Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn yr Eisteddfod!

Cyhoeddwyd Gwe 2 Awst 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn yr Eisteddfod!
Mae Llenyddiaeth Cymru yn edrych ymlaen yn eiddgar at Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, wrth i’r brifwyl ymgartrefu ym Mhontypridd, rhwng 3 ac 10 Awst.

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi arlwy o ddigwyddiadau amrywiol a chyffrous ar y Maes, sy’n cynrychioli rhychwant ein gwaith – gyda phlant a phobl ifanc, gyda chymunedau amrywiol sy’n cael eu tangynrychioli, wrth ddatblygu a chynnig cyfleodd i awduron, yn maes iechyd a llesiant, ac wrth ddathlu diwylliant Cymru.

Rydym wedi cefnogi prosiectau hyfryd mewn ysgolion lleol yn Rhondda Cynon Taf a fydd yn cael eu dathlu yn y Babell Lên. Cawn hefyd gyfle i dynnu sylw at brosiectau llesiant a natur sy’n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru, ac rydym wedi noddi digwyddiadau amrywiol a fydd at ddant bawb!

Dyma restr gyflawn o weithgarwch Llenyddiaeth Cymru yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni, yn ogystal â digwyddiadau sydd wedi derbyn nawdd gan Llenyddiaeth Cymru drwy ein cronfa Ysbrydoli Cymunedau:


Dydd Sadwrn, 3 Awst

Agoriad Swyddogol y Babell Lên – Ble ma’ fan hyn?

10.30 am, y Babell Lên

Disgyblion ysgolion lleol ac Elinor Wyn Reynolds sy’n agor y Babell Lên yn swyddogol eleni gyda phrosiect dan nawdd Llenyddiaeth Cymru, Ble ma’ fan hyn?  Cynllun arbennig i ddathlu enwau lleoedd, treftadaeth a’r iaith Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf a phrosiect pontio i flwyddyn 6 ysgolion cynradd sy’n bwydo i bedair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y sir.

Bydd hefyd perfformiad o’r Cywydd Croeso gan Aneirin Karadog ac o gerdd gomisiwn newydd gan Fardd Plant Cymru, Nia Morais.

 

Paned gyda Megan Angharad Hunter a Dylan Huw

1.00pm, Stondin Paned o Gê

Yr awduron Megan Angharad Hunter a Dylan Huw sy’n sgwrsio am eu rhan yn rhaglen Writers at Work, Gŵyl y Gelli.

(Gyda nawdd gan gynllun Ysbrydoli Cymunedau, Llenyddiaeth Cymru)

 

Mae sŵn yr ymladd yn ein clyw

3.00pm, Y Babell Lên

Mererid Hopwood, Rhun Dafydd, Menna Elfyn, Ifor ap Glyn ac eraill sy’n trafod gwerth a phwysigrwydd llenyddiaeth am ryfel, heddwch ac erledigaeth.

(Gyda nawdd gan gynllun Ysbrydoli Cymunedau, Llenyddiaeth Cymru)

 

Dydd Sul, 4 Awst

Paned gyda Nia Morais a Lee Newbury

1.00pm, Stondin Paned o Gê

Paned a sgwrs gyda Nia Morais, Bardd Plant Cymru, a Lee Newbury, awdur cyfres ‘The Last Firefox’, am sgwrs ddifyr am lenyddiaeth plant.

(Gyda nawdd gan gynllun Ysbrydoli Cymunedau, Llenyddiaeth Cymru)

 

Talwrn yr Ifanc

1.30pm, y Babell Lên

Talwrn yr Ifanc: timau o ddisgyblion ysgolion Cwm Rhondda, Garth Olwg, Rhyd y Waun a Llanhari gyda’r Meuryn, Tudur Dylan Jones wrth y llyw.

 

Dydd Llun, 5 Awst

Sgwennu’n Well – ymgyrch i greu llyfryddiaeth llesiant Cymraeg newydd

12.00pm, y Sffêr, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Siân Melangell Dafydd a Leusa Llewelyn o Llenyddiaeth Cymru yn galw am gymorth i greu llyfryddiaeth ddigidol o weithiau  llên Cymraeg sy’n ymdrin â llesiant, i ysgogi ac i gefnogi gweithdai a phrosiectau creadigol

 

Dydd Iau, 8 Awst

Archwilio’r Argyfwng hinsawdd a natur drwy lenyddiaeth

12.30pm, Sffêr Gwyddoniaeth

Archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur trwy lenyddiaeth: Siôn Tomos Owen ac Iola Ynyr sy’n cyflwyno’u profiad o fod yn rhan o gynllun, ‘Llên Mewn Lle’

 

Paned gyda Bethan Marlow a Lily Beau

1.00pm, Stondin Paned o Gê

Sgwrs gyda sgwenwyr dau o gynyrchiadau theatr mwyaf Cymru eleni, Bethan Marlow (‘Feral Monster’) a Lily Beau (‘Ie, Ie, Ie’).

(Gyda nawdd gan gynllun Ysbrydoli Cymunedau, Llenyddiaeth Cymru)

 

Dydd Gwener 9 Awst

Paned gyda Rufus Mufasa, Nia Wyn Jones a Leo Drayton

1.00pm, Stondin Paned o Gê

Sgwrs am farddoniaeth ac ysgrifennu gyda’r beirdd, Rufus Mufasa, Nia Wyn Jones a Leo Drayton.

(Gyda nawdd gan gynllun Ysbrydoli Cymunedau, Llenyddiaeth Cymru)

 

Dydd Sadwrn 10 Awst

Paned gyda Priya Hall a Leila Navabi

1.00pm, Stondin Paned o Gê

Sgwrs dros baned gyda’r digrifwyr Priya Hall a Leila Navabi am eu gyrfaoedd yn y diwydiant comedi, ysgrifennu stand-yp a chomedi ar radio a theledu.

(Gyda nawdd gan gynllun Ysbrydoli Cymunedau, Llenyddiaeth Cymru)

 

Bloedd ar Goedd

4.00pm, Stondin Paned o Gê

Bloedd ar goedd: casgliad o gomisiynau newydd gan ysgrifenwyr LHDTC+ wedi’u perfformio gan aelodau o’r gymuned, gan gynnwys Enfys Clara, Rebecca Hayes, Kayley Roberts a Kira Bissex

(Gyda nawdd gan gynllun Ysbrydoli Cymunedau, Llenyddiaeth Cymru)