Just So You Know: Essays of Experience – Lansio Arlein

Bydd y digwyddiad ar gael i’w wylio ar alw ar wefan Parthian wedi’r dyddiad uchod. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cipolwg unigryw o’r prosiect cyffrous, darlleniadau gan gyfranwyr, a sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r golygyddion Hanan Issa, Durre Shahwar ac Özgür Uyanık. Mae’r tocynnau am ddim ac ar gael nawr yma drwy Eventbrite.
Fe archwilia Just So You Know bynciau unigryw a chyfareddol o arae helaeth o safbwyntiau difyr fel hunaniaeth, dilead treftadaeth, iaith a diwylliant, y profiad o fewnfudo, yn ogystal â’r syniad dyrys o’r ‘arall’ gan awduron BAME, LGBTQ+, niwro-amrywiol ac anabl, sy’n herio delfrydau niwro-nodweddiadol a hetero-normadol – sydd oll yn faterion nad sy’n cael eu trafod yn aml o safbwynt Cymreig.
‘Yn y tudalennau hyn y mae straeon, materion, a bywydau sydd yn rhy aml wedi eu rhoi i’r neilltu yn cael llwyfan. Yma y ceir ysgrifen sydd wedi ei lunio’n ofalus, ac sy’n gyson ymwrthod â’r temtasiwn i symleiddio a thacluso pynciau anodd. Mae Cymru yno drwyddi draw – fel adref, fel man cyrraedd, ac fel man gadael – ond fe heria’r holl naratif personol yma i ni feddwl o’r newydd.’
Darren Chetty, Cyfrannydd, The Good Immigrant
Ceir gyfraniadau yn Just so You Know gan: Isabel Adonis, Kate Cleaver, Taylor Edmonds, Dylan Huw, Ruqaya Izzidien, Bethan Jones-Arthur, Derwen Morfayel, Grug Muse, Dafydd C Reeves, Ranjit Saimbi, Nasia Sarwar-Skuse, Ricky Stevenson, Kandace Siobhan Walker, Josh Weeks, Sarah Younan.
Cafodd Parthian ei sefydlu’n 1993 gan Richard Davies, Gillian Griffiths a Ravi Pawar. Mae’r tri yn dal gyda’r cwmni, a Ravi Pawar yw cadeirydd y bwrdd. Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol er mwyn cyhoeddi nofel gyntaf Richard Lewis Davies, Sex and Rugby, ond fe ddatblygodd yn gyflym i fod yn un o gyhoeddwr annibynnol blaenllaw Cymru â chanolbwynt ar awduron Cymreig yn gweithio yn y Saesneg tra hefyd yn hel amrywiaeth o leisiau o bob math o ieithoedd a diwylliannau. Derbyniodd Parthian wobr agoriadol Cyhoeddwr Bychan y Flwyddyn Cymru gan y Bookseller.
Caiff Just so You Know: Essays of Experience ei gyhoeddi yn y DU ar Sadwrn 1 Awst 2020.
*Rhannir yr erthygl uchod ar ran Parthian Books