Dewislen
English
Cysylltwch

Grymuso plant a phobl ifanc Cymru trwy farddoniaeth

Cyhoeddwyd Llu 21 Maw 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Grymuso plant a phobl ifanc Cymru trwy farddoniaeth
O heddiw, Dydd Llun Mawrth 21, bydd yn anghyfreithlon cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru wrth i Lywodraeth Cymru barhau i roi lle canolog i hawliau plant yn ei pholisïau.

Mae Cymru yn ymuno â mwy na 60 o genhedloedd y byd i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol. Mae’r ddeddfwriaeth hon, sy’n gryn garreg filltir, yn cael gwared â’r amddiffyniad cyfreithiol hynafol 160 oed ac yn amddiffyn plant rhag ymosodiadau yn yr un modd ag oedolion.

O dan Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020, mae pob math o gosbi corfforol, fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd, yn anghyfreithlon. Bydd y gyfraith newydd yn berthnasol i bawb yng Nghymru, gan gynnwys ymwelwyr, o 21 Mawrth 2022.

Er mwyn nodi’r newid hanesyddol hwn i blant a’u hawliau yng Nghymru, comisiynwyd Bardd Plant Cymru, Casi Wyn, a Children’s Laureate Wales, Connor Allen, i lunio cerddi ar gyfer yr achos. Bwriad y cerddi yw dathlu hawliau plant, a hynny ar Ddiwrnod Barddoniaeth Rhyngwladol UNESCO.

Nod y cynlluniau Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales yw ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru trwy lenyddiaeth. Mae’r beirdd wedi ymrwymo i rymuso plant a phobl ifanc drwy greadigrwydd, ac eirioli dros eu lleisiau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mewn digwyddiad i blant bach yn Techniquest, croesawodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, y Ddeddf, gan ddweud:

“Mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol i blant a’u hawliau yng Nghymru wrth inni roi’r arfer o gosbi plant yn gorfforol y tu ôl inni. Dw i wedi ymgyrchu i’w gwneud yn anghyfreithlon cosbi plant yn gorfforol ers dros 20 mlynedd. Dw i wrth fy modd y bydd plant, o’r diwedd, o heddiw ymlaen, yn cael eu hamddiffyn rhag ymosodiadau yn yr un modd ag oedolion.

Mae’r gyfraith yn glir bellach – ac yn haws i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ei deall. Mae cosbi corfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru ac alla i ddim dweud wrthoch chi mor hapus mae hynny’n fy ngwneud i.

Rydyn ni eisiau diogelu plant a’u hawliau, a bydd y gyfraith hon yn ychwanegu at y gwaith rhagorol rydyn ni’n ei wneud i ofalu bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, ac yn cael byw’r bywydau y maen nhw am ei fyw.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

“Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i blant a hawliau plant – o’r diwedd mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Mae gan blant yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag niwed a rhag cael eu brifo. Mae hyn bellach wedi’i ymgorffori yng nghyfraith Cymru. Nid oes mwy o feysydd amwys ac ni fydd amddiffyniad o gosb ‘resymol’ mwyach.

O heddiw ymlaen, does dim lle i gosbi corfforol yn y Gymru fodern.”

Caiff cynllun Children’s Laureate Wales ei redeg gan Llenyddiaeth Cymu, a caiff cynllun Bardd Plant Cymru ei reoli gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

Er mwyn dysgu mwy am y cynlluniau, ewch i’n hadran brosiectau yma.