Dewislen
English
Cysylltwch

Nodyn ar Natur: Galwad Agored i Awduron

Cyhoeddwyd Mer 21 Meh 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Nodyn ar Natur: Galwad Agored i Awduron
Durre Shahwar a Nasia Sarwar-Skuse

Rydym yn falch o gyhoeddi galwad agored i fynychu cwrs preswyl i fenywod o liw ar thema ysgrifennu am natur.  

Mae’r alwad agored yn gwahodd unigolion o liw o Gymru sy’n uniaethu fel menywod neu rywiau ymylol i gwrs ysgrifennu natur preswyl rhad ac am ddim yn ystod hydref 2023. Cwrs cyfrwng Saesneg yw hwn.   

Caiff Nodyn ar Natur ei diwtora gan Durre Shahwar a Nasia Sarwar-Skuse, a chaiff ei gynnal o ddydd Llun 25 i ddydd Gwener 29 Medi 2023. 

Y dyddiad cau i fynegi diddordeb yw 5.00 pm dydd Llun, 31 Gorffennaf 2023. 

Bydd y cwrs yn canolbwyntio’n bennaf ar ysgrifennu ysgrifau, ac yn eich annog cyfranogwyr i ystyried beth mae natur yn ei olygu i chi, i archwilio eich perthynas â byd natur – boed hynny mewn tirwedd drefol neu wledig – a darganfod sut y gall ein cysylltiadau â natur wella a chefnogi llesiant unigolion a chymunedau. 

Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rheiny sy’n ddechreuwyr llwyr hyd at awduron sydd â pheth profiad. Mae’n werth nodi hefyd nad oes disgwyl i gyfranogwyr feddu ar wybodaeth helaeth am yr amgylchedd a’r hinsawdd. Mae’r tiwtoriaid yn chwilio am awduron sydd â’r awydd i adrodd profiadau personol yn ymwneud â’r themâu. 

Mae Durre Shahwar a Nasia Sarwar-Skuse yn gyd-olygyddion yr antholeg Gathering (404 Ink), sydd wedi ei ariannu yn rhannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Mae Gathering yn gasgliad o draethodau gan fenywod o liw ledled y DU, pob un ohonynt yn trafod eu perthynas gyda natur, gan gyffwrdd ar themâu megis niwroamrywiaeth, iechyd meddwl, lliwiaeth, y byd academaidd, cerddoriaeth, gwynder, teithio a mwy. Caiff yr antholeg ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2024. 

Bydd gan bob cyfranogwr ar y cwrs brofiadau gwahanol o natur, a bydd natur yn golygu rhywbeth gwahanol i bob un ohonynt. Nod y cwrs yw dathlu lleisiau amrywiol a safbwyntiau gwahanol, ac annog cyfranogwyr i hawlio eu lle ym myd natur. 

Mae’r cyfle hwn yn agored i unigolion o liw o Gymru sy’n uniaethu fel merched, neu o ryw ymylol. Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 neu’n hŷn.  

Ceir rhagor o wybodaeth am y cwrs a’r broses ymgeisio syml ar dudalen cwrs Notes on Nature yma. Mae’r wybodaeth yma’n cynnwys yr alwad agored llawn, cwestiynau cyffredin, a manylion am sut i wneud cais. Mae’r holl ddogfennau ar gael mewn fformatau print bras a dyslecsia-gyfeillgar ar ein tudalen lawrwytho.