Dewislen
English
Cysylltwch

Gŵyl Cymru Gogledd America: Lansio Cystadleuaeth Cerdd o Gymru

Cyhoeddwyd Iau 13 Ion 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gŵyl Cymru Gogledd America: Lansio Cystadleuaeth Cerdd o Gymru
Bydd trefnwyr blynyddol Gŵyl Cymru Gogledd America, Cymdeithas Cymry Gogledd America, yn gweithio mewn partneriaeth â Undeb Cymru a’r Byd eto eleni i gynnal cystadlaethau ieuenctid ar-lein adeg Dydd Gŵyl Dewi.

Datblygwyd y gystadleuaeth wreiddiol, Cân o Gymru, o ganlyniad i’r pandemig a’r angen am gynnwys digidol. Mae’r ddau sefydliad yn gweld budd o barhau â’r cystadlaethau ar-lein er mwyn medru cysylltu ieuenctid o Gymru gyda’r aelodau ar draws y byd.
Eleni,  mae’r trefnwyr yn ehangu’r categorïau, yn ogystal a’r gwobrau. Yn ogystal a chynnal dwy gystadleuaeth lleisiol ieuenctid yng Nghymraeg ac yn Saesneg, mae’r sefydliadau yn cynnig cystadleuaeth cyfansoddi newydd, Cerdd o Gymru.
Hunaniaeth yw’r thema, ac mae categorïau yn y Gymraeg ac yn y Saesneg. Mae’r gystadleuaeth ar agor i awduron rhwng 11-17 oed, a gall cerdd fod yn hyd at 25 llinell.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o fod yn cefnogi’r gystadleuaeth, a bydd Bardd Plant Cymru, Casi Wyn, a’r Children’s Laureate Wales, Connor Allen, yn beirniadu.

Bydd y cerddi buddugol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Gŵyl Cymru Gogledd America; yn Ninnau, papur newydd Cymreig Gogledd Cymru; ac yn Yr Enfys, cylchgrawn Cymru Rhyngwladol. Bydd modd anfon cerddi ar yr 11 Chwefror pan fydd y ceisiadau’n agor am gyfnod o 24 awr – gellir darllen y manylion llawn yn fan hyn. Ar y 1 Mawrth, i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi.