Rhaglen Ddigidol Rhad ac am Ddim i Ddatblygu Awduron Cymru

Gall unrhyw un gofrestru yn rhad ac am ddim i ymuno â’r sgyrsiau hyn, sydd wedi eu trefnu i roi awduron ar ben y ffordd gyda’u gyrfaoedd llenyddol. Bydd cyfle i gwrdd â golygyddion gweisg, awduron llwyddiannus a’r rhai sy’n gweithio o fewn y diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y digwyddiadau yn gyflwyniad hefyd i rai o brif raglenni a phrosiectau Llenyddiaeth Cymru yn cynnwys Cynrychioli Cymru, ‘Sgwennu’n Well, Llyfr y Flwyddyn, Pencerdd a Bardd Plant Cymru, gan roi blas i chi o’r holl ffyrdd y gall Llenyddiaeth Cymru gynnig cymorth a’ch tywys ar hyd eich taith fel awdur.
Webinarau fydd y digwyddiadau, felly cewch ymuno dros ginio neu swper, a bydd cyfle i gymryd rhan o bell drwy yrru eich cwestiynau i’n paneli amrywiol hefyd.
Porwch drwy’r digwyddiadau ac archebwch eich lle heddiw.
Cefnogir y digwyddiadau gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.