Gwahoddiad am Fynegiadau o Ddiddordeb i Gynhyrchu Fideo

Cefndir:
Lansiwyd ein rhaglen datblygu awduron, Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw ym mis Ebrill 2021. Mae’r rhaglen yn gam pwysig yn ymdrechion Llenyddiaeth Cymru i weddnewid diwylliant llenyddol y wlad trwy fynd i’r afael a rhwystrau hanesyddol a phresennol yn y sector.
Nod hirdymor y cynllun yw creu diwylliant sy’n gwbl gynrychioladol o gymunedau amrywiol Cymru, a sicrhau bod gan Gymru wastad ei chyflenwad o unigolion talentog a fydd yn cael eu cydnabod ledled y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt. Ail-lansiwyd y cynllun yn hydref 2021 gyda ffocws ar awduron o gefndiroedd incwm isel. Bydd yr awduron a gaiff eu dethol i fod yn rhan o’r ail rownd yn dechrau’r rhaglen ym mis Ebrill 2022. Mi fydd rownd gyntaf y rhaglen yn dod i ben ym mis Mawrth 2022, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r awduron wedi elwa o gymorth ariannol a mentora, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio a mynychu dosbarthiadau meistr yng ngofal comisiynwyr ac awduron profiadol.
Caiff y cynllun ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth. Caiff ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun yma.
Gofynion:
Rydym yn chwilio am unigolyn neu gwmni i ddod i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy yn ystod cwrs ysgrifennu penwythnos wedi ei drefnu fel rhan o’r rhaglen er mwyn darparu gwasanaeth cynhyrchu fideo a ffotograffiaeth.
Nod y fideo bydd dathlu’r effaith gadarnhaol mae rhaglen Cynrychioli Cymru wedi ei gael ar yr awduron yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Bydd disgwyl i chi lunio cynnwys, ffilmio, sain, golygu, graffeg symudol ac isdeitlau (darperir y testun a’r cyfieithiad gan Llenyddiaeth Cymru).
Briff fideo:
Rydym yn gofyn am un fideo, heb fod dros 4 munud o hyd, gydag isdeitlau Cymraeg a Saesneg lle’n berthnasol.
Noder: mi fydd y mwyafrif o’r awduron yn mynegi eu hunain yn Saesneg gydag ambell i un yn siarad drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd angen i’r fideo gynnwys cyfweliadau grŵp anffurfiol gyda’r awduron lle maent yn trafod eu profiadau ac eu datblygiad creadigol a phroffesiynol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Bydd hefyd angen ffilmio rhai o’r awduron yn darllen peth o’u gwaith creadigol a chynnwys tameidiau o’r cynnwys creadigol hwn drwy gydol y fideo. Os yn bosib, hoffem graffeg symudol i gyd-fynd â’r gwaith maent yn ei ddarllen.
Dylai orffen gyda sleidiau yn cynnwys gwybodaeth am y prosiect a logo Llenyddiaeth Cymru a logo ein arianwyr.
Briff Ffotograffiaeth:
Rydym yn gofyn i chi fod yn bresennol am ran o weithdy ysgrifennu creadigol wedi ei drefnu fel rhan o’r rhaglen er mwyn cymryd lluniau o’r awduron yn ysgrifennu, creu a thrafod.
Ffi:
Ar gyfer y gwaith amlinellir yma, rydym yn cynnig ffi o £2,000 sydd yn cynnwys cyfraniad tuag at treuliau teithio. Noder os gwelwch yn dda fod TAW yn gynwysedig yn y ffi.
Amserlen:
Dyddiad cau ar gyfer Mynegiadau o ddiddordeb: 2 Mawrth
Cyfarfod gyda Llenyddiaeth Cymru i drafod cynnwys: 7 Mawrth
Ffilmio yn Nhŷ Newydd: 19 Mawrth
Golygu a chynhyrchu: 19 Mawrth– 18 Ebrill
Cyflwyno drafft 1af: 18 Ebrill
Llenyddiaeth Cymru i roi adborth a sylwadau: 22 Ebrill
Isdeitlo: 2 Mai – 6 Mai
Cyflwyno’r darnau gorffenedig i Llenyddiaeth Cymru: 6 Mai
Mynegi Diddordeb:
Cysylltwch â gwasg@llenyddiaethcymru.org i fynegi eich diddordeb erbyn dydd Mercher 2 Mawrth 2022. Os gwelwch yn dda darperwch esiamplau o’ch gwaith yn eich mynegiant.