Dewislen
English
Cysylltwch

Firefly Press yn cyhoeddi The Blue Book of Nebo gan Manon Steffan Ros

Cyhoeddwyd Iau 6 Ion 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Firefly Press yn cyhoeddi The Blue Book of Nebo gan Manon Steffan Ros
Heddiw, 6 Ionawr 2022, mae gwasg Firefly Press wedi cyhoeddi addasiad Saesneg o nofel Gymraeg arobryn Manon Steffan Ros, Llyfr Glas Nebo.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn hynod falch o weld Llyfr y Flwyddyn 2019, Llyfr Glas Nebo, yn cael ei gyhoeddi yn Saesneg gan Firefly Press. Mae Manon Steffan Ros yn awdur, dramodydd ac awdur gêmau llawn amser. Mae wedi ysgrifennu dros ugain o lyfrau, ac wedi ennill Gwobr Tir nan-Og bedair gwaith (Trwy’r Tonnau yn 2010; Prism yn 2012, Pluen yn 2017 a Fi a Joe Allen yn 2018). Mae’n dod o Riwlas, Dyffryn Ogwen, yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Nhywyn. Mae Llenyddiaeth Cymru yn ffodus o gael croesawu Manon yn aml fel tiwtor gwerthfawr i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ac fel mentor ar ein Cynlluniau Ysgoloriaethau a Mentora, yn ogystal â Cynrychioli Cymru, ein rhaglen datblygu awduron.

Dyma stori ryfeddol Siôn, a orfodwyd i dyfu’n ddyn yn sydyn iawn, ei fam Rowenna, a’i chwaer fach, Dwynwen. Mae’r hanes hynod wedi’i gofnodi mewn llyfr nodiadau glas wrth geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – yr hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt. Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018.

Sicrhaodd Penny Thomas, cyhoeddwr llyfrau plant a phobl ifanc yn Firefly Press, hawliau Saesneg y DU ar gyfer y nofel, The Blue Book of Nebo gan Manon Steffan Ros, gan Christopher Combemale yn Sterling Lord Literistic, Inc.

Dywedodd Penny Thomas:

‘Rydym yn hynod falch i fod yn cyhoeddi’r llyfr hwn, sydd wedi ei addasu i’r Saesneg gan yr awdur’.

Yn ôl Manon Steffan Ros:

‘Mae’n fraint cael gweithio gyda chyhoeddwryr wyf wedi ei edmygu ers y dechrau. Rwy’n  eithriadol falch i rannu Llyfr Glas Nebo gyda chynulleidfa newydd, ac wrth fy modd ei fod wedi dod o hyd i gartref newydd gyda Firefly.’

Hyd yn hyn, mae The Blue Book of Nebo wedi ei werthu mewn wyth tiriogaeth, gan gynnwys Ffrainc, Sbaen, Gwlad Pwyl, Yr Aifft, a’r Unol Daleithiau.

Mae modd prynuThe Blue Book of Nebo mewn siopau llyfrau yng Nghymru, a thrwy wefan Firefly Press.