Dewislen
English
Cysylltwch

Ffrindiau yn ymuno â’r Bardd Plant i gyrraedd ysgolion ledled Cymru

Cyhoeddwyd Mer 19 Maw 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Ffrindiau yn ymuno â’r Bardd Plant i gyrraedd ysgolion ledled Cymru
Mae’n bleser gennym gyhoeddi cynllun newydd sbon o’r enw Ffrindiau Bardd Plant Cymru. Ym mis Mawrth 2025, bydd pum llenor poblogaidd yn ymuno â Nia Morais, y Bardd Plant Cymru presennol, i gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol ledled y wlad.

Ynghyd â Nia ei hun, bydd Mari Lovgreen, Gwennan Evans, Natalie Jones, Sioned Erin Hughes a Rebecca Wilson yn teithio i ddeg sir yng Nghymru i gynnal gweithdai hwyliog yn chwarae â geiriau, gan hybu sgiliau llythrennedd y plant drwy greadigrwydd. Mae pob awdur wedi dewis un o’u siopau llyfrau lleol i gydweithio â nhw ar y prosiect hwn, a bydd yr awduron yn gadael rhodd o becyn llyfrau o’u heiddo i’r ysgolion er mwyn parhau â’r darllen a’r creadigrwydd.

Mae straeon cyson wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar ynglŷn â’r argyfwng mewn safonau llythrennedd plant yn dilyn pandemig Covid-19. Mae safonau darllen plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn benodol bryderus, a chyswllt amlwg rhwng plant sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim a safonau darllen isel, o’i gymharu â’u cyfoedion. Mae Llenyddiaeth Cymru yn ddiolchgar i Grŵp Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru am y nawdd ychwanegol i brosiect Bardd Plant Cymru i gynnal y prosiect pwysig hwn sy’n mynd i’r afael â’r her hon.

Meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, “Mae Llenyddiaeth Cymru yn edrych ymlaen i weld sut hwyl gaiff y chwe llenor arni wrth deithio o amgylch Cymru yn ymweld ag oddeutu 900 o blant. Mae awdur yn gallu mynd â llond lle o hud eu llyfrau gyda nhw i ystafell ddosbarth. Ein gobaith yw y bydd y gweithdai yn dymchwel y clwydi rhwng yr awdur a’r darllenwyr ifanc, gan annog y plant i feithrin cariad at ysgrifennu, darllen a llyfrau. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Llywodraeth am y nawdd ychwanegol i wireddu’r prosiect hwn sy’n edrych ar hybu llythrennedd drwy greadigrwydd.”

Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol sydd â’r nod o ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru trwy weithdai a phrosiectau barddoniaeth amrywiol. Dyma’r tro cyntaf ers ei sefydlu yn 2000 i’r Bardd Plant ddod â grŵp o ffrindiau ynghyd i ymestyn hwyl a hyd y prosiect.

Mae’r ysgolion fydd yn elwa o’r gweithdai ychwanegol yn cynnwys Ysgol Dyffryn Cledlyn, Ysgol Carreg Hirfaen, Ysgol Bro Pedr, Ysgol y Dderi, Ysgol Penygroes, Ysgol Pen y Pîl, Ysgol Nefyn, Ysgol Llanbedrog, Ysgol Pentreuchaf, Ysgol Abererch, Ysgol Llanllyfni, Ysgol Garndolbenmaen, Ysgol Llandygai, Ysgol Rhiwlas, Ysgol Maesincla, Ysol Bro Lleu, Ysgol Llanfairpwllgwyngyll, Ysgol Esceifiog, Ysgol Cwm Banwy, Ysgol Pontrobert, Ysgol Glantwymyn, Ysgol Gynradd Carno, Ysgol Pennant, Ysgol Ffridd y Llyn, Ysgol Santes Tudful, Ysgol Rhyd y Grug, Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf, Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Ysgol Calon y Cymoedd, Ysgol y Ferch o’r Sgêr, Ysgol Maenclochog, Ysgol Gymunedol Brynconin, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Bancyfelin, Ysgol Pontiets ac Ysgol Cefneithin.

Darllenwch ragor am ffrindiau Bardd Plant Cymru isod!

 

Bardd Plant Cymru