Dewislen
English
Cysylltwch

Ffilm farddoniaeth yn dathlu cyfraniad Raymond Williams i lenyddiaeth yng Nghymru

Cyhoeddwyd Llu 13 Maw 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Ffilm farddoniaeth yn dathlu cyfraniad Raymond Williams i lenyddiaeth yng Nghymru
Raymond Williams
Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi ffilm sy’n dwyn ynghyd barddoniaeth a geiriau’r beirdd Mererid Hopwood, Hanan Issa a Rufus Mufasa, wedi eu plethu’n gywrain â lluniau trawiadol o dirwedd Cymru, mewn fideo sydd wedi ei chreu gan Hushland Creative.  

Wrth nodi canmlwyddiant yr awdur a’r athronydd Raymond Williams, defnyddiodd y beirdd ei gyfrol ddylanwadol, Keywords: A Vocabulary of Culture and Society, fel ysbrydoliaeth i gerddi sy’n archwilio geiriau allweddol ein cymdeithas ni heddiw, a’u hystyron o fewn diwylliannau amrywiol Cymru.  

Bu’r beirdd yn mwynhau darlithoedd am Williams a’i ddylanwad gan griw o arbenigwyr yn cynnwys Euros Lewis, Daniel Williams, Emily Trahir, Robin Chapman a Graeme Farrow, cyn cynnal gweithdai a thrafodaethau i ystyried a llunio ymateb creadigol. 

Mae cyflwyniad Cynllun Strategol diweddaraf Llenyddiaeth Cymru yn dyfynnu Raymond Williams o’i gyfrol Resources of Hope (1989), sy’n dweud mai fel hyn y mae creu newid: “make hope possible, rather than despair convincing.” Mae’r fideo yn creu darlun gobeithiol o gymdeithas y Gymru fodern yn wyneb sawl her. 

Meddai Mererid Hopwood, “Mae cydweithio gyda’r criw a chael cyfle i ddysgu mwy am Raymond Williams wedi bod yn brofiad cyfoethog iawn – o’r cnoi cil i’r cwestiynu a’r creu. Mae peth o’r cyfoeth yn cael ei ddal yn y gair ‘tawaf’. Yn Gymraeg golyga ‘ymdawelu’, yn Arabeg ‘cylchrodio’. Dyma esiampl o’r un sain yn cynnig dwy allwedd i agor drysau gwahanol yn y cymundeb fu rhyngom. Diolch am y cyfle.” 

Meddai Hanan Issa, Roedd yn bleser pur cael cydweithio â dwy o’r beirdd sydd ymysg y rhai mwyaf cyffrous yng Nghymru wrth i ni ymgolli ein hunain yng ngwaith Williams, gan ddarganfod pethau newydd am y dyn ei hun a’r modd y mae rhythmau ac ystyr yn pontio ieithoedd drwy rym barddoniaeth.” 

Meddai Rufus Mufasa, “Drwy waith Raymond, ei feddyliau a’i gysyniadau, cefais ddod â’m profiadau bywyd fy hun i’r drafodaeth mewn modd diogel, a chefais wrandawiad a pharch, fel y byddai Raymond Williams ei hun ei eisiau.  Rwyf wedi datblygu fy ngwaith â phlant a phobl ifanc yn dilyn astudio Raymond Williams. Drwy archwilio cyfieithiadau ac ieithoedd brodorol, gallwn ddod o hyd i’n geiriau allweddol, a drwy greadigrwydd gallwn eu defnyddio i gyrraedd a chysylltu ag eraill, a chasglu caredigrwydd ar hyd y ffordd. Drwy gasglu’r geiriau allweddol a’r caredigrwydd yma bydd modd i ni siapio a dathlu’r Gymru gyfoes.”  

Ariannwyd y prosiect creadigol hwn gan Llenyddiaeth Cymru, gyda chydweithrediad Prifysgol Aberystwyth, cylchgrawn Planet, Canolfan Mileniwm Cymru, Prifysgol Abertawe a WesGlei, gyda diolch i Hushland Creative am eu gwaith ar y fideo. 

Is-lwythwch y cerddi yma, a gwyliwch y fideo isod.

Geiriau allweddol : Key Words – 2023.mov gan Bill Taylor-Beales ar Vimeo.