PenRhydd: Podlediad newydd gan sgwennwyr am grefft, cymhelliant a chynefin

“Cyfle i fynd reit at galon y broses o greu yn ei ffurf amrwd, tra bod y ’sgwennwyr wrthi’n myfyrio, dehongli a thrïo gneud synnwyr o be ma’ nhw’n drio ddeud.”
Iestyn Tyne
Caiff podlediad newydd sbon lle mae rhai o awduron mwyaf cyffrous y Gymru gyfoes yn darllen a thrafod eu gwaith ar y gweill ei ddarlledu yn wythnosol dros yr hydref.
Mae PenRhydd yn ffrwyth yr awduron Grug Muse a Iestyn Tyne a’r nod yw archwilio y grymoedd sy’n gyrru awduron i archwilio eu hamgylchfyd ar lefel corff, cymuned a byd.
Gyda nawdd Llenyddiaeth Cymru, recordiwyd saith sgwrs ddyddiol gydag awduron blaenllaw a rhai ar ddechrau eu gyrfa ym Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym mis Awst.
Caiff y sgyrsiau eu darlledu yn wythnosol dros yr hydref fel a ganlyn:
Pennod 1: Steffan Gwynn a Marged Tudur – Mawrth 17 Hydref
Pennod 2: Leo Drayton a Marged Elen – Mawrth 24 Hydref
Pennod 3: Dylan Huw a Talulah Thomas – Mawrth 31 Hydref
Pennod 4: Alun Parrington – Mawrth 7 Tachwedd
Pennod 5: Llŷr Titus a Peredur Glyn – Mawrth 14 Tachwedd
Pennod 6: Eluned Gramich a Sara Borda Green – Mawrth 21 Tachwedd
Pennod 7: Buddug Roberts a Mared Llywelyn – Mawrth 28 Tachwedd
Cliciwch ar safle Linktree PenRhydd yma i ddarganfod mwy.