Dewislen
English
Cysylltwch

Preswyliad Duke Al Durham yn Ysgol Uwchradd Basaleg

Cyhoeddwyd Mer 27 Medi 2023 - Gan Duke Al Durham
Preswyliad Duke Al Durham yn Ysgol Uwchradd Basaleg
Does dim byd fwy dewr na siarad am eich teimladau, cyfleu emosiynau ar dudalen, a’u darllen i bawb eu clywed. 
Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy ngwahodd gan Llenyddiaeth Cymru i arwain prosiect fel rhan o Darn-Wrth-Ddarn, -by-Piece, prosiect a ariennir gan Comic Relief mewn partneriaeth â Mind Casnewydd a Maendy Ieuenctid sy’n cefnogi teuluoedd a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yng Nghasnewydd. Y nod oedd annog disgyblion Ysgol Uwchradd Basaleg, Casnewydd i siarad am eu hiechyd meddwl a defnyddio ysgrifennu creadigol, barddoniaeth yn benodol, ochr yn ochr â ffurf gelfyddydol arall fel ffordd o fynegi eu hunain yn greadigol. 
Ar ôl prosiect cyntaf llwyddiannus gyda disgyblion Blwyddyn 10 ac yn seiliedig ar adborth a dderbyniwyd gan y bobl ifanc, oedd yn nodi eu bod yn dyheu am gefnogaeth parhaol, des yn fardd preswyl yn Bassaleg am 6 mis. Gweithiais gyda grwpiau o flwyddyn 7 a blwyddyn 9, yn ogystal â disgyblion ar sail un-i-un. 
Ymunwch â mi ar daith ysbrydoledig. 

Taith Bardd 

Roedd y prosiect cyntaf yn canolbwyntio ar ddefnyddio barddoniaeth a chelf â disgyblion blwyddyn 10 mewn 7. Canolbwyntiodd y gweithdy cyntaf ar chwalu’r rhwystrau i farddoniaeth, fel bod y disgyblion magu’r hyder i ddechrau ysgrifennu. Perfformiais ddetholiad o’m barddoniaeth a rhannais fy stori – brwydr ag Anhwylder Obsesiynol Cymhellol (OCD) cyflwr iechyd meddwl sydd wedi’i stigmateiddio’n drwm a’i gamddeall, fel y gallwn fod yn berthnasol ac adeiladu perthynas â’r grŵp.  

Ymunodd Bill Taylor-Beales â mi a anogodd y disgyblion i ddefnyddio celf i fynegi eu hunain. Roedd y cyfuniad o gelf a barddoniaeth yn caniatáu i’r bobl ifanc barhau i ymgysylltu wrth i ni fynd o dasg i dasg. Roedd Bill yn gefnogaeth enfawr o fewn y grŵp ac fe wnaeth i bawb deimlo’n gartrefol oherwydd ei natur ofalgar. Ymunodd Leah Williams o Mind Casnewydd â ni hefyd gan ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth ar gyfer iechyd meddwl y disgyblion. 

Ar ôl y sesiynau rhagarweiniol, cafwyd gweithdai fwy dwys am bobl ifanc a iechyd meddwl. Cafwyd trafodaeth ddiddorol am wasanaethau ieuenctid a gobeithion y bobl ifanc am rhain. Archwiliodd y bobl ifanc brofiadau bywyd go iawn gydag iechyd meddwl mewn gofod diogel, gan ysgrifennu am sut roedden nhw’n teimlo, beth ddigwyddodd a gyda phwy, a hynny o wahanol safbwyntiau – rhai personol, rhai eu cyfeillion, a phersonoli eu teimladau. Arweiniodd y gwaith newydd hynod safonol ac at amrywiaeth o ddarganfyddiadau newydd. 

Cynhaliodd y disgyblion sesiwn meic agored yn y dosbarth, gan berfformio eu gwaith a’u cyfoedion. Cyfrannodd pawb at gân am obeithion y bobl ifanc am y gwasanaethau ieuenctid, a gafodd ei ffilmio i gefndir o gerddoriaeth. Roedd yn brofiad hynod emosiynol ac ysbrydoledig, a rwy’n falch tu hwnt o ddewrder y disgyblion a’u hymrwymiad i’r prosiect. 

 

Brwydro ein hofnau 

Yn y prosiect canlynol, roedd criw bach o ddisgyblion Blwyddyn 7. Er oeddent yn adnabod ei gilydd yn dda iawn fe ddatblygodd y pedwar disgybl gymuned yn gynnar, a hynny gan eu bod yn medru uniaethu a’i gilydd. eu bod yn ymwneud cymaint â’i gilydd. Bu’r disgyblion yn archwilio’r dychymyg, yn llunio cerdd am yr hyn maent yn fwynhau ei wneud a’r hyn sydd yn eu tanio.  

Gweithiais ag Amy Moody ar y prosiect hwn, darlunydd ac artist talentog. Arweiniodd Amy weithdy oedd yn canolbwyntio ar goeden o emosiynau, a lwyddodd i ddechrau sgwrs am iechyd meddwl. Nod y prosiect oedd creu llyfryn bach o waith y disgyblion gan ddefnyddio’r cysyniad o fwgwd – y mwgwd rydyn ni’n ei gyflwyno i’r byd a’r hyn rydyn ni’n teimlo oddi tano. Crëwyd fideo byr yn dilyn y prosiect gan y fideograffydd Ryan Evans oedd yn cynnwys darnau tu ôl i’r llenni, cyfweliadau, a’r disgyblion yn rhannu eu gwaith.  

 

Bywyd yw bywyd 

Y prosiect terfynol oedd y mwyaf heriol i mi o ran ceisio annog y bobl ifanc i rannu unrhyw beth amdanyn nhw eu hunain. Ar y dechrau roedd hi’n amlwg bod y disgyblion yn hunanymwybodol ac yn amharod i siarad am eu penwythnos neu hyd yn oed bethau roedden nhw’n mwynhau eu gwneud. Perfformiais gerdd fy hun a rhannais fy nhaith gydag iechyd meddwl, yn y gobaith o’u hannog mewn gofod diogel. 

Dros gyfnod y prosiect, dechreuodd y grŵp ymlacio a rhannu mwy a mwy. Dechreuon nhw archwilio’r syniad o farn eraill a chwestiynu os oedden nhw’n poeni beth oedd eraill yn ei feddwl amdanynt. Roedd hwn yn amlwg yn bwnc llosg a arweiniodd at sgwrs byrlymus. Roedd rhai yn hunanymwybodol ac yn poeni am gael eu beirniadu gan ffrindiau, ceisio ymddangos yn cŵl, a pheidio gwneud ffŵl o’u hunain o flaen eraill, tra nad oedd eraill yn poeni o gwbl am farn eraill. Chwaraeodd y cyfryngau cymdeithasol ran fawr yn neinameg y grŵp, â’r disgyblion yn gwirio’u ffonau yn gyson ac yn dechrau siarad am ei effaith negyddol. Roedd peidio gwneud unrhyw beth fyddai’n codi cywilydd arnynt ar y cyfryngau cymdeithasol yn amlwg yn flaenoriaeth iddynt. 

Gwahoddais y cerddor talentog, Maddie Jones, i chwarae rhan yn y prosiect hefyd. Rhannodd gyda’r grŵp gân a soniodd am ei siwrne gyda cerddoriaeth. Cyfansoddodd y grŵp ddwy gân oedd yn canolbwyntio ar y thema o farn eraill, gan gynnwys un o’r enw Bywyd yw Bywyd.  Ysgrifennodd a recordiodd y disgyblion eu penillion gan greu caneuon oedd yn bwerus ac yn amrwd.  Er fod y prosiect yma’n heriol i ddechrau, cefnogodd y disgyblion eu gilydd a gwthio’u hunain a’u gilydd i’w llawn potensial. 

 

Cyfarfodydd Un-i-un 

Cefais gyfle hefyd i gwrdd â disgyblion ar sail un-i-un, yn enwedig y rhai Blwyddyn 10 o’r prosiect cyntaf.  Roedd y sesiynau hyn yn amrywio o ddisgybl i ddisgybl. Siaradais â disgyblion gwrywaidd ifanc, lle oedd fy rôl yn fwy fel mentor a model rôl, gan drio eu hannog i weithio’n galed yn yr ysgol ac edrych ymlaen at y dyfodol. Roedd hyn yn anodd ar adegau oherwydd amgylchiadau heriol adref nifer o’r disgyblion. Yr un mwyaf llwyddiannus oedd â dau ffrind o’r sesiwn cyntaf. Cyflwynodd y ddau ddisgybl hyn allu naturiol i fynegi eu hunain gan ddefnyddio barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol. Er bod gan y ddau nod gwahanol, daethant i’r sesiwn un-i-un gyda’u gilydd bod yn awyddus i gefnogi ei gilydd.  

 

Myfyrdodau Terfynol 

Mae’r cyfnod preswyl hwn wedi bod yn brofiad dysgu gwerthfawr, a hynod gadarnhaol. Rwyf wedi dysgu pwysigrwydd dyfalbarhad wrth weithio gyda phobl ifanc mewn grŵp, gan ddeall bod angen amser arnynt i fagu hyder digonol i gyfrannu’n effeithiol. Mae wedi fy nysgu nad oes angen cynllunio pob gweithdy’n fanwl, a’n aml mae’n well bod yn hyblyg a chael eich arwain gan yr hyn y mae’r grŵp eisiau ei wneud neu ei archwilio. Mae’n amlwg i mi efallai bod ddisgyblion yn profi problemau tebyg neu’n cael trafferth gydag iechyd meddwl, hyd yn oed os yw eu sefyllfa’n wahanol. Mae’n bwysig i ysgolion, fel Basaleg, i ddarparu cymorth pan fo angen ac addysgu disgyblion am iechyd meddwl a’r hyn y gallent ei wneud i gael cymorth. 

Mae cydweithio â thri artist arall wedi bod yn antur hefyd. Roedd yn ddiddorol gweld y dulliau amrywiol a sut y gall gwahanol ffurfiau celf ddod at ei gilydd. Hoffwn ddiolch i Llenyddiaeth Cymru am gredu ynof fi, i Comic Relief am ariannu, i Ysgol Uwchradd Bassaleg ac Emma Gray am eu holl gefnogaeth, i Mind Casnewydd a Leah Williams am ei gwybodaeth a’i chefnogaeth, ac i Bill Taylor-Beales, Amy Moody, Ryan Evans, Maddie Jones am eu talent a’u hangerdd a ddangoswyd i’r prosiect hwn, cafodd pob un ohonynt effaith ar y prosiect.