Dewislen
English
Cysylltwch

Sgwennu’n Well 2025-2026: Agor i Geisiadau

Cyhoeddwyd Maw 21 Ion 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Sgwennu’n Well 2025-2026: Agor i Geisiadau
Ydych chi’n fardd neu’n awdur sydd eisiau datblygu eich sgiliau wrth gyflwyno gweithgareddau ysgrifennu creadigol a phrosiectau iechyd a llesiant yn eich cymuned leol? Ydych chi’n credu yng ngrym llenyddiaeth a natur i ysbrydoli, gwella a chyfoethogi bywydau? Ydych chi’n llawn angerdd dros archwilio sut y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol gefnogi iechyd meddwl, gwella hunanhyder neu oresgyn trawma? Yna rydyn ni eisiau clywed gennych chi.    

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cyfle datblygu ar gyfer hwyluswyr llenyddol yn dychwelyd am ail flwyddyn. Mae ‘Sgwennu’n Well | Writing Well yn rhaglen 15 mis mewn dwy ran, ac mae chwe lle ar gael. Mae rhan un yn cynnig hyfforddiant dwys gyda’r nod o wella’r sgiliau sydd eu hangen i hwyluso gweithgareddau llenyddol yn y gymuned, a bydd rhan dau yn cefnogi’r garfan o hwyluswyr i greu a chyflwyno prosiectau cyfranogi sydd o fudd i iechyd a llesiant y cyfranogwyr. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5.00 pm, dydd Iau 13 Mawrth 2025

Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau mentora, ysgoloriaeth o £1,000, cyfres o bedair sesiwn hyfforddi arlein, cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a mwy.  

Bydd y tri mis cyntaf yn cynnig cyfleoedd i fireinio sgiliau mewn meysydd fel datblygu a rheoli prosiectau, rhedeg cyllidebau, nodi a chyfathrebu effaith, diogelu eu grwpiau, codi arian a mwy. Bydd y grŵp hefyd yn archwilio theori ac ymarfer cynnal prosiectau llenyddiaeth er mwyn iechyd a lles ar gyfer amrywiaeth eang o gyfranogwyr mewn lleoliadau amrywiol. 

Yn dilyn y rhaglen hyfforddi tri-mis gychwynnol, a thri mis o gynllunio, y bwriad yw cynnig cronfa o gyllid i hwyluswyr i gyflawni prosiectau y maent wedi’u dylunio a’u cynllunio yn ystod camau cychwynnol y rhaglen. 

I ddarllen y manylion yn llawn, gan gynnwys beth yn union mae’r rhaglen yn ei olygu, beth yw’r meini prawf cymhwysedd, a sut i wneud cais, ewch i dudalen brosiect Sgwennu’n Well.