Dewislen
English
Cysylltwch

Mae gan Mererid Hopwood yw Llyfr y Flwyddyn 2026

Cyhoeddwyd Iau 9 Gor 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Mae gan Mererid Hopwood yw Llyfr y Flwyddyn 2026
Llongyfarchiadau gwresog i’r Prifardd Mererid Hopwood, enillydd Llyfr y Flwyddyn 2026 am ei chyfrol Mae (Cyhoeddiadau Barddas).

Cawsom gyhoeddi’r newyddion ar 9 Gorffennaf yn ein Seremoni Wobrwyo yn Galeri Caernarfon. Cyhoeddwyd hefyd mai A Room Above a Shop, nofel gyntaf Anthony Shapland, yw enillydd y brif wobr Saesneg. Mae’r ddau yn derbyn gwobr o £4,000 yr un ynghyd â thlws eiconig wedi’i greu gan Angharad Pearce Jones.

Er mor adnabyddus yw hi fel bardd, Mae (Cyhoeddiadau Barddas) yw ei hail gyfrol o farddoniaeth, yn dilyn Nes Draw (Gomer, 2015), a enillodd Gategori Barddoniaeth Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2016. Rhwng y cloriau mae cerddi am heddwch, anghyfiawnder, yr amgylchfyd, bod yn fam ac yn fam-gu, a llawer mwy. Dyma’r tro cyntaf i gyfrol o farddoniaeth ddod i’r brig yn y wobr Gymraeg ers 2002.

Dywedodd Ifor ap Glyn ar ran y panel beirniadu:

“Aeth deng mlynedd heibio ers cyhoeddi casgliad diwethaf Mererid, ond bu’n werth aros am y gyfrol swmpus hon. Mae’r ferf syml sy’n rhoi teitl i’w chasgliad hi  – ‘mae’ – ar yr un pryd yn ddatganiad athronyddol ynghylch breuder bywyd, ond hefyd yn nodweddiadol o ddiddordeb mawr Mererid mewn iaith – sut mae’n gweithio, a sut y byddwn yn ei rhannu.

Cawn gyffyrddiadau mewn ieithoedd eraill, ac mae Dyfedeg ei theulu yn cyfoethogi’r casgliad yma a thraw. Bardd rhyngwladol ei gorwelion yw Mererid ac mae sawl cerdd yma sy’n datgelu ei hymrwymiad i’r ymgyrch dros heddwch. Mae ‘na dynerwch yn ei chanu; ond mae’na daerineb hefyd; ac yn fwy na dim mae’na obaith.”

Mererid Hopwood oedd y fenyw gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych, 2001, ac mae hefyd wedi ennill y Goron a’r Fedal Ryddiaith. Mae hi wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau i oedolion a phlant ac wedi cael ei gwobrwyo am ei hymroddiad a’i thalentau. Mererid yw Archdderwydd Gorsedd y Beirdd 2024-2027 ac mae hi hefyd yn Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae A Room Above a Shop gan Anthony Shapland yn stori gariad dyner ac atseiniol wedi ei lleoli yn ne Cymru yng Nghyfnod a chefndir Adran 28, y ddadl ynghylch oedran cydsynio ac argyfwng HIV ac AIDS. Roedd Anthony yn ran o rhaglen Cynrychioli Cymru, Llenyddiaeth Cymru, lle cafodd ei fentora gan Cynan Jones, oedd hefyd â chyfrol ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn eleni. Cafodd A Room Above a Shop ei enwi yn Llyfr y Flwyddyn Cymraeg Waterstones, cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Nota Benen 2026, a rhestr fer Gwobr Gordon Burn 2026.

Bob blwyddyn, mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu awduron talentog Cymru. Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – BarddoniaethFfuglenFfeithiol Greadigol, a Plant a Phobl Ifanc. Mae pob enillydd categori yn derbyn gwobr ariannol o £1,000. Mae un o’r enillwyr categori yn mynd ymlaen i ennill Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn ac yn derbyn £3,000 yn ychwanegol.

 

 

Dyma enillwyr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2026:

Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2026 (Noddir gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd);
a’r Wobr Farddoniaeth (Cefnogir gan Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd)

Mae, Mererid Hopwood (Cyhoeddiadau Barddas)

Gwobr Ffeithiol Greadigol (Noddir gan Stori Cymru)

Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni – Ar Lwybrau ‘Atgof’ Prosser Rhys, Iestyn Tyne (Gwasg y Bwthyn)

Gwobr Ffuglen (Noddir gan Cyfrifwyr HSJ)

Tri, Sonia Edwards (Gwasg y Bwthyn)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc (Cefnogir gan Cronfa Elw Park-Jones)

Y Cae Ras, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Gwobr Barn y Bobl Golwg360

Trochi – Cerddi Carwyn Eckley, Carwyn Eckley (Gwasg Carreg Gwalch)

Enillwyr y Wobr Saesneg:

Prif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2026 (Noddir gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd),
a’r Wobr Ffuglen (Cefnogir gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies)

A Room Above a Shop, Anthony Shapland (Granta Publications)

Gwobr Farddoniaeth (cefnogir gan Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd)

The Storm’s Flora, Laura Wainwright (Seren Books)

Gwobr Ffeithiol Greadigol 

Children of Radium: A Buried Inheritance, Joe Dunthorne (Hamish Hamilton)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc (noddir gan Darwin Gray)

My Dog, Olivia Wakeford (Harper Collins Children’s Books/ Harper Fire)

Gwobr People’s Choice Nation.Cymru

There she Goes my Beautiful World, Gosia Buzzanca (Calon)

 

Eisiau darganfod mwy? Porwch y dolenni isod.

Beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2026

Gwobrau’r gorffennol