Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am y Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales nesaf (2023-2025)
Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am yr awduron nesaf i ymgymryd â’r rôl yn 2023-25, i ysbrydoli ac i danio creadigrwydd plant Cymru.
Trwy amrywiaeth o weithgareddau, sy’n cynnwys gweithdai, perfformiadau, creu a chyd-greu, mae’r Bardd Plant yn ymdrechu i datblygu hyder a sgiliau cyfathrebu creadigol plant, eu hannog i sgwennu am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, a meithrin cariad at ysgrifennu creadigol, darllen a’r iaith Gymraeg.
Rydym hefyd wedi agor y broses recriwtio ar gyfer y Children’s Laureate Wales nesaf. Chwaer brosiect Bardd Plant Cymru yw’r Children’s Laureate Wales, sy’n gweithio yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg. Gallwch ddarganfod rhagor ar ein tudalen Children’s Laureate Wales.
Am bwy rydyn ni’n chwilio:
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan unigolion angerddol sydd â gweledigaeth glir ar gyfer y rolau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod o gefndiroedd amrywiol a phrofiadau byw, a byddwn yn ystyried awduron profiadol a mwy newydd.
Rydym yn chwilio am awduron sy’n rhannu ein gwerthoedd o gydraddoldeb a chynrychiolaeth, a fydd yn llysgennad cryf dros hawliau plant i fod yn greadigol, i fynegi eu barn, i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ac wrth gwrs i gael hwyl gyda geiriau.
Dyddiadau allweddol:
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12.00 canol dydd, dydd Iau 16 Mawrth 2023.
Bydd cyfweliadau a gweithdai peilot ar gyfer rôl Bardd Plant Cymru yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos yn dechrau 17 Ebrill 2023, a bydd y bardd llwyddiannus yn cael ei chyhoeddi neu ei gyhoeddi mewn digwyddiad arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gâr yn ystod yr wythnos yn dechrau 29 Mai 2023.
I gael rhagor o wybodaeth am y rolau hyn a sut i wneud cais, ewch draw i dudalen Bardd Plant Cymru ar ein gwefan.