Lansio Criw Creu i alluogi pobl ifanc Cymru i gael mynediad i’r celfyddydau

Sbardunwyd Criw Creu gan gynllun peilot a gefnogwyd gan Western Power Distribution, a Chelfyddydau a Busnes Cymru, yn ôl ym mis Mehefin 2021. Yn ystod y prosiect a arweiniwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru, bu’r artist Siôn Tomos Owen yn cydweithio gydag 16 o ddisgyblion o adran anghenion dysgu ychwanegol Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan i greu darn o waith celf oedd wedi’i ysbrydoli gan nodweddion arbennig yr ardal.
Meddai Sian Elin, Cydlynydd Cyfranogi Theatr Genedlaethol Cymru:
“Daeth y prosiect i fodolaeth drwy sgwrs gydag Ysgol Bro Pedr, a’r cyfle i ateb angen yn yr Ysgol honno. Hwn oedd y tro cyntaf i nifer o’r bobl ifanc yno ymwneud yn uniongyrchol ac yn rhyngweithiol gyda’r celfyddydau, ac roedd gweld y mwynhad a’r datblygiad personol a phroffesiynol yn tanlinellu’r angen am fwy o ddarpariaeth fel hyn. Drwy gydweithio gyda Llenyddiaeth Cymru ac Urdd Gobaith Cymru, a drwy estyn y prosiect yn un cenedlaethol, byddwn yn gallu rhoi syniadau a gwaith pobl ifanc ledled Cymru yn ganolog i’r creu, ac mae hynny’n hollbwysig i ni fel cwmni.”
Eleni, bydd disgyblion o dair ysgol uwchradd yn rhan o brosiect Criw Creu: Criw Hwb o Ysgol Tryfan Bangor, disgyblion Sgiliau Bywyd Ysgol Penweddig Aberystwyth a chriw o Ysgol Plasmawr, Caerdydd. Dyma’r tro cyntaf i nifer o’r disgyblion hyn gael y cyfle i gydweithio gydag artistiaid a pherfformwyr proffesiynol. Mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr, fel yr esbonia’r disgyblion a’r athrawon:
“Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd inni fel disgyblion, felly mae’n braf cael cyfle i wneud rhywbeth newydd a gwahanol sy’n ein cyffroi. Rydym yn edrych ymlaen i ddysgu sgiliau newydd a gweld ein gwaith ni ar y sgrin fawr”.
– Criw Hwb, Ysgol Tryfan.
“Mae’r disgyblion i gyd wedi eu cyffroi yn lân gan y prosiect hwn, yn enwedig ar ôl sesiwn cyflwyniad i’r prosiect ar gychwyn mis Rhagfyr. Roedd yn hyfryd gweld grŵp o ddisgyblion yn gweithio gyda’i gilydd ac yn cael cyfle i gael profiad newydd a chynrychioli ein hysgol. Mae hwn yn gyfle anhygoel i’n dysgwyr fagu hyder a gweithio ar sgiliau allweddol wrth greu ffilm sydd wedi deillio o’u syniadau. Rwyf wedi derbyn adborth hyfryd gan rieni a disgyblion ac edrychaf ymlaen i’r prosiect gychwyn yn iawn ym mis Ionawr”
– Stephanie Williams, Ysgol Plasmawr.
“Mae ein disgyblion ni ym Mhenweddig yn awyddus iawn i gymryd rhan yn y cynllun, oherwydd mae’r gweithgareddau wedi cael eu creu yn benodol iddynt ac mae hynny’n gyfle arbennig”.
– Angharad Evans, Ysgol Penweddig.
Yn ffodus, ni fydd rhaid i’r disgyblion aros yn hir, oherwydd cynhelir gweithdai cyntaf Criw Creu ddydd Mercher yma, y 12fed o Ionawr. Diolch i gefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, bydd y disgyblion yn cael cyfle i gydweithio gyda neb llai na Casi Wyn, Bardd Plant Cymru i greu darnau gwreiddiol o farddoniaeth.
Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol a gaiff ei dyfarnu i fardd Cymraeg bob dwy flynedd. Nod y rôl yw ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru trwy weithdai a phrosiectau barddoniaeth amrywiol. Rheolir prosiect Bardd Plant Cymru gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.
Yn hwyrach yn y mis ac yn ystod mis Chwefror, bydd y disgyblion yn cael amrywiaeth o weithdai pellach: gweithdai animeiddio gyda Sioned Medi Evans o gwmni SMEI, a gweithdai drama gyda Sian Elin o Theatr Genedlaethol Cymru. Diolch i Urdd Gobaith Cymru, bydd y disgyblion hefyd yn cael cyfle i gydweithio a recordio cerddoriaeth gyda cherddorion gwych fel Marged Gwenllian, Osian Rhys, Caryl Griffiths, Seimon Thomas a Lewys Wyn Jones.
Bydd yr holl waith sy’n cael ei ddatblygu gan y bobl ifanc fel rhan o brosiect Criw Creu yn cael ei arddangos ar ffurf tair ffilm fer, mewn dangosiad arbennig yn yr ysgolion unigol, ac ar-lein yn ystod tymor yr haf eleni.