Dewislen
English
Cysylltwch

Galwad Agored: Fy Nghyfnod Creadigol – prosiect ar y cyd rhwng Celfyddydau Gwirfoddol Cymru a Llenyddiaeth Cymru

Cyhoeddwyd Maw 25 Awst 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Galwad Agored: Fy Nghyfnod Creadigol – prosiect ar y cyd rhwng Celfyddydau Gwirfoddol Cymru a Llenyddiaeth Cymru
Mae’n bleser gan Celfyddydau Gwirfoddol Cymru a Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi prosiect newydd ar y cyd, sef Fy Nghyfnod Creadigol – barddoniaeth wedi’i ysbrydoli gan y celfyddydau gwirfoddol

 

Rydym yn gwahodd beirdd, sy’n ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg, i fwrw golwg ar weithgareddau creadigol grŵp celfyddydau gwirfoddol, arwain gweithdy ar ysgrifennu barddoniaeth ac ysgrifennu cerdd am eu profiad. Rydym hefyd yn gwahodd grwpiau creadigol gwirfoddol i archwilio beth mae eu gweithgaredd creadigol yn ei olygu iddyn nhw trwy farddoniaeth. Bydd grwpiau yn ‘cynnal’ bardd ac yn rhannu eu gweithgareddau creadigol gyda’r bardd; cymryd rhan mewn gweithdy ar ysgrifennu barddoniaeth; ac ysgrifennu cerddi yn seiliedig ar eu profiad.

 

Cyd-destun

Thema’r prosiect ydy ‘Fy Nghyfnod Creadigol’ a’r nod ydy i amlygu pwysigrwydd cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol rheolaidd.

Byddwn yn paru wyth egin-feirdd a beirdd sydd wedi hen ennill eu plwyf, sy’n ysgrifennu yn y Gymraeg neu’r Saesneg, gydag wyth grŵp celfyddydau gwirfoddol ledled Cymru. Bydd y beirdd yn bwrw golwg ar weithgareddau’r grŵp – e.e. canu mewn côr, creu gemwaith – gan gymryd rhan yn y gweithgareddau ‘o bellter’ os yn bosib. Yna fe fydd y beirdd yn arwain gweithdy ar ysgrifennu barddoniaeth (eto, yn rhithiol, e.e. dros Zoom). Yna fe fydd yr holl feirdd a’r unigolion sy’n cymryd rhan yn mynd ati i lunio barddoniaeth yn ymwneud â’u profiadau ac fe gaiff y cerddi eu casglu a’u cyhoeddi mewn llyfryn dwyieithog.

Mae’r fenter newydd hon, sy’n seiliedig ar brosiect wedi’i ddatblygu gan Celfyddydau Gwirfoddol yr Alban, ar y cyd â Llyfrgell Barddoniaeth yr Alban, yn gyfle i’r unigolion fwrw golwg ar a mynegi’r amryw fuddion ynghlwm â chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol. Bydd hefyd yn gyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan i ddathlu gwaith grwpiau celfyddydau gwirfoddol a’u cysylltiad gyda mannau a chymunedau ledled Cymru.

Ein bwriad gwreiddiol oedd cynnal y prosiect wyneb yn wyneb ond oherwydd yr amgylchiadau rydym wedi ail-ddylunio’r prosiect i fedru ei gynnal yn rhithiol. Nid oes unrhyw ddisgwyliad i gynnal y prosiect wyneb yn wyneb felly. Yn hytrach, rydym yn rhagweld y bydd y prosiect yn bwrw golwg ar sut bu i weithgaredd creadigol gwirfoddol barhau yn ystod y cloi mawr.

 

Beth sydd Ar Gael

 

Ar gyfer Awduron:

Hoffem wahodd egin-feirdd a beirdd profiadol sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg neu’n ddwyieithog i geisio am gomisiwn i gyflawni’r canlynol:

  • bwrw golwg ar weithgareddau creadigol grŵp celfyddydau gwirfoddol (gan gymryd rhan lle’n bosib);
  • arwain gweithdy ar ysgrifennu barddoniaeth;
  • ysgrifennu cerdd am eu profiad, yn ymwneud â ‘Fy Nghyfnod Creadigol’.

Mae yna 8 comisiwn ar gael gwerth £500 yr un.

Mae modd i ysgrifenwyr geisio am un comisiwn yn unig, fodd bynnag mae croeso ichi gyflwyno datganiad o ddiddordeb yn unigol, mewn parau neu fel rhan o grŵp.

 

Ar gyfer Grwpiau:

Hoffem wahodd grwpiau creadigol gwirfoddol i wneud cais i ‘gynnal’ bardd, i gyflawni’r canlynol:

  • Cyflwyno eu gweithgareddau creadigol i’r bardd (gan eu gwahodd i gymryd rhan lle bo hynny’n bosibl);
  • Cymryd rhan mewn gweithdy ysgrifennu barddoniaeth dan arweiniad y bardd;
  • ysgrifennu cerdd am eu profiad, yn ymwneud â ‘Fy Nghyfnod Creadigol’.

I gydnabod cyfraniad y grwpiau sy’n cymryd rhan yn y prosiect, gallwn dalu ffi fach o £ 100 y grŵp.

 

Dyddiad cau ar gyfer datgan diddordeb

12.00 pm ar ddydd Gwener 11 Medi 2020

 

Sut i ymgeisio

 

Ar gyfer Awduron:

I geisio, cyflwynwch ddatganiad o ddiddordeb yn ymdrin â’ch profiad a diddordeb yn y prosiect (dim mwy nag un ochr A4), ynghyd ag enghreifftiau o waith blaenorol perthnasol a CV byr. E-bostiwch eich cais at info@vaw.org.uk

 

Ar gyfer Grwpiau:

I geisio, cyflwynwch ddatganiad o ddiddordeb gan ddarparu gwybodaeth am eich grŵp a’i weithgaredd creadigol; sut mae’ch grŵp yn cyfarfod / ymarfer ar hyn o bryd; a’ch diddordeb yn y prosiect (dim mwy nag un ochr i A4) i info@vaw.org.uk. Mae croeso i grwpiau wneud cais yn Saesneg neu Gymraeg.

 

Am drafodaeth anffurfiol am y prosiect, cysylltwch gyda Gareth Coles, Cyfarwyddwr Celfyddydau Gwirfoddol Cymru, ar gareth@vaw.org.uk neu ffoniwch 07833 580 313.