Dewislen
English
Cysylltwch

Diwrnod Gweu Rhyngwladol – edrych yn ôl ar Gair mewn Gwlân

Cyhoeddwyd Gwe 13 Meh 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Diwrnod Gweu Rhyngwladol – edrych yn ôl ar Gair mewn Gwlân
Dyma erthygl gan Robin Humphreys, Ysgol Brynrefail, sydd yn treulio wythnos o Brofiad Gwaith gyda Llenyddiaeth Cymru yn ein swyddfa yn Nhŷ Newydd .
Mae hi’n Ddiwrnod Gweu Rhyngwladol ddydd Sadwrn, 14 Fehefin. Dyma gyfle i ddathlu eich brwdfrydedd a’ch diddordeb mewn gweu gyda’ch ffrindiau – neu gael eich ysbrydoli i ddechrau gweu gyda grŵp efallai?

I ddathlu’r diwrnod yma, beth am gofio ’nôl i Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn 2023, pan gynhaliwyd prosiect arbennig a hyfryd oedd yn pontio cenedlaethau, o’r enw Gair mewn Gwlân. Prosiect a drefnwyd mewn partneriaeth oedd hwn, gyda Phwyllgor Llên Eisteddfod Boduan, Ecoamgueddfa Llŷn, Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd oll yn cyfrannu.  

Bwriad Gair mewn Gwlân oedd ysbrydoli ac addysgu plant ysgolion cynradd dalgylch yr Eisteddfod am hanes ac enwau cyfoethog eu milltir sgwâr, e.e. enwau caeau, chwareli, porthladdoedd, meini a ffermydd. Daethpwyd â gwirfoddolwyr, beirdd a haneswyr lleol, ysgolion, dros 700 o blant a llawer iawn o wlân ynghyd ar ei gyfer. 

Beth wnelo hyn â gwlân felly? Fe ddechreuodd y syniad am Gair mewn Gwlân mewn grŵp gweu a chrosio sy’n cwrdd ym Morfa Nefyn, sef Gweill Gobaith. Roedden nhw’n ceisio meddwl sut i helpu’r Eisteddfod a dyma benderfynu gweu neu grosio sgwariau. Roedd Esyllt Maelor yn aelod o’r grŵp ac o bwyllgor llên yr Eisteddfod a hi wnaeth bwytho’r elfennau at ei gilydd i greu’r prosiect. 

Wedi i ddisgyblion yr ysgolion gasglu’r holl enwau, fe’u gosodwyd ar ddarnau sgwâr o wlân a grëwyd gan grwpiau gweu a chrosio a gan bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Derbyniodd 34 o ysgolion becyn o 64 o sgwariau bach 8 modfedd, wedi’u gweu neu grosio. Ar ôl i’r ysgolion dderbyn y sgwariau, buon nhw’n gwnïo neu frodio’r enwau unigryw ar bob sgwâr gan greu cefnlenni gwlân trawiadol, gydag aelodau o grwpiau gweu lleol yn dod i’r ysgolion i’w helpu.  

Dywedodd aelod o Gweill Gobaith: “Rydw i wrth fy modd fod plant wedi elwa o ddysgu am enwau llefydd eu hardal. Mae’r cefnlenni yma yn gofnod am byth tydi.” 

Dywedodd Gwenan Griffith, Rheolwr Prosiect Ecoamgueddfa Llŷn “Prosiect a lwyddodd i bontio cenedlaethau, uno cymunedau, a dathlu enwau a straeon lleol sy’n rhan annatod o’n treftadaeth” 

Elfen arall bwysig o’r prosiect oedd creu cerddi o’r geiriau arbennig a gasglwyd. Cynigiodd Llenyddiaeth Cymru hyfforddiant ar sgwennu cerddi yn y dosbarth i athrawon cynradd dalgylch yr Eisteddfod. Cynigiwyd nawdd gan Llenyddiaeth Cymru hefyd er mwyn i feirdd gynnal gweithdai yn yr ysgolion, a daeth blodeugerdd hardd a lliwgar o gerddi a lluniau at ei gilydd gyda chymorth Ecoamgueddfa Llŷn. 

Roedd gwaddol arbennig i Gair mewn Gwlân – llyfr hardd a 34 cefnlen! Felly cafwyd 22 o ddathliadau yn Eisteddfod Boduan gan gynnwys agoriad swyddogol y Babell Lên, lansiad y gyfrol a chyfle i bob ysgol ddathlu eu cefnlen a cherddi mewn stondinau ar draws y Maes. 

Dywedodd Gwenan Griffith, “Roedd lansio’r llyfr yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan yn 2023 yn uchafbwynt gwirioneddol — pabell lawn, cyflwyniadau ysgolion, a chymuned yn dod ynghyd i ddathlu.” 

Dywedodd Einir Young, “Roedd yn brosiect mor arbennig, yn gweu edafedd cymunedol Pen Llŷn mewn ffordd mor gywrain ac o bosib unigryw Gymreig” 

Felly, pa well ffordd i ddathlu’r grefft ar Ddiwrnod Gweu Rhyngwladol na chofio am brosiect hyfryd Gair mewn Gwlân. Mae modd dysgu mwy am y prosiect a gweld copi digidol o’r llyfr, ar wefan Ecoamgueddfa. 

Diwrnod Gweu Rhyngwladol hapus i chi gyd!