Encil Llyfrau Lliwgar: Ceisiadau nawr ar agor

Yn ystod yr encil, bydd yna ysgogwyr creadigol yn cefnogi’r mynychwyr ac yn hwylsuo’r digwyddiadau: Brennig Davies, Kayley Roberts a Gareth Evans-Jones. Ac yn dilyn yr encil (dyddiad i’w gadarnhau), cynhelir dosbarth meistr dros Zoom gyda Nia Morais.
Mae 8 lle ar gael eleni, a gallwch ymgeisio drwy lenwi’r ffurflen gais hon.
Dyddiad cau: 12:00pm hanner dydd, dydd Gwener 9 Hydref 2026.
Dysgwch fwy am encilion y gorffennol yma.
Caiff yr encil ei ariannu gan Llenyddiaeth Cymru, y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Gwynedd.
Ysgogwyr Creadigol 2026
Brennig Davies
Llenor o Fro Morgannwg yw Brennig Davies. Fe enillodd Wobr Awduron Ifanc y BBC yn 2015, a Choron Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019, yn ogystal â chael ei ddewis fel un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli yn 2023.
Mae ei waith wedi cael ei ddarlledu ar BBC Radio 4, ac wedi ei gyhoeddi yn The London Magazine, Poetry Wales, Ffosfforws, Curiadau (Barddas), a Cymry Balch Ifanc (Rily). Fe gyhoeddodd ei nofel gyntaf, Fel yr Haul, gyda Sebra yn 2026, yn ogystal â chyfrol o straeon byrion Saesneg, Dogs in a Storm, gyda Parthian hwyrach yr un flwyddyn.
Kayley Roberts
Mae Kayley Roberts yn awdur, bardd, a chwnselydd, sy’n gweithio yng Nghaernarfon. Maen nhw’n hoff o’r swreal, yr absẃrd a’r ffantasïol, ac mae eu gwaith, yn greadigol ac yn therapiwtig, yn aml yn archwilio pynciau hunaniaeth gwiar, cymuned a pherthyn.
Mae eu cerddi wedi eu cyhoeddi yn Ffosfforws 6 a 7 (Cyhoeddiadau’r Stamp) a’r flodeugerdd O Ffrwyth y Gangen Hon (Barddas, 2025) a chafodd eu nofel gyntaf, Lladd Arth, ei chyhoeddi gan Y Lolfa flwyddyn ddiwethaf. Ceir mwy o wybodaeth yma.
Gareth Evans-Jones
Daw Gareth o Ynys Môn ac mae’n llenor sy’n gweithio mewn amryw gyfryngau ynghyd â bod yn ddarlithydd mewn Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor. Mae wedi cyhoeddi tair nofel i oedolion (Eira Llwyd, Y Cylch, ffrwyth), cyfrol o lên feicro a ffotograffau, Cylchu Cymru (Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2023), a chyfrol o straeon byrion i blant, Llanddafad (Dewis y Darllenwyr Gwobrau Tir na-nOg 2025).
Gareth oedd golygydd Curiadau, y flodeugerdd gyntaf o lenyddiaeth LHDTC+ yn Gymraeg, ac ef yw sefydlydd Llyfrau Lliwgar. Mae wedi ennill y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, a’r Fedal Ryddiaith yn 2026, am ei nofel ddiweddaraf, ffrwyth.
Nia Morais
Mae Nia’n awdur, dramodydd a bardd o Gaerdydd, sy’n ysgrifennu cerddi, dramâu, a straeon byrion i blant ac oedolion. Mae hefyd yn gweithio fel cyfieithydd ac yn hwylusydd gweithdai creadigol profiadol iawn. Yn gyn-Fardd Plant Cymru, mae Nia wedi ysgrifennu’n helaeth ac wedi cyhoeddi ei gwaith yn eang.
Ymysg ei chyhoeddiadau diweddar, mae Yn y Freuddwyd (Barddas), golygu Ffrwyth y Gangen Hon (Barddas), ac Enwogion o Fri: Betty (Llyfrau Broga Cymru). Nia oedd awdur drama Imre (Frân Wen/Sherman) a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau’r Stamp, sgriptiodd fersiwn newydd o Nia Ben Aur (Eisteddfod Genedlaethol 2024) ac mae wrthi’n cydweithio gyda Leila Navabi, ar sioe gerdd saffig newydd, Ar y Cae.