Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobr Llyfr y Flwyddyn – Sgwrs gyda’n Noddwyr

Cyhoeddwyd Gwe 20 Meh 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gwobr Llyfr y Flwyddyn – Sgwrs gyda’n Noddwyr

Rydym yn hynod o falch mai Prif Noddwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn, am yr ail Flwyddyn yn olynol, yw Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth (ENCAP) ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd. Mae eu nawdd yn cynnig cymorth hanfodol i’r Wobr. Mae’n cryfhau ei heffaith, yn codi proffil yr awduron sydd ar y rhestr fer a’r enillwyr, ac yn ein cynorthwyo i gyflwyno rhai o lenorion rhagorol Cymru i fyfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau israddedig a ôl-raddedig. Yn ddiweddar cawsom gyfle i gyfweld yr Athro Mark Llewellyn, Pennaeth Adran ENCAP, i ddysgu mwy am ei ddiddordeb yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn.

Beth wnaeth ennyn diddordeb ENCAP ac Ysgol y Gymraeg yn Llyfr y Flwyddyn, a’ch sbarduno i gefnogi?

“Mae’r cysylltiadau rhwng ENCAP ac Ysgol Y Gymraeg â Llenyddiaeth Cymru yn ymestyn dros flynyddoedd lawer: mae awduron creadigol ac academyddion o’r ddwy ysgol wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, wedi dod i’r brig, ac wedi gwasanaethu fel beirniaid ar draws y gwobrau. Yng nghyd-destun ENCAP, mae un o fy rhagflaenwyr fel Pennaeth yr Ysgol yn gyn-Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru, felly mae cysylltiad da wedi bod ar lefelau unigol ers tro. Yr hyn sydd wedi bod mor wych am ffurfioli’r bartneriaeth hon a’i gwneud yn un mwy strategol trwy noddi Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2024 a 2025, yw ein bod ni’n gallu meddwl yn fwy creadigol a dychmygus am yr hyn y mae’r bartneriaeth yn ei olygu y tu hwnt i’r gwobrau. I mi yn bersonol, mae hynny’n cyffwrdd ar agweddau gwahanol megis addysgu, ymchwil ac ymgysylltu, ac yn cynnig cyfle gwirioneddol i ni gydweithio ar lefel sefydliadol.”

Sut mae eich myfyrwyr yn elwa o gefnogaeth y Brifysgol i Wobr Llyfr y Flwyddyn?

“Mae myfyrwyr Ysgrifennu Creadigol wedi elwa o ddosbarthiadau meistr, wedi cael y cyfle i gwrdd ag awduron sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ac wedi ennill gwobrau, ac wedi cael cipolwg go iawn ar dirwedd ysgrifennu a chyhoeddi Cymru. Mae hefyd wedi bod yn wych i’r myfyrwyr gael eu cyflwyno i Llenyddiaeth Cymru fel sefydliad a deall mwy am y mathau o yrfaoedd sydd ar gael iddynt ar ôl graddio. Yn ENCAP mae wedi bod yn hyfryd cael rhywfaint o amser i feddwl gyda chydweithwyr yn Llenyddiaeth Cymru wrth ddatblygu modiwl newydd ar gyfer Blwyddyn 3 israddedig ar wobrau llenyddol (‘A’r enillydd yw …’): bydd myfyrwyr ar y modiwl yn gwasanaethu fel panel gwobrwyo, a bydd cael cipolwg gan staff Llenyddiaeth Cymru ar sut mae gwobr yn cael ei rhedeg yn cynnig cyfleoedd anhygoel i feddwl am ymarferoldeb barn lenyddol yn y maes cyhoeddus, neu feirniadaeth y tu hwnt i’r academi.”

Pa gyfleoedd eraill sydd gan eich myfyrwyr i ddysgu am lenyddiaeth o Gymru?

“Yn Ysgol y Gymraeg ac ENCAP, mae myfyrwyr yn cael cynnig cynnwys craidd a dewisol ar draddodiadau llenyddol Cymru yn ogystal â deinameg fwy cyfoes y sîn lenyddol Gymreig, a hynny o astudiaethau israddedig i lefel PhD. Mae hyn yn amrywio ar draws modiwlau ar ysgrifennu Cymreig yn Saesneg hyd at y syniad o lenyddiaeth Apocalyptaidd Gymreig. Mae’r rhychwant o leisiau cyfoes sy’n gysylltiedig â Chymru neu’n ymwneud â phryderon Cymreig yng nghyd-destunau byd-eang yn fywiog a llewyrchus, a gall Llenyddiaeth Cymru a’r gwobrau helpu darllenwyr a myfyrwyr i ddarganfod rhai o’r gweithiau mwyaf cymhellol sy’n cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd.”

Sut ydych chi’n gweld y berthynas â Llenyddiaeth Cymru yn esblygu?

“Mae’n debyg y bydd Ysgol y Gymraeg ac ENCAP yn dod yn rhan o Ysgol newydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2026 – Ysgol y Dyniaethau Byd-eang – a bydd partneriaethau gydag asiantaethau a rhanddeiliaid allweddol yn hanfodol wrth wasanaethu’n myfyrwyr. Bydd ymgysylltu â Chymru a’i lle yn y byd yn llinyn gwirioneddol nodedig yn ein gweithgaredd fel grŵp o ddisgyblaethau, ac rwy’n credu y gall sefydliadau fel Llenyddiaeth Cymru – sy’n cynrychioli, yn adlewyrchu, yn eiriol dros dalent, themâu a diddordebau Cymru – yn ein helpu i feddwl yn wahanol am sut y gall modelau prifysgol ddysgu dulliau newydd o ymdrin â heriau tebyg.”

Oes unrhyw uchafbwyntiau penodol ar restr fer eleni i chi?

“Wel, wrth i mi gynllunio’r testunau ar gyfer fy modiwl ‘A’r enillydd yw …’ ar gyfer y semester nesaf, digwyddais gael sgwrs gyda Claire, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru ychydig fisoedd yn ôl cyn cyhoeddi unrhyw restr fer. Gan fod yn rhaid i’r testunau ar y modiwl fod yn hyd nofel fer, fe’m cyfeiriodd at Clear gan Carys Davies ac rwyf mor falch ei bod hi wedi gwneud hynny. Rwyf wedi’i argymell i sawl person, ac roeddwn wrth fy modd yn ei gweld ar y rhestr fer – mae eisoes ar restr ddarllen y modiwl, felly bydd 60+ o fyfyrwyr yn yr hydref eleni yn penderfynu a ddylai ennill ar y modiwl.”

 

Pa un o’r cyfrolau ar y Rhestr Fer yr hoffech chi ei gweld yn cael ei henwi yn Llyfr y Flwyddyn 2025? Cofiwch bleidleisio dros eich ffefryn o blith y Rhestr Gymraeg ar wefan Golwg360, a’r rhestr Saesneg ar wefan Nation.Cymru.

Caiff enillwyr gwobrau Barn y Bobl a’r People’s Choice eu cyhoeddi ochr yn ochr â dewisiadau’r beirniaid yn ein seremoni Wobrwyo yn Theatr y Sherman, Caerdydd nos Iau 17 Gorffennaf. Os hoffech chi ymuno â ni ar gyfer y dathliad hwn, gallwch brynu tocyn o’r siop ar wefan Llenyddiaeth Cymru.