Proses ymgeisio gyflymach ar gyfer cronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru heddiw yn cyhoeddi proses ymgeisio newydd, gyflymach ar gyfer ei Chronfa Ysbrydoli Cymunedau; cynllun ariannu unigryw ar gyfer digwyddiadau llenyddol.
Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol o hyd at 50% o’r ffioedd sy’n cael eu talu i awduron ar gyfer digwyddiadau llenyddol megis sgyrsiau, darlithoedd, gweithdai ysgrifennu creadigol a mwy. Gall y digwyddiadau hyn gael eu cynnal unrhyw le yng Nghymru, mewn neuaddau pentref, mewn tafarndai, mewn llyfrgelloedd, mewn ysgolion, mewn clybiau ieuenctid – neu hyd yn oed ar lwyfannau digidol ar gyfer grwpiau sy’n cwrdd ar-lein.
Dyma rai enghreifftiau o ddigwyddiadau sy’n gymwys ar gyfer nawdd:
- Ymweliadau untro, neu gyfres o ymweliadau, gan awduron ag ysgolion, llyfrgelloedd, tafarndai, clybiau, cymdeithasau, canolfannau cymunedol a lleoliadau eraill ledled Cymru, sy’n ysbrydoli cymunedau drwy ddarlleniadau, sgyrsiau neu weithdai;
- Rhaglenni mewn lleoliadau neu wyliau sy’n arloesol, yn newydd ac yn gyffrous. Gall hyn gynnwys rhaglenni o ddigwyddiadau llenyddol mewn gwyliau bach neu deithiau llenyddol;
- Darpariaeth lenyddol mewn lleoliadau cymunedol neu leoliadau iechyd er mwyn gwella iechyd a llesiant y cyfranogwyr.
Bellach gofynnir i unrhyw un sy’n gwneud cais am y gronfa hon lenwi un o ddwy ffurflen gais (un yn ymwneud â digwyddiadau i oedolion, a’r llall yn ymwneud â digwyddiadau i blant a phobl ifanc) hyd at ddeufis cyn eu digwyddiad. Gall ymgeiswyr llwyddiannus hawlio eu cyllid o fewn mis ar ôl y digwyddiad.
Caiff y cynllun ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa a’i phroses ymgeisio newydd, darllenwch yr adran Nawdd ar y wefan.