Dewislen
English
Cysylltwch

Saith bardd yn ennill lle ar Ddosbarth Meistr Barddoniaeth gyda Gillian Clarke

Cyhoeddwyd Mer 17 Meh 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Saith bardd yn ennill lle ar Ddosbarth Meistr Barddoniaeth gyda Gillian Clarke

Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd yn 30 oed, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi enwau’r saith bardd sydd wedi eu dethol ar gyfer ein Dosbarth Meistr Barddoniaeth digidol cyntaf erioed dan arweiniad Gillian Clarke, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru ac un o sefydlwyr y Ganolfan.

Bydd y cwrs, sy’n digwydd rhwng 15 – 19 Mehefin 2020, yn gyfle i feirdd ymroddedig ddatblygu eu crefft ymhellach drwy ddatblygu siâp, sain a phosibiliadau creadigol eu barddoniaeth. Dros gyfnod o bum niwrnod ceir cyfle i ysgrifennu, cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a derbyn adborth beirniadol ar eu cerddi. Yn ystod yr wythnos bydd y bardd Mona Arshi yn rhoi darlleniad er mwyn ysbrydoli gwaith y beirdd. Bydd y cwrs yn dod i ben gyda chyhoeddi blodeugerdd ddigidol o gerddi’r gweithdai.

Cafodd y saith bardd eu dethol gan Gillian Clarke mewn proses ymgeisio gystadleuol. Llongyfarchiadau mawr iddynt a gobeithio y cawn eu croesawu i Dŷ Newydd pan y bydd modd ail-agor y ganolfan yn ddiogel.

Bydd rhagor o gyrsiau digidol amrywiol yn cael eu cyhoeddi yn fuan, felly cadwch lygaid ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

 

Y Beirdd

Mae barddoniaeth Abeer Ameer wedi ymddangos mewn sawl cyfnodolyn print a digidol gan gynnwys Acumen, The Interpreter’s House, Planet, Tears in the Fence, Magma, Long Poem Magazine, Poetry Wales a’r New Welsh Reader. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth yn barod i’w gyhoeddi gan Seren yn 2021.

Astudiodd Annie Butler Celf Gain a Dylunio yng Nghaerfyrddin. Bellach mae hi’n byw ac yn gweithio ger Llanbedr Pont Steffan. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi mewn amryw gylchgronau ar y we ac mewn blodeugerddi gan gynnwys Forward Book of Poetry, Lampeter Review a Red Poets. Yn 2017 enillodd wobr farddoniaeth R.S Thomas. Mae ganddi ddiddordeb mewn  perfformio barddoniaeth ac mae’n un o feirdd PENfro wedi’i lleoli yn Rhosygilwen. Mae hi’n gweithio ar ei hail gasgliad o farddoniaeth ar hyn o bryd.

 

Ganed Mick Evans yn Llundain a fe’i magwyd yn Swydd Hertford. Bu’n athro yn Llundain, Sir Caer ac yn Nyffryn Tywi, pan symudodd yno yn 1985 i ailsefydlu gwreiddiau Cymreig ei deulu. Caiff ei ysbrydoli gan dirwedd lleol a gan ymdeimlad o’r gorffennol. Ceir atseiniau o’i darddiad dinesig yn ei waith yn ogystal.

Ganed a magwyd Kathryn Hill yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd mae hi’n byw yn Ffynnon Taf. Cwblhaodd ei gradd gyntaf mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol fel myfyriwr hŷn. Mae hi ar fin gorffen ei gradd MPhil mewn Ysgrifennu ym Mhrifysgol De Cymru. Mae hi’n fam i bump o blant, sy’n amrywio mewn oedran o ddeuddeg i bedair wythnos oed.

Mae Miles Hovey yn astudio BA mewn Ysgrifennu Creadigol yn Aberystwyth. Treuliodd 35 o flynyddoedd yn gweithio fel adeiladwr yn Sir Benfro ar ôl symud o Lundain, lle bu’n frocer ym manc Lloyds, yn lafurwr amaethyddol, ac yn gychwr ar yr afon. Aeth i Brifysgol Reading ar ôl mynychu ysgol yng Ngholeg Eton. Mae’n briod gyda thri o blant.

Ganed a magwyd Carole Powell yn Swydd Hertford. Erbyn hyn mae hi’n byw yn Sir Benfro. Mae hi wrth ei bodd â’r arfordir, bryniau, yr awyr, coed, yoga a somatics. Yn aml iawn fe ddowch o hyd iddi’n crwydro yn yr awyr agored gyda’i chamera yn recordio synau’r byd natur er mwyn ysbrydoli ei gwaith.

Taz Rahman yw sylfaenydd y sianel farddoniaeth gyntaf yng Nghymru ar YouTube, ‘Just Another Poet’. Derbyniodd gomisiwn i awduron gan Llenyddiaeth Cymru yn 2020, ac yn ddiweddar enillodd chwe wythnos o fentora gan y bardd o Lundain, Caleb Femi. Mae ei gyhoeddiad diweddaraf i’w ganfod ym mlodeugerdd dathliadau Diwrnod Dylan Thomas, Love the Words.

Tŷ Newydd