Preswylfa LLIF: 14 awdur Ewropeaidd yn treulio 14 niwrnod yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn archwilio’r berthynas rhwng iaith, tirwedd ac ecoleg

Mae pum bardd o Gymru ymysg yr awduron fydd yn cymryd rhan blaenllaw yn y preswyliad arbennig hwn, sef Meleri Wyn Davies, Hywel Griffiths, Elinor Gwynn, Mererid Hopwood a clare e. potter. Dewiswyd hwy drwy alwad agored yr hydref diwethaf. Yn teithio o amrywiol wledydd yn Ewrop i ymuno â nhw bydd Gianna Olinda Cadonau (Y Swistir), Pol Guasch (Catalonia, Sbaen), Kristin Höller (Yr Almaen), Maarja Pärtna (Estonia), Ligija Purinaša (Latfia), Tina Perić (Slovenia), Mónika Rusvai (Hwngari), Kim Simonsen (Ynysoedd y Faroe) a Syds Wiersma (Friesland, Yr Iseldiroedd).

Gallwch ymweld â thudalen gwefan LLIF i ddarllen mwy am y garfan o awduron.
“Mae’r encil hwn yn gam pwysig i mi nid yn unig fel llysgennad dros y Gymraeg, ond i ddysgu gan bobl ag ieithoedd lleiafrifol ledled y byd. Rwy’n edrych ymlaen at weld pa atebion all godi i amddiffyn a meithrin ieithoedd a’n planed.” – clare e. potter
“Fel bardd a daearyddwr, mae tirwedd a hinsawdd a’n perthynas â nhw wedi bod yn brif thema fy ngwaith ers blynyddoedd a bydd yn brofiad gwych trafod syniadau yng nghwmni awduron eraill sydd â diddordeb yn y meysydd hyn.” – Hywel Griffiths
“Rydw i wir yn edrych ymlaen at y cyfnod yma o gyfnewid â beirdd Cymraeg a gydag awduron o wledydd eraill – pawb â chyd-destun ieithyddol a diwylliannol a daearyddol gwahanol. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am gysylltiadau rhwng ieithoedd, ecoleg, a’n hamgylchedd, pa un ai yw rheiny’n gysylltiadau barddol ai peidio.” – Gianna Olinda Cadonau
“Yn ystod fy nghyfnod ar breswyliad llenyddol yng Nghymru, rwy’n gobeithio dyfnhau fy nealltwriaeth o sut y gall llenyddiaeth amlygu’r cysylltiadau rhwng dynolryw â’r elfennau sy’n uwch na dynoliaeth – sut y gall straeon agor ein llygaid a’n galluogi i roi sylw i’r di-sylw a’r bregus.” – Kim Simonsen
Bydd yr encil pythefnos o hyd yn creu gofod arbennig i ysgogi trafodaeth a rhannu syniadau rhwng yr awduron drwy gynnwys ymweliadau a theithiau maes, gweithdai a sgyrsiau ynghyd a digon o amser i fyfyrio a chreu yn nhawelwch ac awyrgylch arbennig Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. I gloi’r encil bydd y grŵp yn ymweld â Gŵyl y Gelli ble y caiff pawb flas o’r ŵyl, cyfleoedd i rwydweithio, a bydd rhai o’r garfan yn rhannu eu profiadau mewn sgwrs gyhoeddus ym mhabell Awduron Wrth eu Gwaith.
Rydym yn ddiolchgar i’n cyllidwyr a’n partneriaid sydd wedi gwneud y cyfle hwn yn bosibl: EUNIC London, Llywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, y Cyngor Prydeinig, Llenyddiaeth dros Ffiniau, a Gŵyl y Gelli.