Dewislen
English
Cysylltwch

Lle-CHI: Bardd Cenedlaethol Cymru yn arwain wythnos o ddigwyddiadau cymunedol

Cyhoeddwyd Gwe 14 Mai 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Lle-CHI: Bardd Cenedlaethol Cymru yn arwain wythnos o ddigwyddiadau cymunedol
Bardd Cenedlaethol Cymru yn arwain wythnos o ddigwyddiadau cymunedol i ddathlu treftadaeth ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru

Mae Llenyddiaeth Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru a Chyngor Gwynedd yn falch o gyhoeddi y bydd Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru yn cynnal taith Lle-CHI rhwng y 22 – 29 Mai 2021. Bwriad y daith yw dathlu archaeoleg ddiwydiannol ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru, a’u gwaddol diwylliannol sylweddol, yn llenyddol, yn gerddorol ac yn ysbrydol.

Yn ystod haf 2021 bydd UNESCO yn penderfynu os yw Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn haeddu statws Safle Treftadaeth Byd. Byddai derbyn y statws yn dynodi’r ardal fel Tirwedd Diwylliannol o bwys rhyngwladol, gan ymuno â safleoedd Treftadaeth Byd Blaenafon a Dyfrbont Pontcysyllte wrth gydnabod cyfraniad Cymru i’r Chwyldro Diwydiannol.

Mae Cyngor Gwynedd, ynghyd ag ystod o bartneriaid, wedi bod yn datblygu’r cais ers peth amser. Ochr yn ochr â’r gwaith hwnnw, sicrhawyd nawdd trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Partneriaeth Eryri ac Arloesi Gwynedd Wledig er mwyn gweithio ar draws cymunedau chwarelyddol Gwynedd i geisio grymuso, ail-gysylltu ac adfywio’r cymunedau hynny trwy dreftadaeth. Caiff y gwaith hwn ei adnabod fel LleCHI.

Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Datblygu’r Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd:

“Mae’r enwebiad a phrosiect LleCHI sy’n plethu â’r awydd i ddathlu diwylliant a threftadaeth yr ardal yn gyfle i ni ddathlu cyfraniad unigryw tirlun, cymunedau, busnesau a phobl Gwynedd wrth roi to ar y byd.

Mae’r syniad o ddathlu treftadaeth a chodi ymwybyddiaeth o arwyddocâd rhyngwladol y diwydiant llechi a’i chymunedau hyd yn oed yn fwy amserol eleni wrth i ni ddisgwyl clywed am benderfyniad UNESCO am yr enwebiad ar gyfer Safle Treftadaeth Byd.”

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Mae’n wybodus i lawer ohonom cymaint yw cyfraniad pwysig ardal y chwareli at ddiwylliant llenyddol Cymru. Braf yw gweld Ifor ap Glyn, yn ei rôl fel Bardd Cenedlaethol Cymru, yn ein tywys ar y daith rithiol hon er mwyn i ninnau, ac eraill, ddysgu mwy am dreftadaeth unigryw yr ardaloedd hyn wrth i ni aros am ganlyniad y cais UNESCO.”

Bydd Ifor ap Glyn yn cynnal taith gerdded o amgylch ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru, gan gynnal cyfres o nosweithiau Zoomunedol digidol yn ystod y daith. Bydd pob un o’r nosweithiau cymunedol yn cynnwys crynodeb o hanes chwarelyddol yr ardal gan yr hanesydd Dr Dafydd Gwyn, yn ogystal â darllediadau cyntaf o gân neu gerdd newydd gan artist lleol, gan gynnwys sawl enw cyfarwydd fel 9Bach, Manon Steffan Ros, Dyl Mei a Llio Maddocks. Bydd y darnau’n ymateb i rai o themâu’r cais UNESCO, ac yn tynnu ar brofiad personol yr artist o’u cymuned chwarelyddol. Caiff y gwaith ei gyflwyno ar ffurf fideo yn ystod y digwyddiadau cymunedol. Yna, ar fore Sul 23 Mai, bydd oedfa yn cael ei chynnal yng Nghapel y Groes, Penygroes dan ofal y bardd, Karen Owen.

Bydd yr holl ddigwyddiadau yn cael eu darlledu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y partneriaid, gyda’r digwyddiadau Zoomunedol  yn cael eu rhannu ar gyfrif YouTube Llenyddiaeth Cymru a LleCHI Cymru, yn ogystal â’r tudalennau Facebook.

Wedi’r daith, bydd rhaglen arbennig yn cael ei darlledu ar S4C, ar 21 Gorffennaf 2021, a fydd yn cynnwys blas o’r digwyddiadau a chyfweliadau â’r gwestai. Yn ogystal, bydd cyfres radio tair rhan yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru ar 27 Mehefin, 4 Gorffennaf a 11 Gorffennaf.  Yn ddolen rhwng y cyfan, bydd taith Ifor drwy adfeilion y chwareli yn fodd o rannu cip olwg ar hanes unigryw’r diwydiant – yr unig ddiwydiant Cymraeg ei hiaith yn ein hanes.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ac am y digwyddiadau ar gael ar dudalen prosiect Lle-CHI.