Dewislen
English
Cysylltwch

Gwahoddiad i dendro: Hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg

Cyhoeddwyd Iau 16 Chw 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Dyddiad cau am ddatganiadau o ddiddordeb:
5.00 pm ddydd Gwener, 10 Mawrth 2023

Mae Llenyddiaeth Cymru yn awyddus i gomisiynu unigolyn neu gwmni i ddatblygu a chynnal sesiwn hyfforddi ddifyr fydd yn codi ymwybyddiaeth ac ehangu dealltwriaeth o’r Gymraeg.

Pwrpas yr hyfforddiant fydd i addysgu aelodau staff Cymraeg eu hiaith, a di-Gymraeg (neu ddysgwyr), ymddiriedolwyr ac unigolion sy’n gweithio’n agos â Llenyddiaeth Cymru (e.e. awduron, trefnwyr digwyddiadau cymunedol, cyfranogwyr) am hanes, deddfwriaeth, a chyd-destun ieithyddol y Gymraeg yn genedlaethol a rhyngwladol, a sut i feithrin diwylliant agored a pharchus tuag at yr iaith.

Mae’r ddogfen sydd ar gael i’w islwytho isod yn manylu ar yr hyn fydd angen ei gynnwys yn yr hyfforddiant, gwybodaeth ymarferol, yn ogystal â gwybodaeth am sut i ymgeisio.

Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol ag aelod o staff Llenyddiaeth Cymru cyn gyrru eich datganiad o ddiddordeb, cysylltwch â post@llenyddiaethcymru.org / 017 6652 2811 (Tŷ Newydd) neu 029 2047 2266 (Caerdydd).

 

Gwahoddiad i Dendro - Dogfennau

Gwahoddiad i Dendro - Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o'r Iaith Gymraeg
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 54KB
Invitation to Tender - Welsh Language Awareness Training
Iaith: EnglishMath o Ffeil: WordMaint: 52KB