o lyfrau Black Lives Matter Inspiration ym mis Mehefin 2020. Yn ddiweddar, daeth ei gerdd ‘The Fruit of the Spirit is Love (Galatians 5:22)’ yn fuddugol o blith 18,000 o gynigion yng Nghystadleuaeth Barddoniaeth Genedlaethol 2020. Mae Marvin yn rhan un o awduron Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw Llenyddiaeth Cymru.

Ers graddio o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant fel actor, mae Connor Allen wedi gweithio gyda chwmnïau fel Theatr Torch, Theatr y Sherman, Theatr Tin Shed a National Theatre Wales. Mae’n aelod o Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain ac fe enillodd rownd Caerdydd o’r Triforces MonologueSlam, gan gynrychioli Cymru yn Llundain ar gyfer rownd yr enillwyr. Fel awdur, mae wedi ysgrifennu ar gyfer Dirty Protest, Y Sherman, a BBC Cymru. Mae wedi gweithio yng Ngharchar y Parc yn cynnal prosiect ysgrifennu creadigol ac ymbweru o’r enw Prison Headz, a derbyniodd nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ei ddrama gyntaf, yn ogystal â chomisiwn gan Llenyddiaeth Cymru ar gyfer ei wefan, 27. Mae hefyd yn rhan o’r BBC Wales Welsh Voices 19/20 a Grŵp Awduron Cymreig y Royal Court. Yn gynharach eleni, derbyniodd Connor wobr gan Gronfa Live Work Jerwood Arts – un o’r unig 33 awdur llwyddiannus ar gyfer y gronfa o dros 1,200 o ymgeiswyr. Bydd yn defnyddio’r wobr i gynnal rhaglen ddatblygu i grŵp o artistiaid o liw yng Nghymru.

Mae Sadia Pineda Hameed yn awdur, artist a golygydd sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae ei chrefft fel artist yn cynnwys ysgrifennu barddoniaeth ac arbrofi â rhyddiaith, ynghyd â chreu ffilmiau â thestun, gosodiadau celfyddydol a pherfformio. Mae Sadia wedi arddangos gwaith gyda Bluecoat, MOSTYN, Artes Mundi, National Museum Wales, g39, Peak Cymru, Arcade/Campfa, SHIFT, Gentle/Radical, yr Eisteddfod a HOAX, gyda pherfformiad ar ei ffordd gyda Mosaic Rooms. Mae wedi cyhoeddi gwaith gyda Zarf, Amberflora, Porridge, Wales Arts Review a LUMIN ymysg eraill. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar ei darn hir cyntaf o ryddiaith: nofel fer ffeithiol-greadigol, To Make Philippines, gyda chefnogaeth Rhaglenni Ysgoloriaethau a Mentora Llenyddiaeth Cymru 2020. Roedd Sadia yn un o griw nodedig gwobr Rising Stars Cymru 2020. Mae Sadia’n un o sefydlwyr LUMIN, sef gwasg fechan, grŵp sy’n curadu gwaith, a rhaglen radio sy’n trin a thrafod llenyddiaeth a chelf arbrofol, eithafol a phersonol.

Mae Durre Shahwar yn awdur, llefarydd ac yn fyfyrwraig PHD. Hi yw cyd-sylfaenydd Where I’m Coming From, grŵp o lenorion sydd yn cynnal nosweithiau meic agored sy’n rhoi llwyfan yn bennaf i awduron o liw. Mae Durre yn un o awduron Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru. Yn y gorffennol, bu’n rhan o raglen Awduron Wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, a BBC Writersroom Welsh Voices. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi mewn amryw o gyhoeddiadau a blodeugerddi yn cynnwys: Just So You Know (Parthian Books), Know Your Place: Essays on the Working Class (Dead Ink Books), We Shall Fight Until We Win (404 Ink) a Homes For Heroes 100 (Bristol Festival of Ideas). Mae Durre ar hyn o bryd yn dilyn PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gweithio ar greu ei llyfr cyntaf, sef gwaith naratif ffeithiol greadigol am hunaniaethau pobl o Dde Asia yng Nghymru.
www.durreshahwar.com / @Durre_Shahwar

Cynhelir Adeiladu Cymunedau Llenyddol yng Nghymru yn rhithiol ar nos Fawrth 20 Gorffennaf 2021, 7.00 pm – 8.00 pm ar Webinar Zoom. Bydd is-deitlau byw ar gael. Cofrestrwch am ddim yma.