Dewislen
English
Cysylltwch

Llais Dyslecsia – Prosiect Creadigol Cymraeg i amlygu lleisiau plant sydd â dyslecsia

Cyhoeddwyd Maw 23 Mai 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llais Dyslecsia – Prosiect Creadigol Cymraeg i amlygu lleisiau plant sydd â dyslecsia
Rydym yn hynod falch o fod wedi cefnogi prosiect Llais Dyslecsia, a rhyddhau’r gerdd fideo ‘Tu Draw’ yn ddiweddar. Cafodd ‘Tu Draw’ ei ysgrifennu gan Fardd Plant Cymru, Casi Wyn, yn dilyn gweithdai creadigol gyda phlant ysbrydoledig 9-11 oed. Pwrpas y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o ddyslecsia yng Nghymru drwy ddod â phlant gyda dyslecsia ynghyd i rannu a rhoi llwyfan i’w profiadau – i roi llais i ddyslecsia yng Nghymru.

Bwriad Shari Llewelyn, Cynhyrchydd ac artist y prosiect, oedd codi ymwybyddiaeth a thaflu goleuni ar faterion dyslecsia â’r Gymraeg drwy rym y celfyddydau i geisio cael gwell dealltwriaeth o’r cyflwr yng Nghymru – ei effeithiau a’i fuddion gan sbarduno hyder a balchder mewn plant gyda dyslecsia, ar ôl iddi ddarganfod bod gan ei merch dyslecsia.

Gydag arian cronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru; Canolfan Dyslecsia Miles, Prifysgol Bangor; Llenyddiaeth Cymru a chefnogaeth Ysgol Tryfan, Bangor, cynhaliwyd cyfres o weithdai yn Pontio dros hanner tymor Chwefror 2023 ac fe’u cynlluniwyd yn ofalus i godi hyder y plant gan ddathlu eu cryfderau, eu lleisiau creadigol a’u llwyddiant. Ymunodd y cerddor Elin Taylor a’r ddawnswraig Angharad Harrop i ysbrydoli yn ogystal.

Dywedodd Shari Llewelyn, Cynhyrchydd y prosiect “Bydd y bartneriaeth yn waddol pwysig i brosiectau tebyg o’i fath ar gyfer niwroamrywiaeth yn y dyfodol. Bydd yn gyfle i sicrhau bod boddhad mewn geiriau yn bosibl i bawb gan gynnwys y 15-20% o’r boblogaeth sydd gyda dyslecsia. Drwy’r celfyddydau mae modd gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl a newid agweddau.”

Cynhyrchwyd ffilm ddogfen fer gan Ffion Jon Williams o’r gweithdai, sy’n cynnwys cyfweliadau gyda’r plant, rhieni a phartneriaid y prosiect. Mae’r fideo ‘Tu Draw’ yn cynnwys Casi Wyn a Nanw Jones, un o’r plant fu’n cymryd rhan yn y prosiect, yn adrodd cerdd gan Casi yn ymateb i eiriau’r plant yn y gweithdai. Gwelir hefyd haen o animeiddio gan y dylunydd Dan Parry Evans wedi ei blethu gyda darluniadau Shari Llewelyn.

Dywedodd Casi Wyn, Bardd Plant Cymru: “Fy mwriad wrth greu’r gerdd ‘Tu Draw’ oedd creu rhywbeth y byddai’r plant yn ei berchnogi… fy nod oedd i wrando gymaint â phosib. Beth mae ‘Tu Draw’ yn ein cyfeirio ni ato yw ein bod ni’n parchu ac yn anrhydeddu gallu geiriau i’n helpu ni i gyfathrebu gyda’n gilydd, ond bod pethau ddim mor ddu a gwyn – os fedrwch chi ddefnyddio geiriau yna ti’n glyfar – ein bod ni’n mesur tu draw i hynny.”

Dywedodd Dr Manon Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Dyslecsia Miles a Ruth Elliott, cydlynydd y ganolfan a’r prosiect: “Gobeithio yn y dyfodol bydd mwy o brosiectau fel ‘Llais Dyslecsia’ i roi cyfle i bawb gael rhywle saff i ddatblygu sgiliau i fod yn llwyddiannus efo dyslecsia”

Mae’r wybodaeth yn aml yn gamarweiniol o gwmpas y cyflwr a phrin iawn yw’r sylw a’r cysondeb sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Yn aml mae pryderon o fethu ymysg plant ac oedolion, all achosi cyflyrau eraill. Nid oes digon o ddealltwriaeth am ddyslecsia ar gael, gyda’r wybodaeth a’r adnoddau yn yr iaith Gymraeg yng Nghymru yn aml yn anodd ei gyrraedd ac yn gostus. At hynny, mae angen sicrhau hyfforddiant am ddim i holl athrawon Cymru a hynny’ n ddwyieithog yn lle fod yn rhaid i athrawon dalu eu hunain am hyfforddiant a hynny yn amser prin eu hunain.

Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn adnabod problemau ynghlwm â diagnosis hwyr i blant a diffyg adnoddau a hyfforddiant i addysgwyr, a hynny’n benodol yn y Gymraeg. Yn sgîl y prosiect mae’r Ganolfan yn gwahodd pobl sydd â dyslecsia; pobl sydd â phlant, partneriaid, ffrindiau neu rieni sydd â dyslecsia; a phobl sy’n gweithio gyda rhai sydd ag anawsterau llythrennedd a dyslecsia i rannu eu profiadau. Gellir rhannu profiadau trwy ddilyn y ddolen hon. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cefnogi gwaith Canolfan Miles i wneud y llwybr tuag at ddiagnosis a chael mynediad at gefnogaeth yn haws.

Lle i weld y ffilmiau:
Ewch draw i wefan AM i wylio’r ffilmiau ac i ddarllen rhagor am y prosiect a’r cefndir: https://amam.cymru/llaisdyslecsia