Pós barddoniaeth yn dathlu ieithoedd Cymru

Mae 2022 yn nodi dechrau degawd ieithoedd bordorol UNESCO; eleni hefyd mae Ifor ap Glyn yn dathlu diwedd ei gyfnod fel Bardd Cenedlaethol Cymru. Roedd ceisio meddwl sut orau i gyfuno’r elfennau hyn ynghyd yn bós yddo ei hun, ac yna daeth y syniad am Swdocw Iaith!
Yn ystod ei gyfnod yn y rôl, mae awydd Ifor i ymgysylltu â ieithoedd a diwylliannau eraill yng Nghymru a thu hwnt wedi bod yn amlwg. Yn ystod y chwe mlynedd diwethaf mae wedi cyd-weithio’n greadigol â beirdd o ystod eang o gefndiroedd, gan gyfieithu eu gwaith i’r Gymraeg, tra fod ei waith yntau wedi ei gyfieithu i’w ieithoedd hwythau.
Priodol iawn felly oedd dewis prosiect cyfieithu barddoniaeth fel ei brosiect olaf fel Bardd Cenedlaethol Cymru. Gwahoddwyd chwech o feirdd sydd yn byw yng Nghymru i gyd-weithio ag Ifor ar Swdocw Iaith – Language Sudoku. Daeth y beirdd ynghŷd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ac aethant ati i gyfieithu gwaith ei gilydd, dysgu am eu cefndir diwylliannol, a recordio cerddi fideo byr.
Ffrwyth llafur y gwaith yw chwe cerdd fideo ar gael mewn chwe iaith – 36 cerdd i gyd. Yn ystod y dyddiau yn arwain at Ddiwrnod Barddoniaeth, bydd pob un o’r cerddi’n cael eu cyhoeddi yn eu tro ar gyfrif Trydar Llenyddiaeth Cymru gyda dewis o isdeitlau Cymraeg, Twrceg, Wrdw, Almaeneg, Breton, neu Saesneg.
Dyma’r beirdd oedd yn rhan o’r prosiect:
Aneirin Karadog – Llydaweg
Dani Schlick – Almaeneg
Hammad Rind – Wrdw
Shara Atashi – Saesneg
Meltem Arikan – Twrceg
Ifor ap Glyn – Cymraeg
Mae rôl Bardd Cenedlaethol Cymru yn un gyffrous ac amlwg sy’n cynrychioli ac yn dathlu diwylliant llenyddol Cymru adref a thramor. Dydd Mercher, 6 Gorffennaf 2022, cyhoeddwyd mai’r bardd Hanan Issa fydd yn ymgymryd â rôl Bardd Cenedlaethol Cymru 2022-25, a dros yr Haf bu’r ddau fardd yn rhannu’r rôl a Swdocw Iaith oedd prosiect olaf Ifor fel Bardd Cenedlaethol Cymru.