Galwad: Ar y Dibyn

Bydd Ar y Dibyn eleni yn cael ei gynnal eleni ar ffurf chwe gweithdy creadigol ar gyfer unigolion sy’n byw gyda dibyniaeth. Dyma’r bedwaredd rownd o weithdai ers sefydlu’r prosiect nôl yn 2019, fel rhan o Gynllun Llên er Lles Llenyddiaeth Cymru.
Bwriad y gweithdai yw annog creadigrwydd i brosesu ein profiadau o’r byd. Bydd pob gweithdy’n llawn tasgau chwareus a byr i brocio ein dychymyg ac i ryddhau syniadau. Fydd ’na ddim atebion anghywir, dim ond llond y lle o bosibiliadau.
Ein gweledigaeth yw creu man diogel i fynegi ein hunain yn rhydd, heb feirniadaeth a heb reidrwydd i ddatgelu dim am ein sefyllfa bersonol. Byddwn yn deall fod gan bawb ohonom brofiadau amrywiol o ddibyniaeth, a bydd y gwewyr sy’n deillio o hyn yn cael ei barchu a’i gadw mewn awyrgylch ddiogel.
Byddwn yn dechrau hel gwaith ysgrifenedig a’i ddatblygu o fewn y sesiynau, gyda chefnogaeth i’w wthio ymhellach yn ein hamser ein hunain. Ein gobaith yw datblygu gwaith o’r galon sy’n bwerus, yn ddewr ac yn uchelgeisiol, a darganfod ffyrdd o’i rannu’n ehangach, naill ai’n ddi-enw neu’n hawlio perchnogaeth drosto.
Mae ganddon ni i gyd stôr o straeon sydd ddim yn cael eu clywed yn aml, yn enwedig yn y Gymraeg. Mae’r gweithdai’n rhoi cyfle i ni fentro hefo’n gilydd mewn ysbryd o ddathlu’r posibiliadau sydd ganddon ni, nid rhwystrau dibyniaeth.
Mi fydd ’na chwerthin, sylwi ar bethau o’r newydd, a cholli deigryn neu ddau, ond hefyd dathlu ein bod ni’n dal yma ac yn gweld y gorau yn ein gilydd.
Yn ôl un o gyfranwyr y prosiect yn 2020:
“O’dd ofn yn dal ei afael mor dynn yndda i, a ’nes i ddim sôn wrth ’run dyn byw heblaw am fy ngŵr mod i’n mynd i’r gweithdai. Ofn, cywilydd, nerfusrwydd . . . ond erbyn y diwedd ro’n i’n edrych mlaen at ddod i’r sesiwn nesa. ’Nes i ddim deall bod bwriad gwneud sgript na ffilm na dim, doedd dim “end goal” gen i, o’n i just isio rhoi amser a gofod i fi fy hun wella, bod mewn ystafell efo pobol eraill oedd yr un fath â fi, pobol oedd yn deall, a chael y cyfle a’r gofod a’r caniatâd, mewn ffordd, i fod yn fi fy hun, yn fy iaith fi fy hun.”
Artistiaid/Arweinwyr
- Mae Iola Ynyr yn arbenigo mewn creu gwaith theatr a defnyddio’r celfyddydau fel arf i gynnal llesiant unigolion a chymunedau; mae hi’n alcoholig mewn adferiad.
- Mae Mirain Fflur yn actores, artist gweledol, gwneuthurwraig theatr a ffilm ac yn cefnogi unigolion mewn dibyniaeth.
Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol
- Bydd Wynford Ellis Owen ym mhob sesiwn ac ar gael i gynnig help, cefnogaeth, ac ôl-ofal fel bo angen. Bydd hanner awr ar ddiwedd pob sesiwn i drafod yn anffurfiol, ond nid oes unrhyw reidrwydd i fynychu’r rhain.
Galwad am Gyfranogwyr
- Cynhelir y gyfres gyntaf rhwng dydd Mawrth 6 Gorffennaf a dydd Mawrth 10 Awst 2021.
- Gallwn gynnig lle i 6 yn y gweithdai wyneb-yn-wyneb yn y Stafell Fyw adeilad Adferiad, Neville Street, Caerdydd CF11 6LS, neu mae modd cysylltu’n ddigidol dros Zoom.
- Cofrestrwch i ddangos diddordeb trwy ebostio Nia ar nia.skyrme@theatr.com a gallwn drefnu sgwrs anffurfiol unigol i chi gyda Iola i drafod unrhyw gwestiwn sydd gennych.
- Os oes gennych unrhyw ystyriaethau allai eich rhwystro rhag cyfranogi, cysylltwch er mwyn i ni geisio eu goresgyn. Rydyn ni’n awyddus i greu prosiect lle mae mynediad i bawb a ffyrdd o weithredu’n amrywiol er mwyn sicrhau cynhwysiant. Does yna ’run pryder sy’n rhy fach neu’n rhy fawr i’w drafod.
Galwad am Artistiaid
Rydyn ni’n chwilio am artistiaid aml-ffurf ar gelfyddyd i gyfrannu i Ar y Dibyn.
- Bydd hyfforddiant a mentora proffesiynol yn cael eu cynnig i’r artistiaid cyn dechrau’r gwaith, a bydd cefnogaeth gan gwnselydd/gweithiwr iechyd proffesiynol ar gael ym mhob gweithdy ar gyfer cyfranogwyr ac artistiaid.
- Bydd pedwar cyfres o weithdai, chwech wythnos yr un, yn cael eu cynnal mewn amryw o leoliadau ac yn ddigidol.
- Gall artistiaid fynegi diddordeb mewn cyfrannu’n achlysurol neu’n fwy cyson, yn y cyfnod rhwng Medi a Rhagfyr 2021
- Rydyn ni’n chwilio am artistiaid dewr ac eangfrydig sydd am weithio tuag at greu celfyddyd arbrofol a phryfoclyd.
- Cynigir ffi o £175 i gynnwys gweithdy 2 awr, ynghyd â gwaith paratoi gyda’r artist arweiniol.
Anfonwch eich CV mewn ebost at nia.skyrme@theatr.com neu fideo byr at 07903 842562 yn nodi pam yr hoffech chi ymuno â’r prosiect.
Dyddiad cau i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb: 24 Mehefin 2021.