Dewislen
English
Cysylltwch

Mae’r Ddraig yn Deffro: Straeon ar gyfer y Metro newydd

Cyhoeddwyd Maw 13 Rhag 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Mae’r Ddraig yn Deffro: Straeon ar gyfer y Metro newydd
Mae Trafnidiaeth Cymru a Llenyddiaeth Cymru wedi dod at ei gilydd i ysbrydoli pobl ifanc yn Ffynnon Taf i ddathlu System Drafnidiaeth Metro newydd.

Bydd Metro De Cymru yn rhwydwaith integredig o fysiau, trenau a theithio llesol (cerdded a beicio) a fydd yn gwella cysylltedd ac yn gwneud teithio cynaliadwy yn haws ar draws De Cymru. Fel rhan o gynllun Metro De Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn adeiladu depo cynnal a chadw rheilffyrdd newydd sbon yn Ffynnon Taf, a fydd yn gartref i’r trenau tram newydd sbon sy’n dod i rwydwaith De Cymru. 

Roedd y prosiect hwn yn annog plant i archwilio eu hardal leol yn greadigol, tra’n dysgu mwy am brosiect Metro a’i effaith bosibl ar eu hamgylchedd a’u cymuned leol. Mae’r Argyfwng Hinsawdd yn flaenoriaeth strategol allweddol i Llenyddiaeth Cymru, gyda ffocws arbennig ar annog cenedlaethau iau i fynegi eu pryderon am ddyfodol ein planed, gwella eu cysylltiad â’u hardaloedd lleol, a chymryd camau cadarnhaol. 

Yn ystod tymor Hydref 2022, fe wnaeth disgyblion blwyddyn 4 Ysgol Gynradd Ffynnon Taf fwynhau gweithdai ysgrifennu creadigol a darlunio gyda’r awdur Mike Church a’r darlunydd Osian Grifford. Dysgon nhw sut i lunio stori, archwilio cymeriadau ac hanes Ffynnon Taf yn greadigol, a chasglu syniadau ar gyfer eu stori eu hunain. Cafodd eu stori wych am y Metro a’r ddraig sy’n byw yn y ffynnon boeth ei droi yn gasgliad o gylchgronau a cherddi poster a fydd yn cael eu harddangos yn yr ysgol ac yn yr orsaf drenau leol.  

Dywedodd yr awdur Mike Church, Roedd y plant yn wych i weithio gyda nhw, wedi mynd i’r afael â ac yn diddori ym mhopeth a gynhigiwyd iddynt…clod gwirioneddol i’r ysgol a’r gymuned. Pan symudais i’r ardal am y tro cyntaf flynyddoedd yn ôl, roedd yna adeilad Forgemasters enfawr. Nawr mae’r dirwedd gyfan wedi newid a bydd trafnidiaeth i ac o Gaerdydd yn cael ei chwyldroi…dyna’r gobaith i bob un ohonom.

 

Dywedodd un o’r athrawon, Mrs Howells, Roedd y plant wedi cymryd diddordeb o’r cychwyn cyntaf ac roeddwn i wedi rhyfeddu at ba mor frwd oedden nhw wrth roi pin ar bapur! Mae Mike wedi dangos sut mae dychymyg yn allweddol i ysgrifennu! Fe wnaethon ni fwynhau’r prosiect yn fawr a doedden ni ddim eisiau iddo ddod i ben”.

 

Dywedodd Jessica Clement o gwmni Trafnidiaeth Cymru, Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch iawn o allu gweithio gyda disgyblion Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, bydd llawer ohonynt yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y gwaith i uwchraddio’r rheilffordd ac adeiladu’r depo newydd yn Ffynnon Taf. Roedd yn wych cael y cyfle i ateb cwestiynau’r plant ynghylch sut y bydd cynllun Metro De Cymru yn effeithio arnynt yn y dyfodol, a gweld sawl un ohonynt yn edrych ymlaen at fynd ar y trenau newydd pan fydd y gwasanaeth yn dechrau. Rwyf wedi mwynhau gallu gweithio gyda Llenyddiaeth Cymru i weld sut y gall prosiectau fel hyn ysbrydoli plant i feddwl yn greadigol a defnyddio eu dychymyg i gynhyrchu eu straeon eu hunain am eu cymuned leol.”