Dewislen
English
Cysylltwch

Rhanna Dy Eiriau: Prosiect newydd cyffrous yng Nghasnewydd

Cyhoeddwyd Maw 24 Awst 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhanna Dy Eiriau: Prosiect newydd cyffrous yng Nghasnewydd
Mae Llenyddiaeth Cymru yn hynod falch o ddathlu llyfryn newydd wedi ei greu â chyfranogwyr o gefndiroedd amrywiol yng Nghasnewydd.

Yn ystod gweithdai wyneb yn wyneb ym mis Gorffennaf 2021, ymunodd dau ddeg tri o bobl i archwilio gyda geiriau yn greadigol, er mwyn creu lluniau argraffwaith unigol.

Cafodd y brosiect ei gydlynu gan Llenyddiaeth Cymru fel rhan o brosiect Llên Pawb a ariannwyd gan Llenyddiaeth Cymru a Llyfrgelloedd Casnewydd, mewn partneriaeth â’r Share Centre. Y bardd a’r argraffwr Francesca Kay a’r artist Sarah Fatherstone oedd yn arwain y gweithdai, ac mae’r gwaith wedi ei gyflwyno yn y llyfryn sydd i’w weld isod.

Mae cyfranogi yn un o dri colofn gweithgaredd a phrif feysydd gwaith Llenyddiaeth Cymru. Ein nod yw darparu rhagor o gyfleodd i bobl Cymru gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol ac ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol.

Ar sail ein dealltwriaeth fod gan lenyddiaeth y grym i wella a gweddnewid bywydau, a’r angen i gynnal gweithgareddau lle y byddant yn cael yr effaith mwyaf, rydym wedi nodi tair Blaenoriaeth Dactegol a fydd yn berthnasol i bob un o’n Colofnau Gweithgaredd, sef Cynrychiolaeth a ChydraddoldebIechyd a Llesiant, a Phlant a Phobl Ifanc. Nid mathau o weithgaredd yw’r rhain, ond yn hytrach themâu a gaiff eu cynnwys ym mhopeth y byddwn yn eu cyflawni, gan gynnwys ein gwaith-ar-y-cyd a’n gwaith hwyluso.

Dywedodd Sarah Featherstone:

Roedd yn hyfryd gallu hwyluso’r prosiect hwn wedi cyfnod o bymtheg mis ers y cyfarfod cynllunio gwreiddiol, cyn y cyfnod clo.

Roedd y Share Centre yn le perffaith i gyfranogwyr ymlacio mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar, a phellhau yn gymdeithasol. Rhoddodd pawb dro ar arlunio gwaith, gan arwain at gasgliad hynod amrywiol a hyfryd o unigryw, gyda phatrymau a darluniau prydferth. Dewisodd rhai o’r cyfranogwyr eiriau i adlewyrchu eu ffydd a dathlu Eid, gydag eraill yn dewis enw plentyn, neu eiriau â chyseiniant emosiynol cryf.

Roedd ymdeimlad o dawelwch a chanolbwyntio wrth i bawb weithio ar y cyd ar eu dyluniadau, yn ymwybodol o eraill yn yr ystafell, ond eto yn eu byd creadigol eu hunain, ble nad oedd pryderon na meddyliau allanol, na chyfyngiadau amser, i weld yn bodoli am gyfnod. Efallai fod ymdeimlad isymwybodol o ryddhad hefyd gan ein bod yn casglu at ei gilydd eto ar ôl y cyfnod clo.

Yn ôl Francesca Kay:

Mae rhywbeth syml iawn ac eto’n ddwys iawn am ystyried geiriau, a’u mynegi, gan eu codi i’r wyneb.

Wedi ei gyfuno â chysodi, argraffwaith, a chelf, daeth y broses yn ddathliad unigryw, ac yn gyfle i ymwelwyr y gweithdai gael amser iddyn nhw eu hunain, gan fynegi yr hyn a fynnent trwy eu geiriau wedi eu printio, a’r ffordd y cafodd eu cyflwyno.

Roeddem yn falch iawn o fod allan yn y byd go iawn yn rhannu ein sgiliau a’n brwdfrydedd, a chael cynnal y prosiect er gwaethaf oedi anochel Covid.