Dewislen
English
Cysylltwch

Her 24 x 24 Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru

Cyhoeddwyd Iau 1 Hyd 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Her 24 x 24 Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru
Heddiw, ar ddydd Iau 1 Hydref 2020, mae Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth drwy gynnal Her 24 x 24.

Bob blwyddyn ers 2012 ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth mae Llenyddiaeth Cymru wedi herio pedwar bardd i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr. Eleni, pleser yw cydweithio â’r Stamp i gynnal rhywbeth ychydig yn wahanol. Dan arweiniad medrus golygyddion Y Stamp, mae Her 24 x 24 yn dwyn ynghyd 24 artist am 24 awr.

Mae’r artistiaid yn ffurfio cadwyn greadigol, gan ddechrau am hanner dydd ar 1 Hydref ac yn gorffen am hanner dydd ar yr 2 Hydref. Mae gan bob artist awr yr un i ymateb i waith yr artist blaenorol mewn unrhyw fodd creadigol, a bydd y gwaith gorffenedig yn cael ei rannu ar wefan Y Stamp. Bydd Y Stamp hefyd yn rhoi cip tu ôl i’r llenni i’r broses greu, ac yn rhannu cynnwys ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol:

Twitter: @ystampus

Facebook: Y Stamp

Instagram: cylchgrawn_y_stamp

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, sydd yn cynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol.

Yn dilyn galwad agored llwyddiannus, dewiswyd amrywiaeth o unigolion creadigol i fod yn rhan o’r her:

Beth Celyn

Cantores-gyfansoddwraig a bardd yw Beth Celyn. Mae hi’n un o dderbynyddion Cynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru 2020 ar gyfer awduron newydd a’n mwynhau creu cerddoriaeth, perfformio a chadw llyfrau creadigol llawn cerddi, myfyrdodau a darluniau. 

Dafydd Reeves

Mae Dafydd Reeves yn ysgrifennu rhyddiaith, barddoniaeth a thraethodau ac yn cyfansoddi ei ganeuon ei hun yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n byw ger Aberhonddu lle cafodd ei eni a’i fagu.

Dylan Huw

Mae Dylan Huw yn sgwennwr ac yn weithiwr celfyddydol sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae’n dathlu ac yn meithrin gwaith celfyddydol newydd amlddisgyblaethol yng Nghymru, yn ei waith ar gyfer National Theatre Wales a Peak Cymru ac mewn adolygiadau ac ysgrifau i Barn, Planet, O’r Pedwar Gwynt. 

Eady Crawford

Mae Eädyth yn brysur ddod yn enw adnabyddus i wrandawyr BBC Cymru a BBC Radio Cymru oherwydd ei sain electro soul unigryw a’i thelynegiaeth ddwyieithog. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Eädyth wedi bod yn rhan o gynlluniau datblygu talent BBC Horizons a Forté Project. 

Elan Elidyr

Mae Elan Elidyr yn ddawnswraig proffesiynol yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio ar draws Cymru, a gobeithio yn Ewrop unwaith y bydd hi’n saff i wneud hynny eto.

Elen Hughes

Athrawes yn Ysgol Dyffryn Nantlle yw Elen Hughes. Mae hi’n rhedeg cwmni celf bychan dan y teitl Ffranc, yn ogystal â ffarmio a thrin cŵn defaid yn ei hamser sbâr.

Esyllt Lewis

Artist, golygydd a chyfieithydd yw Esyllt Lewis sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar ei liwt ei hun ar brosiectau creadigol amrywiol. Mae’n olygydd cylchgrawn celfyddydol Y Stamp, cyhoeddiad annibynnol sy’n annog creadigrwydd o bob math ymysg y cyhoedd.

Ffion Morgan

Mae Ffion Morgan yn fardd o Aberteifi sy’n mwynhau ysgrifennu cerddi rhydd.

Ffion Pritchard

Artist amlgyfryngol yn byw a gweithio yng Ngogledd Cymru yw Ffion Pritchard. Mae gwaith Ffion wedi’i angori yn y gymuned a mae hi’n angerddol am rôl celf o fewn cymdeithas.

Gareth Evans-Jones

Awdur, dramodydd a darlithydd Astudiaethau Crefyddol o Ynys Môn ydi Gareth. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Eira Llwyd, yn 2018 ac mae ei ddrama ddiweddaraf, Adar Papur, ar gael i’w gwylio’n ddigidol.

Gwenllian Spink

Artist o Gymru yw Gwenllian Spink, ac mae ei gwaith diweddaraf wedi’i wreiddio yn y tirlun Cymreig, boed hynny yn gerfluniau safle-benodol neu yn waith sydd wedi’u llywio gan hanes y tirlun. 

