Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru – Ffioedd Awduron

Cyhoeddwyd Mer 13 Maw 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru – Ffioedd Awduron
Fel rhan o’r ymgyrch barhaol tuag at sicrhau fod ysgrifennu yn gallu bod yn yrfa ddichonol a chynaliadwy i lenorion yng Nghymru, rydym heddiw yn cyhoeddi adnewyddiad yn ein hymrwymiad ariannol i awduron.

Fel y nodir yn Ein Haddewid, un o hanfodion darparu gwaith teg i weithwyr llawrydd yw sicrhau ffioedd teg. Mae mwyafrif y gweithwyr llawrydd yr ydym yn eu cytundebu yn awduron, ac mae tystiolaeth yn dangos nad yw llawer o gyfleoedd i awduron yn cynnig beth y byddem ni yn eu hystyried yn ffioedd teg. Mae ymchwil yn y DU, megis arolwg ALCS o 2018, yn dangos gostyngiad yn enillion awduron, ac mae ymgyrchoedd megis ‘Pay the Creator’ gan Creators Rights Alliance’s wedi eu sefydlu i alw am daliadau proffesiynol ac amserol i unigolion creadigol. 

Yn 2022 fe wnaethom ni ffurfio partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth i gyflawni astudiaeth oedd yn benodol i Gymru. Fe gymerodd 111 o awduron a threfnwyr digwyddiadau ran yn yr ymchwil trwy lenwi holiaduron ac ymgymryd â chyfweliadau i adnabod amrywiaeth o rwystrau sy’n atal awduron rhag cael tâl teg. Mae esiamplau yn cynnwys diffyg dealltwriaeth o natur y gwaith gan drefnwyr, diffyg dealltwriaeth o gostau ychwanegol, neu awduron ddim yn meddu ar yr hyder i drafod telerau a gofyn am ffioedd uwch.  

Mae’r ymchwil (ceir yr adroddiad llawn yma) yn dangos yn glir beth yw’r problemau o fewn yr ecosystem lenyddol yng Nghymru ynghylch gwaith teg. Serch hynny, nid yw’r gweithrediadau angenrheidiol i oresgyn y problemau hyn yn glir nac yn hawdd. Bydd gofyn i’r holl gymuned lenyddol gyd-dynnu, ac mae hynny’n cynnwys awduron, cynulleidfaoedd, trefnwyr cymunedol, gwyliau, siopau llyfrau, sefydliadau mwy, a noddwyr. Bydd angen inni oll weithio gyda’n gilydd i greu sector gref a chynrychioladol sy’n cefnogi awduron i ddatblygu gyrfaoedd cynaliadwy. Gall trafod arian fod yn anghyfforddus, ond dyna’r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i arwain at newid gwirioneddol.   

Fel y cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygiad llenyddiaeth, rydym eisiau bod yn esiampl i eraill. At hynny, rydym yn ymroi i gyhoeddi’r ffioedd yr ydym wedi eu talu bob blwyddyn, a phennu graddfeydd ffioedd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Ar ben hynny, byddwn ond yn creu partneriaeth â sefydliadau sydd hefyd yn ymroi i dalu’r ffioedd hyn, ac ni fyddwn yn rhoi nawdd i sefydliadau nad ydynt yn talu ffioedd teg.  

Bydd rhai awduron yn dymuno gweithio am ffioedd is neu o bryd i’w gilydd, am ddim. Gallai hynny fod i gefnogi eu cymuned, i gymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n cefnogi achos penodol, neu er mwyn datblygu eu gyrfaoedd. Nid ydym yn dymuno eu halltudio, serch hynny, rydym yn gofyn iddynt fynegi wrth drefnwyr pam fod eu graddfa yn is neu pam eu bod yn cyflawni’r gwaith am ddim, gan y bydd hyn yn arwain at well dealltwriaeth o bwysigrwydd gwaith teg i awduron. Rydym yn gofyn i holl drefnwyr digwyddiadau feddwl yn ofalus am y ffi y maent yn ei gynnig i awduron cyn dechrau trafod â nhw, a bod yn agored ac yn barod i drafod y ffi gyda nhw.

Pam fod ffioedd teg yn bwysig? 

Mae ysgrifennu yn grefft, ac mae meithrin y grefft yn gofyn am fuddsoddiad amser, egni a hyfforddiant. Fel unrhyw grefft arall, dylid talu’n deg am eu hamser. Heb ffioedd teg, mae’n bosib y bydd rhaid i awduron adael y sector i chwilio gwaith arall. Yn enwedig felly awduron sydd – yn draddodiadol – wedi cael eu tangynrychioli yn y sin llenyddol oherwydd rhwystrau yn y sector. Rydym eisiau meithrin lleisiau newydd yn ogystal â rhai cyfarwydd. Rydym am i Gymru gael ei hadnabod am ei llên. Rydym am i bobl Cymru elwa o effeithiau positif ymwneud â llenyddiaeth. Felly mae’n eithriadol o bwysig ein bod yn parchu, cefnogi ac yn buddsoddi yn ein hawduron.   

Ymrwymiad Llenyddiaeth Cymru yn Llawn  

Gallwch ddarllen ein hymrwymiad yn Ein Haddewid. Mae hyn yn cynnwys sut y byddwn yn sicrhau ein bod yn dryloyw ac yn barchus, sut y byddwn yn rhoi grym i awduron, yn cefnogi ecosystem lenyddol ffyniannus, ac yn defnyddio ein platfform a’n rhwydweithiau i eirioli dros newid.