Dewislen
English
Cysylltwch

Cronfa Gerallt yn cefnogi Kayley Sydenham i fynychu Cwrs Cynganeddu Tŷ Newydd

Cyhoeddwyd Iau 14 Ebr 2022 - Gan Barddas
Cronfa Gerallt yn cefnogi Kayley Sydenham i fynychu Cwrs Cynganeddu Tŷ Newydd

Eleni bydd y bardd ifanc o Gasnewydd, Kayley Sydenham, yn derbyn nawdd gan Gronfa Gerallt i fynychu cwrs cynganeddu yng Nghanolfan Ysgrifennu Cenedlaethol Tŷ Newydd.

Mae enwebiad Kayley yn adlewyrchu ei dawn amlwg fel bardd a’r ymroddiad a’r brwdfrydedd y mae wedi dangos dros y blynyddoedd diwethaf. Enillodd Kayley brif wobr farddoniaeth Eisteddfod T yr Urdd yn 2021, mae wedi bod yn Fardd y Mis ar Radio Cymru, ac wedi cyfrannu’n helaeth at baneli a sgyrsiau a drefnwyd gan Barddas ers pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gwynllyw. Mae hefyd wedi cyhoeddi ei cherddi yng nghylchgrawn Barddas.

Dywedodd Kayley, sydd ar hyn o bryd yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor: “Hoffwn ddiolch i dîm Llenyddiaeth Cymru a Barddas am y cyfle arbennig yma. Roeddwn i wrth fy modd a mor werthfawrogol wrth dderbyn y newyddion – dw i’n lwcus iawn! Edrychaf ymlaen at ymweld â Thŷ Newydd unwaith eto, rwy’n awyddus i gwrdd â phawb. Rydym yn hynod o ffodus i gael cyfle i fod yng nghwmni Mererid Hopwood a Karen Owen dros y penwythnos. Edrychaf ymlaen at ehangu fy nealltwriaeth ym maes hudolus y Gynghanedd, a gobeithiaf eich gweld ar y cwrs!”

Dywedodd Aneirin Karadog, Cadeirydd Barddas:

“Rydym yn falch o weld arlwy cynganeddol yn parhau i gael ei gynnig yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, canolfan sy’n cynnig pob math o gyfleoedd i feirdd a llenorion o bob math, yn gywfeirdd neu’n nofelwyr profiadol, o’r cyrsiau dan arweiniad tiwtoriaid i’r cyfleoedd am encil er mwyn gallu cynhyrchu gwaith mewn llonyddwch mewn lleoliad bendigedig. Braint Barddas yw parhau i gefnogi’r cwrs yn sgil creu partneriaeth ffurfiol o gydweithio gyda Llenyddiaeth Cymru ac mae’n bleser mawr gallu noddi bardd ifanc arall drwy arian Cronfa Gerallt, a sefydlwyd yn sgil marwolaeth y diweddar Brifardd-Feuryn Gerallt Lloyd Owen i hybu’r to nesaf o feirdd.  Mae Kayley Sydenham yn dilyn ôl-traed sawl bardd sydd bellach yn enwau cyfarwydd a’n gobaith yw y bydd hithau yn cael budd mawr o diwtoriaeth Karen Owen a’r Prifardd Mererid Hopwood.”

Cynhaliwyd 4 cwrs cynganeddu wythnos o hyd rhwng 2016 a 2019 fel cydweithrediad rhwng Barddas a Chanolfan Ysgrifennu Cenedlaethol Ty Newydd. Mae Kayley yn dilyn ôl troed nifer o feirdd a noddwyd i fynychu’r cyrsiau hynny yn Nhŷ Newydd, beirdd sydd bellach wedi sefydlu eu hunain ym myd llenyddiaeth Cymru, gan gynnwys Caryl Bryn, Grug Muse, Morgan Owen ac Osian Wyn Owen.

Meddai Leusa Llewelyn, Arweinydd Creadigol Llenyddiaeth Cymru: “Mae Llenyddiaeth Cymru yn hynod falch o gydweithio unwaith yn rhagor gyda Barddas er mwyn noddi bardd ifanc drwy haelioni Cronfa Gerallt i ymuno â’n cwrs cynganeddu preswyl blynyddol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Braf iawn yw clywed mai’r bardd ifanc Kayley Sydenham, a fu yma ar Gwrs Olwen rai misoedd yn ôl, sydd yn derbyn yr ysgoloriaeth eleni. Edrychwn ymlaen at ei chroesawu hi ar y cwrs a fydd yn cael ei arwain gan Mererid Hopwood a Karen Owen ym mis Mehefin. Hoffwn annog eraill i gofrestru ar y cwrs hefyd tra fod llefydd ar gael – mae croeso cynnes i ddechreuwyr ac i feirdd sydd â pheth profiad o’r gynghanedd eisoes.”

Eleni fydd y tro cyntaf i Barddas a Tŷ Newydd gynnig cwrs sy’n arbennig i fenywod ac unigolion anneuaidd, gan greu gofod diogel dan adain y tiwtoriaid Mererid Hopwood a Karen Owen.

Sefydlwyd Cronfa Gerallt er cof am Gerallt Lloyd Owen, a oedd, gydag Alan Llwyd, yn un o olygyddion cyntaf cylchgrawn Barddas.

Cynhelir y Cwrs Cynganeddu yn Nhŷ Newydd o ddydd Gwener 10 Mehefin 2022 – Sul 12 Mehefin 2022. Pris y cwrs yn cynnwys llety yw £250 – £350 y pen.

Tŷ Newydd