Gwenno Llwyd Till

Artist 19 oed o Gricieth, Gogledd Cymru yw Gwenno, sydd ar fin mynd i astudio ffilm yn Llundain fis nesa’. Mae hi’n gweithio gyda ffotograffiaeth a ffilm gan amlaf ac yn mwynhau tynnu hunan bortreadau, lluniau o bobl a thirweddau.

Iestyn Tyne

Llenor, cerddor ac artist o Ben Llŷn yn wreiddiol yw Iestyn Tyne sy’n enillydd Coron [2016] a Chadair [2019] yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Cyhoeddwyd ei drydydd casgliad o gerddi, pamffled dan y teitl Cywilydd, yn 2019. Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon.

John G Rowlands

“Hen…Haniaethydd…Haijin”

Laura Connelly

Mae Lauren Connelly wedi dechrau ei blwyddyn gyntaf yn astudio BA Actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama. Mae hi’n caru bod yn greadigol ac eisiau actio, ysgrifennu a chyfarwyddo ar ôl gorffen yn y coleg.

Melissa Rodrigues

Mae Melissa Rodrigues yn artist celfyddyd gain o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd yn gweithio gyda syniadau yn ymwneud â symudiad pobl a chymunedau gwasgaredig ar draws y byd.

Osian Meilir

Artist Dawns o Geredigion yw Osian Meilir sydd bellach yn gweithio fel perfformiwr a coreograffydd llawrydd. Mae ganddo ddiddordeb mawr yn archwilio hunaniaeth a diwylliant yn ei waith creadigol.

Rhiannon M Williams

Mae Rhiannon yn ddarlithydd theatr a drama ym Mhrifysgol De Cymru, yn ymarferydd theatr ac yn Fam i ddwy o ferched ifanc.  Mae ei hymchwil a’i gwaith ymarferol yn aml yn edrych ar berfformio diwylliant Cymraeg, yn enwedig yn nhraddodiad y capel – ac yn fwy diweddar ar hunaniaeth y fenyw o fewn y gymdeithas honno.

Rhys Aneurin

Mae Rhys Aneurin yn artist a cherddor o Fôn sydd yn yn byw yng Nghaerdydd. Trwy ddogfennu a dad-elfennu darluniau trefol dydd-i-ddydd y brifddinas, mae ei waith yn cwestiynnu sut y mae wyneb newidiol Caerdydd – a’r gwrthdaro cyson rhwng hunaniaeth ac economi sy’n dod ynghyd â hynny – yn effeithio’r teimlad o berthyn i ddinas sydd bellach yn cael ei alw’n adref.

Rufus Mufasa

Mae Rufus Mufasa yn artist cyfranogol arloesol, actifydd llenyddol, bardd, rapiwr, cantores-gyfansoddwraig, crewr theatr, ac yn Fam i Molly ac Alice. Mae Rufus hefyd yn gweithio’n rhyngwladol, ac wedi bod yn breswylydd llenyddol yng Ngŵyl y Gelli, yn ogystal ag yn Sweden, Y Ffindir, Indonesia a Zimbabwe, ond mae hi bob tro’n dychwelyd i People Speak Up yn Llanelli.

Ruth Lloyd Owen

Mae Ruth Lloyd Owen yn wraig, yn fam ac yn gerddor sy’n hoffi cadw’n brysur , a cheisio codi gwên.

Sara Wheeler

Mae gan Sara Syndrom Waardenburg math 1, sef cyflwr genetig prin sy’n effeithio ar ymddangosiad corfforol a’r clyw. Mae Sara wrthi’n archwilio ei phrofiadau corfforedig, a’r goblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol a meddygol, trwy nifer o gyfryngau ysgolhaig a chreadigol, gan gynnwys barddoniaeth a gwaith celf. 

Sioned Medi Evans

Yn wreiddiol o Ben Llŷn, mae Sioned bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Hoffai greu gwaith sydd yn cyfleu neges arbennig, ysbrydoledig, ac hefyd darnau sydd yn ysgogi positifrwydd a theimladau calonogol.

Steffan Dafydd

Steffan Dafydd sydd tu ôl i waith Penglog, a ddechreuodd fel platform personol i gyhoeddi gludluniau, gwaith screenprintio, darluniadau, dylunio a chydweithrediadau gyda artistiaid eraill.

Tess Wood

Mae Tess Wood yn ceisio mynegi a chynyddu ei dealltwriaeth o ryngweithiad dynol a rheoli cymdeithasol drwy gyflwyno perfformiadau i’w chynulleidfa gyda’r gobaith o roi’r cyfle iddynt brofi a myfyrio ar eu teimladau am bynciau fel rhyw, rhywioldeb, pŵer a’r adegau o ofn, cariad, angerdd a rhwystredigaeth sydd yn trigo o’r rhain yn y gymdeithas gyfoes.