Gruffudd Owen: trosglwyddo’r awenau i’r Bardd Plant Cymru newydd

Ym mis Mai 2019, datgelwyd o lwyfan Pafiliwn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro mai Gruffudd Owen yw Bardd Plant Cymru 2019-2021. Dwy flynedd ag un pandemig byd eang yn ddiweddarach, mae’n bryd croesawu Bardd Plant Cymru newydd i’r llyw. Cafwyd dwy flynedd o farddoni a diddanu yng nghwmni plant ar hyd a lled Cymru. Llwyddodd Gruff i roi gwên ar wynebau plant yr holl ffordd o’r Fenni, i Lanfyllin, a hyd at Langefni. Er gwaethaf heriau’r pandemig, dros ei gyfnod fel Bardd Plant Cymru, gwelwyd Gruff yn ymgymryd â phrosiectau lu a nifer o ymweliadau ysgolion rhithiol.
Hoffai Llenyddiaeth Cymru a’i phartneriaid ddiolch o galon i Gruff am ei waith diwyd dros y ddwy flynedd diwethaf, ac am ei ddyfalbarhad wrth barhau i ysbrydoli a thanio dychymyg plant a phobl ifanc Cymru yn ystod dwy flynedd heriol tu hwnt.
Uchafbwyntiau
Dathlu pen-blwydd y Bardd Plant Cymru yn 20
Rhwng 12-16 Hydref 2020, cynhaliwyd wythnos o ddigwyddiadau i ddathlu pen-blwydd cynllun Bardd Plant Cymru yn 20 oed. Roedd yr wythnos ddathlu yn cynnwys gweithdai barddoniaeth digidol am ddim ar gyfer gwahanol oedrannau, gan gynnwys ar gyfer dysgwyr Cymraeg; a chystadleuaeth i ysgolion ennill gwobrau.
Un o uchafbwyntiau’r wythnos oedd rhyddhau’r gerdd fideo ‘Bardd Plant Cymru yn 20 oed’ ar raglen Heno ar S4C nos Lun 12 Hydref. Cyfansoddodd Gruffudd Owen y gerdd yn arbennig ar gyfer yr achlysur ac mae’n crynhoi cyffro a phwysigrwydd y cynllun. Mae’r fideo, sy’n disgrifio’r rôl fel ‘Doctor Who barddol’, hefyd yn cynnwys ymddangosiad gan bob un o’r cyn-feirdd plant – o Myrddin ap Dafydd i Casia Wiliam. Mae modd mwynhau’r fideo yma.
Talwrn yr Ifanc
Dros tymor yr Hydref 2020, cafwyd cyfle i dimoedd o feirdd ifanc rhwng 14 a 25 oed i gofrestru ar gyfer cystadleuaeth newydd Talwrn yr Ifanc.
Cynhaliwyd Talwrn yr Ifanc, partneriaeth rhwng Urdd Gobaith Cymru, BBC Radio Cymru, a Llenyddiaeth Cymru, yn Hydref 2020. Cafwyd cyfle i feirdd ifanc ar draws Cymru i greu timoedd er mwyn cystadlu mewn cyfres o dasgau arbennig wedi’i gosod gan y Meuryn a Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.
Cofrestrwyd 13 tîm, ac wedi iddynt dderbyn sesiynau mentora gan Feirdd ifanc Cymru, aethant ati i ymateb i’w tasgau. Gellir gwrando ar y gyfres yma. Mae Gruff yn edrych ymlaen i barhau â’i ddyletswyddau fel maeryn yn ail gyfres Talwrn yr Ifanc, a fydd yn cael ei chynnal rhwng nawr a’r Nadolig.
Prosiect #AwrDdaear WWF
Cafodd tair wal ar adeiladau mewn tair tref ar draws Cymru eu gweddnewid fel rhan o brosiect barddoniaeth a chelf stryd, ar y cyd rhwng plant ysgolion lleol, WWF Cymru a Llenyddiaeth Cymru i nodi Awr Ddaear, a gynhaliwyd am 8.30 pm, ddydd Sadwrn 27 Mawrth.
Gweithiodd Llenyddiaeth Cymru a’r elusen amgylcheddol, WWF Cymru, gyda disgyblion blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Dewi Sant, Y Rhyl; Ysgol Gynradd Aberteifi ac Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Treorci i ysgrifennu ‘r cerddi mewn gweithdai barddoniaeth wedi eu hwyluso gan Fardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.
Mae’r dair cerdd yn unigryw, yn adlewyrchu’r ardaloedd lleol a dymuniadau’r plant ar gyfer dyfodol natur Cymru ac yn mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae’r murluniau’n cynnwys darluniau trawiadol o fyd natur megis gwylanod, blodau gwyllt, gwenyn, dwrgi, crëyr adraig hyd yn oed.
Cystadleuaeth Farddoniaeth Ewro 2021-23
I ddathlu fod ein tîm pêl-droed cenedlaethol wedi cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2020, daeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru ynghyd i lansio Cystadleuaeth Farddoniaeth ecsgliwsif Cymru Ewro 2020 yn ôl ym mis Ebrill 2021. Roedd y gystadleuaeth yn gwahodd plant Cymru i gyflwyno cerddi ar y thema hunaniaeth, am y cyfle i ennill llu o wobrau gwych. Daeth 495 o geisiadau i law, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi mai’r ddwy fardd buddugol yw Nansi Bennett a Martha Appleby. Cyhoeddwyd y newyddion ar Raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yn ystod y bore.
Roedd dau o bêl-droedwyr rhyngwladol Cymru, Ben Davies a Rhys Norrington-Davies, ar y panel beirniadu, ynghyd â’r Bardd Plant Cymru Gruffudd Owen, Eloise Williams (Children’s Laureate Wales), a’r gantores-gyfansoddwr Kizzy Crawford.
Bardd Plant Cymru 2021-23
Mae Bardd Plant Cymru yn rôl lysgenhadol genedlaethol gaiff ei dyfarnu i fardd Cymraeg bob dwy flynedd i danio dychymyg ac ysbrydoli plant Cymru drwy farddoniaeth. Maent yn datblygu i fod yn bencampwyr sy’n eirioli dros hawliau plant a phobl ifanc, ac yn eu cefnogi i ymateb yn greadigol i faterion cymdeithasol sy’n bwysig iddynt, megis yr argyfwng hinsawdd a iechyd meddwl. Sefydlwyd y prosiect yn y flwyddyn 2000, ac ers hynny mae 16 bardd wedi ymgymryd â’r rôl. Drwy weithdai a gweithgareddau amrywiol, mae’r Bardd Plant yn defnyddio llenyddiaeth er mwyn annog creadigrwydd a meithrin hunanhyder a sgiliau cyfathrebu ymysg plant Cymru.
Heddiw, ddydd Iau 7 Hydref 2021, ar Ddiwrnod Barddonaieth, cyhoeddwyd mai‘r gantores, cyfansoddwraig a’r awdur o ardal Bangor sydd wedi ei phenodi fel Bardd Plant Cymru 2021-23.
Bydd modd cadw llygad ar weithgareddau amrywiol Casi fel Bardd Plant Cymru draw ar Twitter @BarddPlant ac ar wefan llenyddiaethcymru.org
Cerdd Gyfarch Casi Wyn
Mae Gruffudd Owen wedi llunio ei gerdd olaf fel Bardd Plant Cymru, a hynny i gyfarch Casi i’w rôl newydd:
Mae bardd plant Cymru rom bach fel James Bond,
ac fel fynta, fedra ninna ddim sefyll yn stond.
Mae’n beth llesol ail-gastio pob hyn a hyn
ac felly rhown groeso twymgalon i Casi Wyn!
Llongyfarchiadau Casi am fod y nesa’n y tsiaen!
Dyma air bach o gyngor gan y Bardd Plant ddaeth o’th flaen:
Bydd yn barod i grio, Bydd yn barod i chwerthin,
bydd yn barod i ddysgu am bob math o gynefin.
Mae pob dosbarth yng Nghymru yn byllau di-waelod
o hiwmor a haearn a bombast a swildod.
Paid a bod ofn troi’r byd ar ei ben.
Teimla’r cyffro sy’n disgleirio o bob ddalen wen.
Mae un syniad da yn werth pob deng mil syniad ciami.
Tynna goesau’r athrawon nes bod y craduriaid yn cochi!
Bydd yn wirion a thirion a chroyw a chlen
(hyd yn oed efo’r tacla sy’n deud bo’ chdi’n hen!)
Cadwa amball i dric yng ngwaelodion dy sach.
Cofia holi cyn cychwyn ymhle mae’r tŷ bach!
Trïa dwrio dan yr wyneb, a bydd yn garedig,
a hynny i chdi dy hun yn enwedig.
Rwyt ti’n wych! Rwyt ti’n giamstar! Felly cofia – ymlacia!
(Ond ti’n bownd o fynd ar goll; felly plîs, gwgyl mapia.)
Paid a phoeni gormod am rwtsh fel sillafu.
Job yr athrawon ydi poeni am hynny!
Ond cofia drin bob gair fel rhywbeth gwerth ei anwylo
A llunia dy gerddi i fod yn arfau’n mewn dwylo.
A chofia ti’m yn athro na’n wleidydd, na’n sant;
ti’n gymaint mwy na hynny, Casi. Chdi di’r Bardd Plant.
Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru 2019-2021